Canllaw digwyddiadau

Bydd yr adran hon o'r wefan yn helpu trefnwyr i gynnal digwyddiadau'n ddiogel.

Mae cynllunio a threfnu da yn hanfodol er mwyn cynnal digwyddiad sy'n ddiogel a hwylus.

Cymerwch olwg ar y canllaw A i Y hwn i’ch helpu i gyflwyno eich cais am ddigwyddiad. Rydym wedi ceisio cysylltu’r holl adrannau i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Fe welwch hefyd ddolenni i dudalennau priodol ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 

A

Cyn eich digwyddiad dylech ddatblygu gweithdrefnau i staff a gwirfoddolwyr eu dilyn rhag ofn y bydd digwyddiad sy'n gysylltiedig â'r parc.

Dylid adrodd am ddigwyddiadau wrth Staff Parc Bute cyn gynted â phosibl fel y gellir dwysáu'r sefyllfa os oes angen.

Gall digwyddiadau amrywio, er enghraifft:

Gweler Cysylltu â'r Parc
Gweler Cynlluniau mewn Argyfwng
Gweler Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiadau

Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

https://bute-park.com/cy/event_guide/adrodd-am-ddigwyddiad/

Cyn eich digwyddiad dylech ddatblygu gweithdrefnau i staff a gwirfoddolwyr eu dilyn rhag ofn y bydd mater yn codi sy'n gysylltiedig â'r parc.

Os digwydd problem â bolardiau, rhaid i chi adrodd hyn wrth  Dîm Parc Bute yn syth gyda ffotograffau fel y gellir uwchgyfeirio’r sefyllfa os oes angen.

Mae canllaw ar gael ar weithredu Bolardiau Parc Bute yn ddiogel

Llenwch adroddiad ar achos, mae'n hanfodol bod y wybodaeth ganlynol yn cael ei chofnodi:

  • Dyddiad
  • Amser
  • Enw'r person sy'n cofnodi’r achos:
  • Enw'r gyrrwr
  • Enw’r cwmni
  • Cyfeiriad y gyrrwr/cwmni
  • Rhif ffôn symudol y gyrrwr
  • Rhif cyswllt y cwmni
  • Math a model y cerbyd
  • Rhif cofrestru   
  • Enw’r cwmni yswiriant
  • Tynnwch luniau yn dangos y difrod i'r bolard a'r cerbyd
  • Rhowch fanylion cyswllt unrhyw lygad-dystion.

Sylwch: Mae isafswm ffi weinyddol o £50+TAW yn dilyn problem â bolardiau. Codir anfoneb ar gyfer costau adenilladwy i dalu am unrhyw waith atgyweirio a chostau galw allan.Dylid rhoi gwybod i staff Parc Bute am unrhyw achosion cyn gynted â phosibl:
Gweler Cysylltwch â'r Parc
Gweler Ffurflen Adrodd am Achosion
Gweler Ymateb i Arllwysion

https://bute-park.com/cy/event_guide/adroddiad-digwyddiad-bolardiau/

Mae hyn yn berthnasol i bob digwyddiad ac mae'n cynnwys y rhai lle mae tocynnau a werthir yn cynnwys darparu alcohol, darparu alcohol yn gyfnewid am arian neu ddarparu alcohol yn rhad ac am ddim.

Cyfeiriwch at fanylion Trwydded Safle safonol y safle a roddir yn Gweithgaredd Trwyddedadwy os ydych yn bwriadu darparu alcohol o far neu gan arddangoswyr mewn cynwysyddion ar gyfer yfed oddi ar y safle fel poteli ac ati.

Chi fel Trefnydd y Digwyddiad sy'n gyfrifol am gadarnhau amodau'r drwydded a fydd yn berthnasol i'ch digwyddiad penodol a sicrhau y cedwir yn gaeth at holl amodau'r drwydded.

Efallai y bydd swyddog Cyngor yn ymweld â chi neu un a benodwyd dros gyfnod y digwyddiad i sicrhau y cedwir at delerau ac amodau y drwydded. Mae'r tâl am yr ymweliadau trwyddedu yn seiliedig ar isafswm galwad 4 awr a'r gyfradd dros y penwythnos yw £24/hr +TAW.

Cyflwynwch yr holl waith papur i’r Swyddog Digwyddiadau Cyngor Caerdydd perthnasol yn y lle cyntaf drwy parcbute@caerdydd.gov.uk

Trwydded Safle / Amrywio Goruchwylydd Safle Dynodedig (GSD/DPS)

Mae gan ein safle Parc Bute / Gerddi Soffia Drwydded Safle.  Fodd bynnag, nid oes swyddog penodedig Goruchwylydd Safle Dynodedig (GSD) a enwir ar y drwydded ac felly nid yw'n bosibl gwerthu alcohol ar y safle. Er mwyn gweini alcohol ar y safle, rhaid i drefnydd digwyddiad gynnig GSD.

Rhaid i'r GSD fod yn (deiliad trwydded bersonol) gymwys ac addas a bod â digon o atebolrwydd/cyfrifoldeb dros reolaeth digwyddiadau i sicrhau bod y pedwar amcan trwyddedu a’r amodau trwydded yn cael eu bodloni (Parc Bute / Gerddi Soffia). Efallai y bydd hyn yn gofyn am gyfrifoldeb terfynol dros wneud penderfyniadau ar faterion ehangach, e.e. amseroedd rhedeg adloniant, diogelwch a'r gallu i wneud penderfyniadau ar y safle yn y digwyddiad.

Mae hyn yn golygu nad yw o reidrwydd yn briodol mai'r GSD yn syml yw'r gweithredwr bar. Byddem yn edrych ar eich strwythur gorchymyn a rheoli digwyddiadau i fodloni ein hunain y gall yr unigolyn arfaethedig gyflawni'r ddyletswydd yn effeithiol cyn cytuno i dderbyn eich GSD arfaethedig.

Amserlen Weithredu/Cynllun Gweithredol

Bydd Panel Cyswllt y Digwyddiad (PCD) yn chwilio am sicrwydd bod GDS priodol wedi'i sicrhau felly gwnewch hynny yn rhan o'ch cyflwyniad iddynt.

Mae ein trwydded yn mynnu bod Amserlen Weithredu/Cynllun Gweithredol yn cael ei gyflwyno i’r PCD a Thrwyddedu Heddlu De Cymru (HDC) dim llai na 56 diwrnod cyn y digwyddiad.

Bydd y drwydded yn cael ei phasio i Drwyddedu HDC a Thîm Trwyddedu'r Cyngor gan Gyngor Caerdydd fel deiliad y Drwydded Safle. 

Os yw HDC yn derbyn yr amserlen weithredu yn hwyrach na 56 diwrnod cyn y digwyddiad, yna gellir gosod amodau.  Byddai'r rhain yn cael eu cadarnhau'n ysgrifenedig gan HDC o fewn 10 diwrnod i dderbyn hysbysiad o'r digwyddiad.

Cwblhewch a dychwelyd y "Cynllun Gweithredol – Templed 2022 f3"

Amrywio Goruchwylydd Safle Dynodedig (GSD)

Bob tro mae digwyddiad yn ein safle lle bydd alcohol yn cael ei werthu, mae angen cyflwyno cais i parcbute@caerdydd.gov.uk gan drefnydd y digwyddiad i amrywio'r GSD o leiaf 14 diwrnod cyn y digwyddiad, ond gorau po gyntaf.

Parc Bute fydd yn talu'r ffi i newid y GSD, mae hyn wedi ei gynnwys yn eich ffi llogi. Mae gennym drefniant yn fewnol gyda'r Tîm Trwyddedu.

Cwblhewch

  1. "Ffurflen Caniatâd GSD Parc Bute"
  2. Proses ymgeisio i amrywio’r ffurflen GSD

Rhaid cyflwyno'r cais hwn ynghyd â ffurflen ganiatâd wedi'i llofnodi gan y GSD arfaethedig.

Bydd angen i'r GSD cymeradwy hefyd dynnu eu hunain oddi ar y Drwydded Safle ar ôl y digwyddiad (Cais i gael dileu fel goruchwylydd safle dynodedig i Gyngor Dinas Caerdydd (www.gov.uk) ) neu byddant yn aros fel GSD yn barhaus.

Efallai y bydd aelod o'r Cyngor yn ymweld â chi i sicrhau bod telerau ac amodau eich trwydded yn cael eu cynnal.Cyswlltwch â’r  Panel Cyswllt Digwyddiadau
Gweler PCD
Gweler Safonau Masnach

https://bute-park.com/cy/event_guide/alcohol/

Dylai pob digwyddiad ddarparu Amserlen Gynhyrchu a Rhestr Gerbydau gyda lefel briodol o fanylder ar gyfer cyfnod llawn y digwyddiad. Yn dibynnu ar raddfa neu gynllun eich digwyddiad, bydd angen lefel benodol o reoli traffig.

Dylai eich Rhestr Ddigwyddiadau a Cherbydau gwmpasu'r HOLL weithgareddau allweddol fydd ar y safle o'r adeg y byddwch yn cymryd meddiant i'r adeg y byddwch chi/eich seilwaith diwethaf yn gadael.  Yn bwysig, rhaid iddi nodi pa gerbydau (math a maint) sy'n mynd i mewn i'r parc a pha bryd. 

Mae'r Atodlen hon yn ein galluogi i ddeall eich digwyddiad yn gywir ac, os oes angen, archebu cymorth Goruchwylydd Safle priodol.

Dylid cynnwys drafft gyda'ch Cais Rhan 1.

Cofiwch, oherwydd digwyddiad rheolaidd y Park Run (tua 600 o redwyr yr wythnos ar gyfartaledd) http://www.parkrun.org.uk/cardiff/course/ ni ellir symud cerbydau y tu mewn i Barc Bute rhwng y bont mynediad i gerbydau a phen uchaf Cae Cooper rhwng 09.00 a 09.45am ar Ddydd Sadwrn.

Sylwch na chaniateir newidiadau yn eich rhestr ddigwyddiadau/cerbydau heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol.

 Ystyriwch:

https://bute-park.com/cy/event_guide/amserlen/

Os cynigir bod eich digwyddiad yn cynnwys anifeiliaid, bydd angen i chi ystyried materion penodol sy'n ymwneud â lles anifeiliaid a diogelu iechyd y cyhoedd.  

Dylid cynnwys manylion unrhyw atyniadau anifeiliaid anwes/trin anifeiliaid yn eich asesiad risg digwyddiad.  Rhaid darparu cyfleusterau golchi dwylo addas.

Sicrhewch fod unrhyw berchnogion/pobl trin anifeiliaid yn cydymffurfio â gofynion Deddf Lles Anifeiliaid 2006. Yr e-bost cyffredinol ar gyfer ymholiadau clefydau trosglwyddadwy yw surveillance.requests@wales.nhs.uk

Ni chaniateir i stondinau roi anifeiliaid anwes (pysgod aur ac ati) i’w gwerthu na’u rhoi’n wobr.

Cyswllt Panel Cyswllt Digwyddiadau
Gweler Safonau Masnach

https://bute-park.com/cy/event_guide/anifeiliaid/

Mae rhai o safleoedd y digwyddiadau mewn ardaloedd archeolegol sensitif e.e. yn rhan ddeheuol Parc Bute.

Dylech ddyfynnu lleoliad unrhyw bolion baneri a goleuadau eich gŵyl ac ati ar eich Cynllun Safle i'w cytuno o flaen llaw.

Holwch Reolwr Digwyddiadau'r Parc os ydych yn cynnig gwneud unrhyw waith cloddio yn ymwneud â'ch digwyddiad. Rhaid i Reolwr Digwyddiadau'r Parc roi caniatâd o flaen llaw ar gyfer cloddio  (ni fydd yn briodol gofyn i Oruchwyliwr y Safle am hyn) ac efallai y bydd angen briff gwylio archeolegol. Gellir trefnu hyn cyn belled â bod digon o rybudd o flaen llaw.

https://bute-park.com/cy/event_guide/archaeoleg/

Trefnydd y Digwyddiad sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr holl drefniadau arlwyo yn cydymffurfio â:

Mae'r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd sy'n mynychu digwyddiadau ar eu tir gydymffurfio'n gyffredinol.  Mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw ddarparwr bwyd a/neu ddiod gael sgôr hylendid bwyd o 3 neu uwch er mwyn masnachu mewn digwyddiadau a gynhelir ar dir sy'n eiddo i Gyngor Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys arlwyo cyhoeddus / gwestai, stondinau bwyd ac arddangoswyr, bariau (unedau symudol ac adeiladau dros dro ar y safle), arlwyo criwiau / staff, arlwyo VIP / lletygarwch, busnesau sy'n cynnig samplau, ac ati.

Mae sgoriau hylendid bwyd ar gyfer busnesau bwyd a diod unigol i'w gweld ar y wefan sgoriau hylendid bwyd https://ratings.food.gov.uk/

Mae trefnwyr digwyddiadau hefyd yn gyfrifol am wirio sgoriau hylendid bwyd ar gyfer pob busnes bwyd / diod o leiaf 3 wythnos cyn y digwyddiad i sicrhau bod sgoriau yn dal i fod yn gyfredol. Gall oedi o ran rhoi gwybodaeth arwain at gost a/neu ymyriadau posibl yn ôl disgresiwn SRS.  Gallai methu â chydymffurfio â'r gofynion hyn arwain at dynnu darparwyr bwyd / diod o safle digwyddiad.

Y llogwr sy’n gyfrifol dros sicrhau bod pob masnachwr bwyd trydydd parti wedi cael sgôr hylendid bwyd o 3 o leiaf yn unol â’r Polisi Diogelwch Bwyd Cydymffurfio’n Gyffredinol.   Mae arlwyno’n cynnwys:

  • Arlwyo criw/staff
  • Arlwyo cyhoeddus / gwesteion
  • Arlwyo Pobl Bwysig
  • Stondinau ac arddangoswyr bwyd
  • Barau (unedau symudol ac adeiladau dros dro ar y safle)

Dylid darparu'r wybodaeth ganlynol yn Rhan 2 eich ffurflen gais digwyddiad:

  • Enw'r Uned Arlwyo (cofrestredig)
  • Enw'r Uned Arlwyo (enw masnachu os yw'n wahanol i'r uchod)
  • Cod Post Cofrestredig 
  • Dolen at y sgôr Drwy’r Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Enw a manylion y person ar y safle sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros wirio bod unedau arlwyo yn cydymffurfio â’r sgôr seren.

Bydd y rhestr a ddarperir yn cael ei gwirio gan Swyddog Digwyddiadau Parc Bute cyn eich digwyddiad. Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i'ch trefniadau arlwyo heb ganiatâd ymlaen llaw a gwaith papur perthnasol yn ei le.

Mae'r llogwr yn gyfrifol am wirio'r sgoriau ar gyfer pob uned bythefnos cyn y digwyddiad er mwyn sicrhau bod y sgôr yn gyfredol ac yn uwch na 3 seren gan y gall pethau newid.

Bydd cynrychiolydd y lleoliad yn cadarnhau enw a sgôr pob uned wrth gyrraedd y safle.  Mae’n bosibl na chaniateir i unedau na allant ddangos tystiolaeth o'r sgôr ofynnol sy’n o leiaf 3/5 ddod i mewn neu efallai y cânt eu hatal rhag masnachu ar y safle.

Gall Swyddog Iechyd yr Amgylchedd archwilio cyfleusterau arlwyo a ddarperir mewn digwyddiadau cyhoeddus ar unrhyw adeg.  Gwrthodir mynediad i unedau arlwyo symudol nad ystyrir eu bod yn dderbyniol gan y Gwasanaethau Amgylcheddol i'r Parc.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am ganslo neu gau'r digwyddiad, na chau unrhyw unedau arlwyo unigol, oherwydd diffyg cydymffurfio â chyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.

Mae Rhestr Wirio Arlwyo Awyr Agored ar gael i'ch helpu er mwyn sicrhau bod eich busnesau bwyd yn gweithredu at y safonau hylendid uchaf drwy gydol y digwyddiad.  Mae'r rhestr wirio hon yn seiliedig ar Ganllawiau Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ar gyfer Digwyddiadau Arlwyo Awyr Agored.  Trefnydd y Digwyddiad sy'n gyfrifol bod pob arlwywr yn cael rhestr wirio contractwr ac yn cael gwybod am y Telerau ac Amodau a nodir yn y llawlyfr hwn, ac yn cydymffurfio â nhw.  Dylech weithio drwy'r rhestr wirio a sicrhau bod popeth yn ei le gennych cyn y digwyddiad.

Mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir y Cyngor yn dymuno annog a hyrwyddo rhoi bwyd ar gael sy'n iachus ac o ansawdd maethol uchel.

Rhaid i bob uned arlwyo symudol ddarparu biniau sbwriel wrth ymyl eu hunedau y mae'n rhaid eu gwagio'n rheolaidd yn ystod digwyddiad.

Gofynion golchi dwylo ar gyfer busnesau bwyd sy'n gweithredu mewn digwyddiadau:

  • Unedau teal gyda dŵr sy’n llifo: pob arlwywr; manwerthwyr sy'n cynnig bwyd agored risg uchel, parod i’w fwyta fel pastai cig, caws, hufen iâ, cigoedd wedi'u coginio ac eitemau deli tebyg, pysgod cregyn wedi'u coginio ac ati, manwerthwyr cig / pysgod / dofednod amrwd; pawb sy'n darparu darnau blasu gan y bydd bwydydd agored a thrin â dwylo.
  • Bowlen o ddŵr (rhaid cael mynediad at ddŵr poeth a gallu ei ailgyflenwi'n rheolaidd er mwyn osgoi cawl o facteria): manwerthwyr bwydydd agored risg isel fel melysion, bara, bisgedi ac ati.
  • Mynediad cymunedol at gyfleusterau golchi dwylo: manwerthwyr yr holl fwydydd wedi'u pecynnu lle nad oes dadlapio/torri ac mae’r cynnyrch yn cael ei werthu wedi'i lapio a'i selio fel y cyrhaeddodd ar y safle.
  • Rhaid bod cynnyrch golchi dwylo gwrth-facteria a ffordd addas o sychu dwylo, megis tyweli papur.

Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Cyswllt Panel Cyswllt Digwyddiadau
Gweler Cymorth ELP
Gweler Gweithgaredd Trwyddedadwy
Gweler Safonau Masnach

https://bute-park.com/cy/event_guide/arlwyo/

Mae gan Barc Bute stoc o arwyddion diogelwch dwyieithog y gellir eu defnyddio ar draws y safle pan fydd y parc mewn 'modd digwyddiadau'.  Mae hyn er gwybodaeth i ddefnyddwyr y parc a staff a gyrwyr y digwyddiad. 

Mae'r arwyddion yn ddwyieithog a byddwn yn darparu map yn dangos i chi lle y dylid eu gosod.  Trafodwch osod yr arwyddion gyda Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau a/neu Oruchwyliwr y Safle.Anfonwch aelod o'ch tîm i gasglu'r rhain o Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute.  Dylid casglu'r arwyddion a'u dychwelyd ar ddiwedd eich digwyddiad. 

ArwyddLliw’r Arwydd
Nifer sydd ar gael
5mya Gwyn3
Stopiwch ac Arhoswch Coch2
Gofal Cerddwyr Coch5
Safle'r Digwyddiad (saeth i’r chwith) Coch 2
Safle'r Digwyddiad (saeth i’r dde) Coch 1
Gofal cerbydau digwyddiadau Gwyrdd2
Llwybr o’ch blaen wedi cau Gwyrdd4
Gwyriad (saeth i’r chwith) Gwyrdd1
Gwyriad (saeth i’r dde) Gwyrdd 2
Gwyriad (saeth ddwbl) Gwyrdd4

Gweler Rheoli Traffig

https://bute-park.com/cy/event_guide/arwyddion-modd-digwyddiadau/

Trefnydd y Digwyddiad yn unig sy'n gyfrifol am sicrhau bod cynnwys yr asesiad risg sy'n benodol i'r safle ac i’r digwyddiad yn addas ac yn ddigonol ac am sicrhau bod y mesurau lliniaru yn yr asesiad risg yn cael eu dilyn.

Mae Templed Asesu Risg ar gael a dylai Asesiad Risg gynnwys gweithgarwch yn ystod y broses gosod a chlirio yn ogystal â'r gweithgareddau sy’n digwydd yn ystod y digwyddiad ei hun. 

Mae gwybodaeth sy'n benodol i safle ar gael yn yr adran "Beth mae Rheolwr y Lleoliad wedi rhoi gwybod i chi yn ei gylch ac a allai effeithio ar eich cynllunio a rheoli adeiladu?" Cynllun y Cyfnod Adeiladu ar gyfer safle eich digwyddiad. 

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan eich is-gontractwyr asesiadau risg addas a digonol hefyd.

Rhaid i'r Asesiad Risg fodloni'r meini prawf sydd yn y rhestr wirio isod.

  • Priodol a phenodol i'r amgylchiadau
  • Nodi'r holl risgiau perthnasol
  • Digonol wrth ystyried y risgiau – mwy o sylw i risgiau uwch
  • Digon manwl
  • Yn ystyried pob grŵp o bobl sy'n agored i'r risg (gweithwyr unigol a gweithwyr shifft ac ati)
  • Yn seiliedig ar gyngor arbenigol, os oes angen
  • Yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Cael ei chyfleu'n ddigonol drwy eich tîm
  • Cael ei gweithredu a'i dilyn bob amser

Sylwch fod rheoli risg yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ar Drefnydd y Digwyddiad bob amser, gall Cyngor Caerdydd ddarparu cyngor a chymorth ond nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am risgiau a chanlyniadau o ganlyniad i'ch digwyddiad.

Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

https://bute-park.com/cy/event_guide/asesiad-risg/

Rhaid cyflwyno  Asesiad Risg Tân addas a digonol i’r  Panel Cyswllt Digwyddiadau nid llai na 4 wythnos cyn y diwrnod cyntaf y bydd y digwyddiad ar agor ar gyfer busnes.

Rhaid i'r Asesiad Risg Tân gael ei gynnal gan berson cymwys sydd â phrofiad a chymwysterau diogelwch tân addas.

Mae’r eitemau o ddiddordeb arbennig yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):

  • Cynllun argyfwng
  • Cynllun gadael safle
  • Cyfrifiadau capasiti diogel ar gyfer arena'r digwyddiad fel endid
  • Cyfrifiadau capasiti diogel ar gyfer rhannau penodol o arena'r digwyddiad (e.e. pebyll mawr neu ardaloedd caeedig eraill)
  • Rhaid cydymffurfio â’r mesurau i sicrhau capasiti diogel
  • Unrhyw weithgareddau neu nodweddion risg tân uchel (e.e. pyrodechnegau, cyfleusterau arlwyo masnachol)
  • Mynediad i gerbydau argyfwng
  • Hyfforddi Staff

Gweler Tân gwyllt
Gweler Asesiad Risg
Gweler Effeithiau Cynhyrchu Arbennig a Gweithgarwch Peryglus

https://bute-park.com/cy/event_guide/asesiad-risg-tan/

B

Gallwn roi caniatâd i godi baneri (neu arwyddion hysbysebu) dros dro ar gyfer digwyddiadau penodol.

Gellir arddangos baneri dros dro yn cyhoeddi digwyddiadau lleol o natur elusennol, diwylliannol, addysgol, gwleidyddol, cymdeithasol, hamdden neu grefyddol.

Mae angen caniatâd hysbysebu ar gyfer baneri dros dro i hysbysebu digwyddiadau masnachol  a gellir cael y caniatâd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, drwy eu proses ymgeisio safonol.

Dim ond digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ym Mharc Bute neu yng Ngerddi Sophia y gellir eu derbyn.

Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau bod yr holl ddeunydd hysbysebu yn cydymffurfio â'r canllawiau cynllunio ar hysbysebion dros dro:

  • Rhaid i bob baner fod yn ddwyieithog yn unol â Pholisi’r Gymraeg.
  • Ni ddylid codi baneri yn gynharach na 28 diwrnod cyn y digwyddiad
  • Caniateir baneri am uchafswm o 4 wythnos. 
  • Rhaid tynnu baneri o fewn 24 awr wedi diwedd y digwyddiad
  • Ni ddylid goleuo baneri
  • Rhaid i faneri gynnwys eich hunaniaeth brand a'ch manylion cyswllt
  • Mae’r lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin ac ni ellir darparu ar gyfer pob cais.

Maint Baneri

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol bod pob baner yn ddwyieithog o dan Safonau’r Gymraeg felly rydym yn caniatáu naill ai:

  • Dwy faner o hyd at 0.6m2 ochr yn ochr (un Gymraeg ac un Saesneg)

NEU

  • Un faner ddwyieithog hyd at 1.2m2.

Lleoliadau Baneri:

A allaf godi baneri mewn parciau eraill?

Gofynnwch am ganiatâd i godi baneri ym Mharciau eraill Caerdydd drwy Swyddog Digwyddiadau Parc Bute. Ni ellir caniatau pob cais. Gall peidio â gofyn am ganiatâd o flaen llaw arwain at Gyngor Caerdydd yn tynnu’r baneri a’r deunydd hysbysebu.

A allaf godi baneri o amgylch y ddinas?

Gofynnwch am ganiatâd i godi baneri ar briffyrdd gan y Tîm Priffyrdd. Gall peidio â gofyn am ganiatâd o flaen llaw arwain at Gyngor Caerdydd yn tynnu’r baneri a’r deunydd hysbysebu.

Peidio â chydymffurfio

Gall peidio â gofyn am ganiatâd o flaen llaw arwain at Gyngor Caerdydd yn tynnu’r baneri a’r deunydd hysbysebu.

Ni chodir unrhyw arwyddion na baneri ar gyfer hysbysebu unrhyw ddigwyddiad neu fater neu weithgaredd masnachol sy'n digwydd y tu allan i'r parc.

Bydd peidio â chydymffurfio â thynnu baneri a deunydd hysbysebu yn y cyfnod penodedig yn arwain at Gyngor Caerdydd yn tynnu’r baneri a’r deunydd hysbysebu ar unwaith. Yn yr achos hwn, mae'r Cyngor yn cadw’r hawl i godi isafswm tâl o £100 + TAW ar Drefnydd y Digwyddiad.

Ni chaniateir glynu posteri na sticeri anghyfreithlon wrth unrhyw ran o adeiladwaith y Parc.  Bydd Trefnydd y Digwyddiad yn gyfrifol am yr holl gostau yr eir iddynt ar gyfer cael gwared ar unrhyw bosteri neu sticeri anghyfreithlon, y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i'w ddigwyddiad.

Gweler Caerdydd Ddwyieithog
Gweler Marchnata
Gweler Safonau Iaith Gymraeg Cyngor Dinas Caerdydd: Canllaw i Drydydd Partïon
Gweler Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992: 3D - Hysbysebion dros dro amrywiol
Gweler Rhestr Wefannau
Gweler Cymraeg

https://bute-park.com/cy/event_guide/baneri/

Mae baneri Heras ar gael i’w codi yn ardal eich digwyddiad ym Mharc Bute yn rhad ac am ddim.

Gallant fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwella ymddangosiad safleoedd digwyddiadau a hefyd i sgrinio ardaloedd 'cefn tŷ'.

Mae tua 70 ar gael.

Mae'r baneri wedi'u hatodi at baneli ffensys heras safonol gyda chysylltiadau cebl safonol.

Os ydych yn dymuno defnyddio’r baneri heras, trafodwch mewn da bryd gyda Swyddog Digwyddiadau Parc Bute. Cânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Sicrhewch eich bod yn gadael digon o amser yn eich amserlen i'ch staff godi’r baneri a’u tynnu wedyn.

Rhaid eu dychwelyd yn lân, yn sych ac wedi'u plygu.

https://bute-park.com/cy/event_guide/baneri-heras/

Gweler Canllawiau Bolardiau Rheoli Traffig ar gyfer Traffig Digwyddiadau

https://bute-park.com/cy/event_guide/bolardiau-rheoli/

Bydd bond yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar fanylion a gyflwynwch yn eich cais digwyddiad. Cyfeiriwch at y  canllawiau sy'n benodol i safle ynghylch costau.

Bydd angen bond ad-daladwy (sydd wedi'i eithrio rhag TAW) i yswirio'r Cyngor yn erbyn unrhyw gostau nas rhagwelir sy’n deillio o'ch digwyddiad. Byddai hyn yn cynnwys difrod i'r safle, costau staff ychwanegol oherwydd methiant ar ran y trefnydd digwyddiad a dirwyon yn unol â'r canllawiau a ddarperir.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y Cyngor yn cymryd risg ar ddefnydd a thraul rhesymol ar y safle h.y. yr hyn y gellir ei adfer fel rhan o'n gwaith cynnal a chadw tir cylchol arfaethedig.  Chi sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoli eich digwyddiad mewn modd sy'n lleihau difrod i'r safle, a chytuno ar gynllun diogelu'r ddaear  gyda Rheolwr Digwyddiadau'r Parc.

Cyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad yw cynllun rhag tywydd gwlyb ac mae Rheolwr Digwyddiadau'r Parc yn cadw’r hawl i gau'r cyfan neu ran o'r safle os nad oes cynllun effeithiol yn achos tywydd gwlyb ar waith pan fo angen. Bydd Rheolwr y Parc yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar risgiau diogelwch i’r cyhoedd a risgiau ariannol i'r Cyngor a fyddai’n deillio o ddifrod tebygol i'r lleoliad.

Rhaid i’ch anfoneb am daliad bond glirio yn ein cyfrif cyn dyddiad eich digwyddiad. Os na allwch dalu'ch bond mae Cyngor Caerdydd yn cadw'r hawl i wrthod eich mynediad i'r safle.

Os bydd eich digwyddiad yn peri costau i Gyngor Caerdydd bydd y rhain yn cael eu didynnu o'ch bond a bydd y balans yn cael ei ad-dalu. Ar gyfer unrhyw symiau sy'n ychwanegol at y swm a gedwir yn eich bond byddwn yn anfon anfoneb ychwanegol atoch i dalu am y gwahaniaeth.Gweler Taro Bolard
Gweler Diogelu'r Ddaear
Gweler Sbwriel
Gweler Pŵer
Gweler Goruchwylydd Safle
Gweler Strwythurau Dros Dro

https://bute-park.com/cy/event_guide/bond/

C

Mae Cae Cooper yn rhan ddeheuol Parc Bute. Mae’r safle glaswelltog mawr agored hwn yn boblogaidd iawn ar gyfer digwyddiadau a gwyliau.  Mae dau bwynt troi hammerhead grasscrete a sawl pwynt dŵr untro ar gyfer digwyddiadau ar gael yng Nghae Cooper i wasanaethu digwyddiadau. Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:

  • Cyngherddau a gwyliau dydd
  • Teithiau cerdded / rasys / reidiau beic elusennol
  • Partïon preifat neu gorfforaethol
  • Digwyddiadau cymunedol gyda seilwaith cymedrol

Safle Digwyddiad

Mae Cae Cooper yn safle digwyddiadau maes gwyrdd ym Mharc Bute, parc hanesyddol 146 erw ac arboretwm ag arwyddocâd cenedlaethol yng nghanol y ddinas.  Mae'r parc yn cynnwys casgliad coed neu 'ardd goed' o bwys cenedlaethol, sy'n golygu bod rhai ardaloedd allan o ffiniau ar gyfer mathau penodol o ddefnydd.

Mae buddsoddiad a wnaed drwy "Brosiect Adfer Parc Bute" ac a ariennir gan y Loteri Treftadaeth wedi uwchraddio seilwaith y safle er mwyn bodloni gofynion y rhaglen ddigwyddiadau flynyddol yn well.  Fodd bynnag, roedd y buddsoddiad hwn yn amodol ar sefydlu cynlluniau rheoli digwyddiadau llym i'w ddiogelu.

Felly, yn gyffredinol caniateir ei ddefnyddio o fis Ebrill i Medi yn unig, ac mae cyfnodau gorffwys o 6 wythnos yn cael eu rhwystro o'r calendr sydd ar gael ar ôl digwyddiadau seilwaith mawr er mwyn gadael i’r tir orffwys ac adfer digon.

LleoliadGoogle Map
Cynllun y SafleCynllun Cyfyngiadau Digwyddiadau Cae Cooper
Ffi LlogiFfi Llogi
Maint26,000 metr sgwâr
MesuriadauTua 300 m x 80 m
Trwydded safleMae’r safle hwn dan Drwydded Safle Parc Bute
Cyflenwad pŵer ar y safleDim – datgomisiyniwyd yn 2017
Cyflenwad dŵr ar y safleOes - Yn amodol ar bolisi defnydd teg
6 x lleoliad
CarthffosiaethDim
Tanc septig (3,500 galwyn) - datgomisiyniwyd yn 2022
ToiledauDim
Mae’r cyfleusterau parc agosaf yn Ystafelloedd Te Pettigrew a Chaffi'r Ardd Gudd – nid ydynt yn addas i'w defnyddio gan y rhai sy'n mynd i'r digwyddiad.
Llinellau ffôn/ISDNDim – datgysylltwyd yn 2019
Cysylltiad DataMae'n bosibl dod â data i Gae Cooper drwy bwynt cysylltu ym mastiwn gogledd orllewinol Castell Caerdydd. Gall hyn fod drwy wifren galed i'r cae neu ei drosglwyddo fel signal Wi-Fi.

Ystyriaethau Eraill

LlifogyddMae Cae Cooper yn orlifdir ac er bod afon Taf wedi'i diogelu'n dda gan gynllun amddiffyn rhag llifogydd y 1980au, mae Camlas Gyflenwi’r Dociau ar lefel uwch na Chae Cooper ac mewn tywydd garw iawn gall orlifo ar y cae. Mae hyn yn llawer mwy tebygol yn ystod misoedd y gaeaf, sy'n rheswm arall pam nad yw digwyddiadau fel arfer ond yn cael eu cynnal o fis Ebrill i fis Medi. Gallai hyn fod yn anodd ei ragweld neu ei atal a gallai arwain at golledion sylweddol oherwydd "Force Majeure" i Drefnwyr Digwyddiadau.
CloddioMae rhai rhannau o Gae Cooper yn sensitif yn archeolegol ac yn cynnwys gwreiddiau coed felly ni chaniateir unrhyw gloddio. Rhaid i unrhyw waith cloddio fod gyda chaniatâd penodol Rheolwr y Digwyddiad ac efallai y bydd angen briff gwylio archeolegol o dan amodau Cadw.

Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas

Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad. 

Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i'r lleoliad rydych yn ei ffafrio.  Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn effeithio'n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia. 

Mae gan wefan Croeso Caerdydd gyfleuster chwilio y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i'r holl ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored sydd wedi'u trefnu ar ddyddiad penodol.

Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu sŵn neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i'r lleoliad cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd a'r preswylfeydd newydd ar Heol y Gadeirlan.

Access to site

Mynedfa i Gerddwyr
Y mynedfeydd agosaf i’r safle hwn o’r parc yw o:
• Pont y Pysgotwr (o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y dwyrain)
• Porth y Gogledd y Castell (o Heol y Gogledd, y Ganolfan Ddinesig, de-ddwyrain)
• Porth y Gorllewin (o Stryd y Castell, de)
• Pont y Mileniwm (o Erddi Sophia, y gorllewin)
Cyfyngiadau Cerbyd/Llwyth
Mae mynediad cerbydau i'r safle dros y bont gerbydau oddi ar Heol y Gogledd, sydd gyferbyn â Corbett Rd. Mae uchafswm pwysau 40 tunnell ar y bont gerbydau.

Mae’r pont gerbydau yn culhau i un lôn gan ei bod yn croesi Camlas Gyfenwi’r Dociau felly rhaid rheoli traffig sy'n dod i mewn ac yn gadael yn ofalus, gan ddefnyddio mannau pasio ar hyd y ffordd gwasanaeth prif ddigwyddiadau tua'r de.

Mae bolard awtomatig ar waith ar y bont gerbydau i atal cerbydau rhag mynd i mewn i Barc Bute heb awdurdod. Felly, efallai y bydd angen i chi ofyn am gael benthyg set o 'gardiau llithro' er mwyn gallu rheoli traffig mewn perthynas â'ch digwyddiad. Gellir cynnwys y cais hwn ar eich ffurflen gais. Gweler yr arweiniad ar ddefnyddio'r system rheoli bolardiau yn ddiogel.

Bydd stiwardiaid/arolygwyr cerbydau mawr yn hanfodol i reoli eich traffig yn ddiogel. Dylai'r rhain fod mewn cysylltiad radio â'i gilydd a dilyn gweithdrefnau llym i ddiogelu adeiladwaith y parc a defnyddwyr eraill y parc.

Mae dau fan troi glaswellt siâp morthwyl ar Gae Cooper - un yn y pen gogleddol ac un yn y pen deheuol yn ogystal â dwy gilfan laswellt gyferbyn â nhw. Mae'r rhain yn darparu 'safleoedd caled' lle gellir troi cerbydau digwyddiadau a'u dadlwytho. Dylid cynllunio a chydgysylltu gweithrediadau i sicrhau mai dim ond hyn a hyn o draffig digwyddiadau sy’n troi ar y safle. Gall peidio â gwneud hyn niweidio'r glaswellt yn ddiangen a'ch gadael yn atebol am gostau adfer.

Rhaid defnyddio alwminiwm amddiffynnol neu drac plastig i roi mynediad i'r glaswellt i gerbydau sydd â llwyth sy'n fwy na phum tunnell.

Dylid defnyddio deunydd gwarchod tir (matiau trac, rhwystrau i gerddwyr neu fariau haearn/tâp perygl) mewn ardaloedd sy'n agored i niwed er mwyn atal difrod a achosir gan gerbydau digwyddiadau sy’n mynd ar hyd y llwybrau. Gweler y cynllun safle i gael canllaw.

Mae rhai ardaloedd 'dim mynediad' yn gyfagos â’r safle'r digwyddiad a rhaid diogelu'r rhain yn gorfforol rhag difrod posibl i'ch digwyddiad, cyfeiriwch at gynllun y safle am arweiniad [coed campus, canopïau coed yn gyffredinol, y Gored Ddu ac ati]

Mae gan Barc Bute stoc o arwyddion 'modd digwyddiadau' i helpu i reoli traffig digwyddiadau pan fo'r niferoedd yn sylweddol.

Cyngor ar gyfer asesu risg a chynllunio CDM

  • Mae system rheoli bolardiau awtomatig ym Mhont Mynediad i Gerbydau Parc Bute. Mae nodyn cyfarwyddyd ar ddefnyddio’n ddiogel ar gael.
  • Mae cyfyngiad cyflymder 5 mya ar gyfer cerbydau yn y parc
  • Ni all cerbydau droi i'r dde i mewn nac allan o'r parc wrth y bont cerbydau
  • Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r bont mynediad i gerbydau wrth fynedfa'r parc – mae hyn yn effeithio ar hawl dramwy cerbydau i'r dde wrth fynd i mewn i'r parc a'i adael. Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried sicrhau staff rheoli traffig ychwanegol i gynorthwyo cerbydau sy'n dod i mewn ac yn gadael y parc ar draws y llwybr beicio dynodedig
  • Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi'r parc rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phont Troed y Mileniwm, sy'n croesi'r prif fynediad i gerbydau i Gae Cooper
  • Gall y parc fod yn brysur. Fe'i defnyddir gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau gweithredol eraill. Gallent rannu llwybrau a ffyrdd gyda chynulleidfa a cherbydau'r digwyddiad
  • Mae rhai beicwyr yn mynd yn gyflymach na’r terfyn cyflymder a gallant fod yn berygl i draffig digwyddiadau
  • Mewn tywydd gwlyb gall y tir fynd yn feddal iawn a gall dŵr sefyll ar wyneb ffyrdd a glaswellt.
  • Mae'r parc yn cael ei gloi yn y nos (tua 30 munud cyn machlud haul) er y gwyddys fod pobl yn dewis cael eu cloi ynddo neu ddod i mewn ar ôl cloi drwy lwybrau answyddogol
  • Gall troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd yno, fel y gellid ei ddisgwyl mewn unrhyw barc yng nghanol dinas.
  • Nid oes goleuadau yn y parc ac mae’n dywyll iawn ar ôl machlud yr haul.
  • Mae'r parc ehangach y tu allan i safle'r digwyddiad yn cael ei batrolio gan wasanaeth ceidwaid o fewn oriau golau dydd. Maent yn gwisgo gwisg goch ac wedi'u lleoli yn Adeilad y Ganolfan Ymwelwyr yng nghanol y parc. Mae'r ceidwaid yn gweithio i system rota ond mae adegau pan nad oes ceidwaid ar ddyletswydd. Os oes angen i chi gysylltu â cheidwad, dylech gysylltu â Rheolwr y Parc yn y lle cyntaf
  • Dylai staff digwyddiadau ffonio 999, 101 (rhif heddlu nad ydynt yn rhai brys) yn uniongyrchol neu swyddfa Rheoli'r Parc 02920 873720 am droseddau, argyfyngau neu ddigwyddiadau a welir yn y parc ehangach, yn dibynnu ar eu natur.
  • Mae safle Cae Cooper wedi'i farcio â chyfres o “Foron" lliw sy'n dangos terfyn allanol y safle a'r ardal gwarchod gwreiddiau (melyn), ceblau BT (coch) a dŵr (glas).

Gweler Cynllun Cyfyngiadau Digwyddiadau Cae Cooper

https://bute-park.com/cy/event_guide/coopers-field/

Defnyddir Caeau Chwaraeon Blackweir yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae rygbi a phêl-droed yma yn y gaeaf, a chriced yn yr haf.

Felly, prin y bydd ar gael i’w ddefnyddio i gynnal digwyddiadau ac ni ddylai unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir achosi niwed i’r caeau a gynhelir nac ymyrryd ag archebion clybiau chwaraeon.

Nid yw'r llwybrau cyfagos yn addas ar gyfer llwytho cerbydau sylweddol.

Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:

  • Digwyddiadau tân gwyllt
  • Digwyddiadau cymunedol gyda seilwaith cymedrol
  • Twrnamaint chwaraeon
LleoliadGoogle Map
Maint21,000 sqm
Trwydded SafleMae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Parc Bute
Ffi LlogiFFi Llogi
Cyflenwad pŵer ar y safleDim 
Cyflenwad dŵr ar y safleDim 
CarthffosiaethDim 
ToiledauGellir rhoi cyfleusterau ystafell newid y Gored Ddu ar gael i staff a gwirfoddolwyr ac ar gyfer digwyddiadau bach.
Mae taliadau yn berthnasol.
Drwy drefniant ymlaen llaw.
Llinellau ffôn/ISDNDim 
Cysylltiad DataDim 

Ystyriaethau Eraill

Caeau ChwaraeonMae'r safle hwn yn cael ei logi'n bennaf ar gyfer gemau chwaraeon – mae ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau drwy drefniant yn unig.
CymdogionMae'r safle gerllaw Gorsaf Ambiwlans Caerdydd. Ni chaniateir mynediad i'r safle drwy'r orsaf ambiwlans.

Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas

Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad.

Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i'r lleoliad rydych yn ei ffafrio. Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn effeithio'n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia. Mae gan wefan Croeso Caerdydd gyfleuster chwilio y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i'r holl ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored sydd wedi'u trefnu ar ddyddiad penodol.

Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu sŵn neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i'r lleoliad cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd a'r preswylfeydd newydd ar Heol y Gadeirlan.

• Gorsaf Ambiwlans y Gored Ddu
• Bythynnod y Gored Ddu

Mynediad at y safle

Mynedfa i GerddwyrY mynedfeydd agosaf i’r safle hwn o’r parc yw o:
• Bythynnod y Gored Ddu (o faes parcio Heol y Gogledd – ddim yn addas ar gyfer niferoedd mawr)
• Pont y Gored Ddu (o'r gogledd)
• Pont y Pysgotwr (o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y dwyrain)
• Pont y Mileniwm (o Erddi Sophia, y gorllewin)
Cyfyngiadau Cerbyd/Llwyth
• Mae mynediad cerbydau i'r safle dros y bont gerbydau oddi ar Heol y Gogledd, sydd gyferbyn â Corbett Rd. Mae uchafswm pwysau 40 tunnell ar y bont gerbydau.
• Mae’r pont gerbydau yn culhau i un lôn gan ei bod yn croesi Camlas Gyflenwi’r Dociau felly rhaid rheoli traffig sy'n dod i mewn ac yn gadael yn ofalus, gan ddefnyddio mannau pasio ar hyd y ffordd gwasanaeth prif ddigwyddiadau tua'r de.
• Mae bolard awtomatig ar waith ar y bont gerbydau i atal cerbydau rhag mynd i mewn i Barc Bute heb awdurdod. Felly, efallai y bydd angen i chi ofyn am gael benthyg set o 'gardiau llithro' er mwyn gallu rheoli traffig mewn perthynas â'ch digwyddiad. Gellir cynnwys y cais hwn ar eich ffurflen gais. Gweler yr arweiniad ar ddefnyddio'r system rheoli bolardiau yn ddiogel.
• Bydd stiwardiaid/arolygwyr cerbydau mawr yn hanfodol i reoli eich traffig yn ddiogel. Dylai'r rhain fod mewn cysylltiad radio â'i gilydd a dilyn gweithdrefnau llym i ddiogelu adeiladwaith y parc a defnyddwyr eraill y parc.
• Prin iawn yw'r lle y gellir troi a dadlwytho cerbydau digwyddiadau. Dylid cynllunio a chydgysylltu gweithrediadau i sicrhau mai dim ond hyn a hyn o draffig digwyddiadau sydd ar y safle. Gall peidio â gwneud hyn niweidio'r glaswellt yn ddiangen a'ch gadael yn atebol am gostau adfer.
• Rhaid defnyddio alwminiwm amddiffynnol neu drac plastig i roi mynediad i'r glaswellt i gerbydau sydd â llwyth sy'n fwy na phum tunnell.
• Dylid defnyddio deunydd gwarchod tir (matiau trac, rhwystrau i gerddwyr neu fariau haearn/tâp perygl) mewn ardaloedd sy'n agored i niwed er mwyn atal difrod a achosir gan gerbydau digwyddiadau sy’n mynd ar hyd y llwybrau.
• Mae rhai ardaloedd 'dim mynediad' yn gyfagos â’r safle'r digwyddiad a rhaid diogelu'r rhain yn gorfforol rhag difrod posibl i'ch digwyddiad, cyfeiriwch at gynllun y safle am arweiniad [coed campus, canopïau coed yn gyffredinol, sgwariau criced ac ati]
• Mae gan Barc Bute stoc o arwyddion 'modd digwyddiadau' i helpu i reoli traffig digwyddiadau pan fo'r niferoedd yn sylweddol.

Cyngor ar gyfer asesu risg a chynllunio CDM

  • Mae system rheoli bolardiau awtomatig ym Mhont Mynediad i Gerbydau Parc Bute. Mae nodyn cyfarwyddyd ar ddefnyddio’n ddiogel ar gael.
  • Mae terfyn cyflymder cerbydau 5 mya o fewn y parc
  • Ni all cerbydau droi i'r dde i mewn nac allan o'r parc wrth y bont cerbydau
  • Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r bont mynediad i gerbydau wrth fynedfa'r parc – mae hyn yn effeithio ar hawl dramwy cerbydau i'r dde wrth fynd i mewn i'r parc a'i adael. Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried sicrhau staff rheoli traffig ychwanegol i gefnogi cerbydau sy'n dod i mewn ac yn gadael y parc ar draws y llwybr beicio dynodedig
  • Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi'r parc rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phont Droed y Mileniwm, sy'n croesi'r prif fynediad i gerbydau i’r parc.
  • Gall y parc fod yn brysur. Fe'i defnyddir gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau gweithredol eraill. Gallent rannu llwybrau a ffyrdd gyda chynulleidfa a cherbydau'r digwyddiad
  • Mae rhai beicwyr yn mynd yn gyflymach na’r terfyn cyflymder a gallant fod yn berygl i draffig digwyddiadau
  • Mewn tywydd gwlyb gall y tir fynd yn feddal iawn a gall dŵr sefyll ar wyneb ffyrdd a glaswellt.
  • Mae'r parc yn cael ei gloi yn y nos (tua 30 munud cyn machlud haul) er y gwyddys fod pobl yn dewis cael eu cloi i mewn neu ddod i mewn ar ôl cloi drwy lwybrau answyddogol
  • Gall troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd yno, fel y gellid ei ddisgwyl mewn unrhyw barc yng nghanol dinas.
  • Nid oes goleuadau yn y parc ac mae’n dywyll iawn ar ôl machlud yr haul.
  • Mae'r parc ehangach y tu allan i safle'r digwyddiad yn cael ei batrolio gan wasanaeth ceidwaid o fewn oriau golau dydd. Maent yn gwisgo gwisg goch ac wedi'u lleoli yn Adeilad y Ganolfan Addysg yng nghanol y parc. Mae'r ceidwaid yn gweithio i system rota ond mae adegau pan nad oes ceidwaid ar ddyletswydd. Os oes angen i chi gysylltu â cheidwad, dylai'r alwad fynd drwy Reolwr y Parc yn y lle cyntaf
  • Dylai staff digwyddiadau ffonio 999, 101 (rhif heddlu nad ydynt yn rhai brys) yn uniongyrchol neu swyddfa Rheoli'r Parc 02920 873720 am droseddau, argyfyngau neu ddigwyddiadau a welir yn y parc ehangach, yn dibynnu ar eu natur.
  • Defnyddir caeau chwaraeon yn rheolaidd ar y safle digwyddiadau hwn. Mae’r rhain wedi’u nodi ar gynllun sylfaenol yr ardal digwyddiadau. Dylech ofalu eich bod yn osgoi'r ardaloedd sydd wedi'u marcio fel y sgwariau criced.
  • Os oes angen i unrhyw un o'r goliau pêl-droed neu'r pyst rygbi gael eu tynnu ar gyfer eich digwyddiad, rhaid trefnu hyn gyda Rheolwyr y Parc mewn da bryd.
  • Rhaid i chi roi gwybod i swyddfa’r Rheolwyr Parc a gofyn am ganiatâd i dorri unrhyw dir.
  • Nid oes cyfleusterau lles ar y safle ar gyfer staff digwyddiadau ar hyn o bryd. Mae toiledau sydd wedi'u lleoli yng nghaffis y parc ar gael i staff/cyfranogwyr digwyddiadau at ddefnydd ysgafn yn unig. Gellir rhoi cyfleusterau ystafell newid y Gored Ddu ar gael i staff a gwirfoddolwyr ac ar gyfer digwyddiadau bach drwy drefnu o flaen llaw.
  • Mae'r safle gerllaw Gorsaf Ambiwlans Caerdydd. Ni chaniateir mynediad i'r safle drwy'r orsaf ambiwlans
  • Dylid annog cyfranogwyr i beidio â mynd i mewn i safle eich digwyddiad yn uniongyrchol drwy'r orsaf ambiwlans – dylid eu cyfeirio o'r maes parcio drwy'r fynedfa heibio i Fythynnod y Gored Ddu ac o'r parc.
  • Y safle yw'r safle glanio amgen ar gyfer hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru y gwasanaethau brys a hofrenyddion milwrol. Rhowch wybod i Ddesg y Gwasanaeth Meddygol Brys Hofrenyddion (HEMS) am ddyddiadau eich digwyddiad drwy 0300 1232301.
https://bute-park.com/cy/event_guide/caeau-chwaraeon-blackweir/

Nid yw Cyngor Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ganslo digwyddiad oherwydd tywydd eithafol nac unrhyw Force Majeure.

Felly, mae'r Cyngor yn annog trefnwyr digwyddiadau i lunio telerau ac amodau priodol ar gyfer gwerthu tocynnau a/neu i gymryd yswiriant er mwyn diogelu eu hunain rhag colledion ariannol mewn sefyllfa o'r fath. 

Bydd y Cyngor bob amser yn gwneud ymdrechion rhesymol i gynnal digwyddiad y mae force majeure yn amharu arno, ar ddyddiad neu mewn lleoliad arall drwy drafodaethau gyda threfnydd y digwyddiad.

Os yw trefnydd digwyddiad yn tynnu'n ôl o'r archeb cyn y cyfnod llogi ni fydd unrhyw ffioedd blaendal/llogi a dalwyd hyd hynny yn cael eu had-dalu. 

Os caiff digwyddiad ei atal rhag mynd rhagddo ar y dyddiad / lleoliad arfaethedig am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth trefnydd y digwyddiad neu’r Cyngor (force majeure) e.e. y tywydd, ni fydd y Cyngor yn ad-dalu unrhyw ffioedd llogi a dalwyd hyd hynny.  

https://bute-park.com/cy/event_guide/canslo/

Gellir gwneud casgliadau elusennol yn eich safle/hyb digwyddiadau ond nid drwy’r parc cyfan. 

Bydd angen i unrhyw ddigwyddiad sy'n dymuno gwneud casgliadau bwced elusennol ar y stryd ac nid o fewn ffiniau’r parc neu mewn man agored gael trwydded ar gyfer hyn gan Adran Drwyddedu Cyngor Caerdydd

Sylwer na ellir gwneud unrhyw newidiadau i'ch darpariaeth gweithgarwch trwyddedadwy heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol.

Gweler Gweithgaredd Trwyddedadwy.

https://bute-park.com/cy/event_guide/casgliadau-elusennol/

Dylai digwyddiadau mawr ystyried goblygiadau'r digwyddiad ar reoli'r torfeydd yn ogystal â'r parc ehangach a’r priffyrdd y tu allan i’r parc.

Dylai Trefnwyr Digwyddiadau gysylltu â'r Tîm Priffyrdd i drafod.  

Gweler Gadael

https://bute-park.com/cy/event_guide/road-closure/

Gall digwyddiadau hwyr yn y nos amharu ar amseroedd cloi’r parc - trafodwch gyda Swyddog Digwyddiadau Parc Bute.

Dylech ddarparu amserlen fesul gât yn nodi pa gatiau sy'n cael eu defnyddio ar ba ddyddiadau. 

Dylech roi manylion unrhyw gymorth y byddwch yn ei gynnig i Geidwaid y Parc o ran cloi'n hwyrach nag amseroedd cloi arferol y parc.  Gall hyn gynnwys stiwardio wrth gatiau'r brif fynedfa i ddarbwyllo’r cyhoedd rhag mynd i mewn i'r parc pe bai fel arfer wedi ei gloi bryd hynny.

Mewn rhai achosion efallai y bydd angen cloi'r parc yn gynt nag arfer – unwaith eto, rhowch amserlen fesul gât a nodwch sut y byddwch yn rheoli'r broses hon.

Bydd y manylion hyn yn cael eu rhannu gyda staff y parc a Cheidwaid y Parc.

https://bute-park.com/cy/event_guide/cloir-parc/
Rhaid i yrwyr:
- Gydymffurfio â'r terfynau cyflymder 5mya
- Cynnau eu goleuadau perygl
- Cadw at y ffyrdd dynodedig
- Peidio gyrru ar leiniau/ymylon glaswellt
- Peidio â thorri corneli
Mynediad Bolardiau:
- NI DDYLAI gyrwyr ddilyn y cerbyd o’u blaenau
- Bydd y bolard yn codi'n gyflym ar ôl i un cerbyd fynd trwy’r
system
- Ni chaniateir dilyn wrth gynffon y cerbyd y tu blaen


Gadael:
- Arhoswch am olau gwyrdd
- Troi i’r chwith yn unig i adael y parc



Cyfeiriad cofrestredig: Parc Bute, Canolfan Ymwelwyr, 35 Heol y Gogledd, Caerdydd, CF10 3DX (02920 872730)

Pont Mynediad i Gerbydau - CF10 3DU – Parc Bute (Mynediad oddi ar Heol y Gogledd (yr A470) / Heol Corbett)

  • Cae Cooper, Parc Bute
  • Mynediad i Gastell Caerdydd drwy Gae Cooper, Parc Bute
  • Lawnt y Berllan, Parc Bute
  • Caeau Chwaraeon y Gored Ddu, Parc Bute
  • Gerddi Sophia - CF11 9HW. Mynediad drwy Clos Sophia – CF11 9HW. Oddi ar Heol y Gadeirlan (A4119)
https://bute-park.com/cy/event_guide/access-postcodes/

Edrychwch ar wefan a dogfennau Llywodraeth Cymru i gael cymorth a chyfarwyddyd mewn perthynas â Covid 19 a’ch digwyddiad chi:

Lefel rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau

Digwyddiadau peilot: adroddiad ar y canfyddiadau

Argymhellion ymddygiadol penodol ar gyfer ‘digwyddiadau torfol’

Mae’r rheoliadau diweddaraf sydd “mewn grym” ar gael ymaCyfeiriwch hefyd at y canllawiau penodol diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar greu digwyddiadau sy’n rhoi ystyriaeth i Covid.

https://bute-park.com/cy/event_guide/covid-19/

Dylai fod gan bob digwyddiad gynllun rheoli gwynt sy'n rhestru cyflymder uchaf y gwynt ar gyfer pob strwythur a'r camau i'w cymryd ar 60% ac 80% o uchafswm capasiti'r llwyth gwynt.  

Rhaid i'r cynllun gael ei fonitro gan berson cymwys yn erbyn terfynau gweithredu pob un o'r strwythurau dros dro.   Rhaid cymryd camau effeithiol cyn rhagori ar unrhyw derfynau gweithredu.

Gweler Tywydd

https://bute-park.com/cy/event_guide/gwynt/

Trefnydd y digwyddiad sy'n gyfrifol am sicrhau bod amodau gwaith yn eich safle yn bodloni rheoliadau Cynllunio a Rheoli Adeiladu 2015.  Mae Rheoliadau Cynllunio a Rheoli Adeiladu yn berthnasol i waith adeiladu’r digwyddiad. Mae gwaith adeiladu yn cynnwys, ond nid dim ond, codi neu elfennau parod i ffurfio strwythur neu ei tynnu wedyn. 

Os yw'n berthnasol, dylid cyflwyno Cynllun Cyfnod Adeiladu gyda dogfennau eich digwyddiad. Ewch i  www.cdm4events.org.uk am ragor o wybodaeth.

Gweler adran "Cyngor ar gyfer Asesu Risg a Chynllunio a Rheoli Adeiladu " dogfen Safle Digwyddiad sy'n berthnasol i'ch safle.

Rydym yn hapus i dderbyn Cynlluniau Cynllunio a Rheoli Adeiladu yn eich fformat eich hun, neu mae templed ar gael [yma]. 

Bydd disgwyl i chi enwi'r unigolyn/cwmni a fydd yn cymryd y cyfrifoldebau canlynol:

  • Y Cleient yw’r sefydliad, neu'r unigolyn, y cynhelir y digwyddiad ar ei gyfer.
  • Y Prif Ddylunydd yw’r sefydliad, neu'r unigolyn, sy'n rheoli cam cynllunio cyn digwyddiad pan fo’r prosiect yn cynnwys mwy nag un Contractwr. Fe'i penodir gan y Cleient neu os nad yw wedi'i benodi, y Cleient sy’n ymgymryd â’r rôl.
  • Y Prif Gontractwr yw’r sefydliad, neu'r unigolyn, sy'n rheoli cam adeiladu'r digwyddiad pan fo’r digwyddiad yn cynnwys mwy nag un Contractwr. Fe'i penodir gan y Cleient neu os nad yw wedi'i benodi, y Cleient sy’n ymgymryd â’r rôl.

Diben y templedi yw helpu trefnwyr i fodloni’r gofynion sylfaenol o ran Rheoliadau Adeiladu Dylunio a Rheoli Cynllunio a Rheoli Adeiladu (2015).  Gall trefnwyr ddefnyddio eu gwaith papur eu hunain os dymunant ond dylent ymdrin â phob pennawd isod.

https://bute-park.com/cy/event_guide/cynllun-y-cam-adeiladu/

Gofynnwn i chi gyflwyno cynllun safle manwl ar gyfer eich digwyddiad.

Dylid llunio'r cynllun hwn i raddfa a dangos pob elfen o seilwaith safle eich digwyddiad: ffensys, deunydd diogelu'r ddaear, strwythurau, pŵer, goleuadau ac ati.

Efallai y bydd angen i chi ddarparu cynlluniau ychwanegol i ddangos golygfa ehangach ar y parc yn ogystal â'ch cynllun penodol i'r safle.  Efallai y bydd angen gwneud hyn er mwyn dangos cynllun goleuadau argyfwng, cynllun stiwardio, rheoli'r dorf, rheoli gwastraff ac ati.

Dylech gynnwys drafft gyda'ch Cais Rhan 1.

Sylwch na chaniateir newid eich cynllun safle heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol.

Mae cynlluniau sylfaenol ar gael, cyfeiriwch at bob safle digwyddiad am wybodaeth neu cysylltwch â Swyddog Digwyddiadau Parc Bute.

Bydd angen i chi hefyd ddarparu Cynllun Llwybr ar gyfer digwyddiadau rhedeg a cherdded.

https://bute-park.com/cy/event_guide/cynllun-y-safle/

Mae'n rhaid bod gennych gynlluniau ar waith i ymateb yn effeithiol i faterion iechyd a diogelwch sy’n codi ac argyfyngau eraill a allai ddigwydd mewn digwyddiad. Dylai digwyddiadau ddarparu Cynllun Argyfwng gyda lefel briodol o fanylder ar gyfer maint y digwyddiad a'r risg y mae gweithgareddau’r digwyddiad yn ei beri a graddau a difrifoldeb posibl y mater.

Rhaid i chi ystyried y prif risgiau i’r digwyddiad a'r bobl sy'n bresennol.

Datblygwch weithdrefnau argyfwng i staff a gwirfoddolwyr eu dilyn mewn argyfwng, e.e. tân neu fethiant strwythurol. Crëwch gynlluniau wrth gefn i fod ar gael i ddelio â materion a sefyllfaoedd mor amrywiol â gorlenwi rhan neu'r cyfan o’r safle, tywydd garw neu fethiant pŵer.

Bydd angen i chi hefyd ystyried eich ymateb i argyfyngau mwy difrifol, gan gynnwys materion mawr a fydd yn gofyn am gymorth y gwasanaethau brys ac mewn sefyllfa ddifrifol, trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y mater / argyfwng ynghyd â rheoli stiwardiaid y digwyddiad.

Bydd angen Cynllun Argyfwng fel rhan o'ch cais digwyddiad, dylai hwn gynnwys manylion y ddarpariaeth yn ystod eich digwyddiad yn ogystal â'ch cyfnod adeiladu a thynnu.

Efallai y byddai'n briodol, os yw eich digwyddiad yn parhau i'r nos, darparu goleuadau argyfwng mewn ardaloedd cadw wedi eu goleuo a llwybrau gadael mewn argyfwng.  Dylid dangos hyn ar gynllun safle eich digwyddiad.

Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Annerch y Cyhoedd
Petai argyfwng, dylai fod dulliau priodol o rybuddio a rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd sy'n mynychu’r digwyddiad. Mae angen bod gan System Annerch y Cyhoedd frys system ategol sy'n cael ei phweru gan fatris rhag ofn y bydd pŵer yn methu.

Gweler Rheoli'r Dorf
Gweler Adrodd am Faterion
Gweler Rheoli Traffig

https://bute-park.com/cy/event_guide/cynllunio-at-argyfwng/

Rheolwr Parc Bute
Julia Sas
JSas@caerdydd.gov.uk

Swyddog Digwyddiadau Parc Bute
Jenny Bradley
Jennifer.Bradley@caerdydd.gov.uk
02920 788402

Y Tu Allan i Oriau Gwaith

Mae'n bwysig eich bod yn gwybod sut i gysylltu â'r aelod priodol o Dîm y Parc yn ystod eich digwyddiad. Gall hyn fod ein tîm swyddfa, Goruchwyliwr Safle neu Geidwad Parc Bute.

https://bute-park.com/cy/event_guide/cysylltu-ar-parc/

D

Bydd Trefnydd y Digwyddiad yn sicrhau ei fod yn darparu digon o yswiriant cymorth cyntaf ar gyfer nifer y bobl sy'n mynychu'r digwyddiad.

Yr isafswm o swyddogion cymorth cyntaf a argymhellir mewn digwyddiadau bach lle na ystyrir bod unrhyw risgiau arbennig yn debygol yw 2:1000 ar gyfer y 3,000 cyntaf sy’n mynychu. 

Ni ddylai fod gan unrhyw ddigwyddiad lai na 2 swyddog cymorth cyntaf.

Bydd angen Cynllun Meddygol fel rhan o'ch cais digwyddiad, dylai hwn gynnwys manylion y ddarpariaeth yn ystod eich digwyddiad yn ogystal â'ch cyfnod adeiladu a thynnu.

Gweler Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Gweler Cynlluniau Argyfwng
Gweler Iechyd a Diogelwch  

https://bute-park.com/cy/event_guide/darpariaeth-cymorth-cyntaf/

Dylai trefnwyr digwyddiadau roi darpariaeth ddigonol ar gyfer ymwelwyr anabl â'u digwyddiad.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol nodi mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd pa ddarpariaeth fydd ar gyfer pobl ag anghenion ychwanegol.

  • Parcio – sicrhau y darperir digon o leoedd parcio i bobl anabl o fewn pellter derbyniol i safle'r digwyddiad
  • Toiledau – er nad oes canllawiau pendant ar ddarpariaeth, dylai trefnwyr digwyddiadau asesu demograffeg cynulleidfa darged y digwyddiad a chynllunio cyfleusterau hylendid yn unol â hynny
  • Llwybrau – dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried defnyddwyr cadeiriau olwyn wrth gynllunio eu digwyddiad
  • Ardaloedd gwylio
  • Darparu tocynnau

Gweler Colli Plentyn neu Oedolyn sy’n Agored i Niwed

https://bute-park.com/cy/event_guide/bobl-anabl/

Gallwn ystyried digwyddiadau marchnata neu hyrwyddo fesul achos.  Cysylltwch â'r tîm.

Mae mannau yng nghanol dinas Caerdydd sy’n addas ar gyfer digwyddiadau marchnata neu hyrwyddo.

https://bute-park.com/cy/event_guide/digwyddiadau-hyrwyddo/

Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i gyflwyno dirwyon i Drefnwyr Digwyddiadau am unrhyw ddifrod a achosir i'r tir a’r coed o ganlyniad i'w digwyddiad.

Gall y dirwyon hyn fod yn sylweddol ac ni ellir eu negodi, dylech eu hosgoi drwy baratoi.

Dylid defnyddio deunydd diogelu tir i ddiogelu ardaloedd glaswellt rhag difrod posibl a achosir gan gerddwyr a cherbydau, i atal traul y glaswellt, tyllu a difrod.

Trefnydd y Digwyddiad sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoli eich digwyddiad mewn modd sy'n lleihau difrod i'r safle, ac am gytuno ar gynllun diogelu'r ddaear  gyda Rheolwr Digwyddiadau'r Parc.

Gweler Bond
Gweler Gofalu am Dir ym Mharciau Caerdydd
Gweler Gofalu am Goed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Matiau Trac
Gweler Tywydd

https://bute-park.com/cy/event_guide/diogelur-tir/

Stiwardiaid a marsialiaid

Disgwylir i bob Trefnydd Digwyddiadau fod â chynlluniau cynhwysfawr a digon o staff ar waith cyn y digwyddiad i fynd i'r afael â'r canlynol:

  •  Gweithdrefnau a chynlluniau gwacáu'r safle mewn Argyfwng
  • Diogelwch ar y safle – cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad
  • Darparu stiwardiaid (a gweithwyr diogelwch trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch, os oes angen)
  • Traffig sy’n dod i mewn i'r parc
  • Parcio Ceir
  • Mynediad i'r parc y tu allan i’r oriau arferol

Nid oes angen trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar stiwardiaid a marsialiaid ar yr amod mai dim ond gwirio tocynnau a/neu arwain y cyhoedd yw eu swyddogaeth.  Byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi rhifau a lleoliadau'r stiwardiaid ar eich cynllun safle.

Diogelwch Dros Nos

Disgwylir bod gan bob Trefnydd Digwyddiadau gynlluniau cynhwysfawr a digon o staff ar waith cyn y digwyddiad i fynd i'r afael â diogelwch y safle yn ystod y gwaith adeiladu, adeg egwyl a thrwy gydol y digwyddiad byw yn ogystal â dros nos.

ADD

Pan fo'n ofynnol bod gan ddigwyddiad  drwydded safle a’i fod yn ei gweithredu, neu hysbysiad digwyddiad dros dro o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ac mae cyfrifoldebau person yn cynnwys rheoli mynediad, troi pobl allan neu chwilio bagiau, yna bydd angen Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (ADD) arnynt.

Mae'n ofynnol i holl staff ADD wisgo eu bathodyn bob amser. Cyfrifoldeb Trefnydd y Digwyddiad yw sicrhau bod bathodynnau ADD staff yn ddilys ac yn gyfredol. Gweler Bolardiau Rheoli Mynediad
Gweler Adrodd am Ddigwyddiadau Bolard
Gweler Gweithgarwch Trwyddedadwy
Gweler Parcio
Gweler Rhestr Cynhyrchu a Cherbydau
Gweler Diogelwch, Stiwardio ac ADD

https://bute-park.com/cy/event_guide/diogelwch/

Dylai trefnwyr y digwyddiad ystyried darparu dŵr yfed diogel fel rhan ohono, cyn gynted â phosibl.

Byddem yn eich annog i leihau'r defnydd o blastig yn eich digwyddiad ac ystyried dewisiadau amgen i ddosbarthu poteli unigol o ddŵr.

Mae gan rai safleoedd ddŵr o'r prif gyflenwad; cyfeiriwch at bob safle digwyddiadau am wybodaeth. Cyfeiriwch at y cynlluniau safle penodol i weld lleoliad gwasanaethau tanddaearol.

Digwyddiadau bach

Mae darparu dŵr yfed yn bwysig ym mhob digwyddiad.

Gall methu â darparu ffynhonnell ddiogel o ddŵr yfed yn y cyfeintiau priodol ar gyfer digwyddiad arwain at ganlyniadau sylweddol.

Digwyddiadau mawr

Yn gyffredinol, dylid darparu'r holl ddŵr o'r prif gyflenwad, ond os nad yw hyn yn bosibl yna mae bowserau neu ddŵr yfed potel yn dderbyniol.  Gellir defnyddio'r prif gyflenwad hefyd ar gyfer tanciau balast, toiledau a chyfleusterau cawod ac ati.

Mae Trefnydd y Digwyddiad yn ymrwymo i ad-dalu cost ei ddefnydd o ddŵr, y tu hwnt i'r hyn a gwmpesir gan bolisi "defnydd teg" y Cyngor oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig ar adeg cadarnhau'r archeb.

Mae'r 30 metr ciwbig cyntaf (30,000 litr) o ddŵr yn gynwysedig yn ffi trwydded y safle. Codir tâl o £1.61 am bob metr ciwbig (m3) o ddŵr a ddefnyddir yn ychwanegol at y cyfaint hwnnw, yn ogystal â ffi weinyddol arferol o £25. Bydd angen i ddarlleniadau mesuryddion gael eu cymryd cyn ac ar ôl y digwyddiad a'u cymeradwyo gan y goruchwyliwr safle.

Prif Gyflenwad Dŵr

Gall Trefnydd y Digwyddiad ofyn am gysylltiad â chyflenwad dŵr y Parc a systemau draenio'r prif gyflenwad.  Bydd yr holl safbibelli, peiriannau pwmpio, gorchuddion tyllau agored a systemau draenio yn cael eu diogelu er mwyn gwrthod mynediad i bawb ac eithrio gweithwyr neu Asiantau cymwys a chymwysedig.

Rhaid i drefnydd y digwyddiad sicrhau bod cynlluniau argyfwng ar waith pe bai’r cyflenwad dŵr yn cael ei golli, a allai gynnwys bowserau neu ddŵr potel.  Gall methu â darparu ffynhonnell ddiogel o ddŵr yfed yn y cyfeintiau priodol ar gyfer digwyddiad arwain at ganlyniadau sylweddol.

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gyfer trefnwyr digwyddiadau ar gyfer rheoli a darparu dŵr dros dro yn ddiogel gan ddefnyddio BS 8551:2015 Darparu a rheoli cyflenwadau dŵr dros dro a rhwydweithiau dosbarthu (heb gynnwys darpariaethau ar gyfer argyfyngau statudol) Cod Ymarfer.

Dylai'r holl offer dosbarthu dŵr fod yn lân, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ac yn addas.  Pan fydd angen cysylltu â dŵr o’r prif gyflenwad, rhaid i'r cysylltiad hwnnw, y pibellau a'r ffitiadau dŵr gydymffurfio â'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 a'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010. Gorfodir y Rheoliadau hyn gan Ddŵr Cymru Welsh Water a bydd angen archwiliad gan Arolygydd DCWW cyn i'r digwyddiad ddechrau.

Rhaid i drefnydd y digwyddiad ddiheintio a fflysio’r holl bibellau a ffitiadau dŵr cyn samplu a phrofi dros dro y cyflenwad dŵr ar gyfer diogelwch bacteriolegol, yn enwedig y rhai a ddarperir ar gyfer digwyddiadau awyr agored.

Bydd unrhyw drefnydd digwyddiadau sy'n dymuno defnyddio'r cyflenwadau dŵr presennol naill ai yng Nghae Cooper neu Erddi Sophia yn gyfrifol am drefnu profion ar y cyflenwadau hyn. Rhaid cynnal profion o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad er mwyn caniatáu amser i dderbyn y canlyniadau, a chymryd camau unioni, os oes angen.

Anogir trefnwyr digwyddiadau i gysylltu â Rheoli Llygredd a DCWW am gyngor gyda chyflenwad dŵr dros dro cyn gynted â phosibl wrth gynllunio digwyddiad.

Dylai dogfennau eich digwyddiad:

  • gynnwys rhestr o’r holl ddefnydd(iau) o ddŵr a fwriedir
  • nodi’r math o gysylltiad (Prif bibell, Preifat, Bowser neu Gyflenwad Tanc)
  • dangos rhwydwaith dosbarthu’r cyflenwad dŵr a nodi lleoliad y pwyntiau defnydd (e.e. tai bach, basnau golchi dwylo a chawodydd, pwyntiau yfed dŵr, paratoi bwyd)

Darparu asesiad risg o’r trefniadau cyflenwi dŵr:

  • rhestru ac asesu risgiau posibl y safle a allai achosi halogi’r cyflenwad dŵr neu gyflenwad dwr annigonol
  • amlinellu’r mesurau i’w cymryd i reoli neu atal y risgiau hyn
  • rhestru’r gwiriadau a’r gweithdrefnau monitro i’w cyflawni i sicrhau bod y mesurau rheoli hyn ar waith e.e. samplo ac arolygu parhaus
  • diffinio’r camau gweithredu i’w cymryd os bydd y mesurau hyn yn methu

Cyflwyno datganiad dull i ddisgrifio:

  • delio ag achosion o halogi
  • methiant y cyflenwad dwr
  • manylion derbyn a dosbarthu cyflenwadau dŵr eraill

Cynghorir y dylid cyflwyno Tystysgrifau Diheintio ar gyfer yr holl bibellau a ffitiadau dŵr dros dro i leihau’r posibilrwydd o halogi’r cyflenwad dŵr.

Dylid cymryd samplau dŵr i gadarnhau bod yr holl bibellau a ffitiadau dros dro wedi’u diheintio ac nad yw ansawdd y dŵr lle caiff ei ddefnyddio yn peryglu iechyd y cyhoedd. Os bydd canlyniadau microfiolegol yn annerbyniol, gall Rheoli Llygredd roi cyngor ar gamau unioni posibl.

Dŵr Gwastraff

Gweler Dŵr Gwastraff

Gweler Adrodd am Ddigwyddiad

https://bute-park.com/cy/event_guide/dwr/

Mae dau danc carthbwll x 3,500 Galwyn ar ochr ddeheuol Cae Cooper (gweler  ycynllun safle) ar gyfer storio dŵr budr/llwyd.  Gellir sicrhau bod y rhain ar gael i'w defnyddio drwy drefniant.  Rhaid i drefnydd y digwyddiad ariannu a threfnu bod y dŵr yn cael ei bwmpio allan yn llawn ar ddiwedd y cyfnod llogi.

Fel arall, rhaid i hurwyr drefnu i storio a thynnu dŵr llwyd/budr o'r safle.

  • Dylid marcio'r lleoliad arfaethedig ar gyfer tanciau ar eich cynllun safle a chytuno arno ymlaen llaw.
  • NI DDYLID gosod tanciau o dan neu ger y canopi o goed.
  • Rhaid i gyflenwyr ddarparu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiad risg ac ati i drefnydd y digwyddiad.
  • Rhaid cynnwys amseroedd gollwng a chasglu, a gwasanaethu yn eich Amserlen Gynhyrchu a Cherbydau.
https://bute-park.com/cy/event_guide/dwr-gwastraff/

E

Rhaid i Reolwr Digwyddiadau'r Parciau roi caniatâd o flaen llaw ar gyfer unrhyw effeithiau arbennig cynhyrchiad a gweithgarwch peryglus.

Trefnydd y Digwyddiad yn unig sy'n gyfrifol am sicrhau bod cynnwys yr asesiad risg sy'n benodol i'r digwyddiad yn addas ac yn ddigonol ac am sicrhau bod y mesurau lliniaru yn yr asesiad risg yn cael eu dilyn.

Gallwch wneud cais i ddefnyddio'r canlynol fel rhan o'ch cais. Rhaid cael caniatâd o flaen llaw gan Reolwr Digwyddiadau'r Parciau.  Dylid enwi unrhyw weithgaredd arbenigol yn eich ffurflenni cais digwyddiad a dylech ddarparu asesiadau risg.

  • Ffilmio gyda Drôn
  • Ffilmio ar Lefel y Ddaear
  • Pyrodechnegau
  • Laserau
  • Peiriannau Mwg
  • Peiriannau Effaith Gwynt
  • Peiriannau Golau Strôb
  • Canonau Confetti/Rhubannau Ffefrir  rhubanau papur bioddiraddadwy (ni chaniateir defnyddio confetti ffoil ar y safle) a chyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad fydd yr holl wastraff a gynhyrchir a rhaid ei symud o'r safle.
  • Tân gwyllt
  • Styntiau / perfformiad awyr
  • Gweithgaredd balŵn aer poeth neu reid ar rwymyn
  • Arall - rhowch fanylion

Gweler 
Gweler Asesiad Risg
Gweler Tân gwyllt
Gweler Asesiad Risg

https://bute-park.com/cy/event_guide/gweithgarwch-peryglus/

F

Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad gael caniatâd Rheolwr Digwyddiadau'r Parc fel rhan o'r broses archebu i ddefnyddio reidiau ffair neu ddifyrrwch mewn unrhyw barc neu fan agored

Rhaid bod gan unrhyw reid ffair dystysgrif ADIPS ddilys gyfredol (neu un gyfwerth a gymeradwyir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) sy’n ddilys ar adeg y digwyddiad ynghyd ag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus digonol.

Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Lleoliad a chynllun

Canllawiau ar ddiogelu tir a phellter o goed i gytuno arnynt – nodwch ar eich Cynllun Safle.

  • Bydd mynedfeydd ac allanfeydd reidiau yn cael eu cadw'n glir bob amser.
  • Bydd o leiaf 6 metr rhwng unrhyw ran symudol reid ac unrhyw ran symudol reid gyfagos.
  • Bydd o leiaf 3 metr rhwng unrhyw ran symudol reid heb ei diogelu ac unrhyw ran nad yw’n symud ar reid gyfagos.
  • Bydd reidiau gyda rhannau sy'n symud yn cael eu ffensio'n ddiogel fel na ellir cyffwrdd ag unrhyw ran o’r reid o'r tu allan pan fydd y reid yn symud.
  • Bydd ffiniau reidiau lle mae unedau cario teithwyr yn symud mewn llwybr ecsentrig yn cael eu ffensio'n ddiogel y tu hwnt i bwyntiau pellaf y llwybr.
  • Bydd reidiau'n cael eu lleoli lle na fyddai gwynt peryglus yn chwythu am i fyny na’r reidiau eu hunain yn achosi perygl.

Tystysgrifau Arolygu

Bydd y dystysgrif arolygu ar gyfer pob reid ffair yn cadarnhau bod y pwyntiau canlynol wedi'u cynnwys yn yr arolygiad:

  • Archwiliadau gweledol ar gyfer meysydd amlwg o wendid strwythurol.
  • Gwiriwch fod y gosod, y llenwi bylchau, y pacio, y rhwystrau, y canllawiau, y llwybrau cerdded, y dyfeisiau atal, y dyfeisiau cloi a’r pinnau yn gywir.
  • Gwiriwch y dyfeisiau diogelwch, stopio mewn argyfwng, teithiau diogelwch ac ati.
  • Gwiriwch gyfyngiadau teithwyr ar gyfer traul, addasiad a gweithrediad.
  • Chwiliwch am ddiffygion sy'n debygol o achosi toriadau a/neu rwygo dillad.
  • Archwiliwch y systemau trydanol i bennu pwyntiau daear, darparu RCD ac ati.
  • Gweithredwch bob reid unwaith i brofi.
  • Dylai fod gan gestyll neidio dystysgrif ADIPS neu PIPA .
  • Oni bai bod Trefnydd y Digwyddiad yn cyflogi trydanwr cymwys, (NICEIC cofrestredig neu aelod o ECA ), yna dylai'r cyflenwad pŵer i reidiau ffair barhau i fod yn gyfrifoldeb ar weithredwr y ffair.
  • Ni ddylid cymryd pŵer o reid ffair i gyflenwi stondinau/stondinau/llwyfannau eraill ac ati ar y safle.

Rhowch fanylion reidiau ffair yn eich dogfennau e.e. math/enw, maint a nifer y reidiau, hefyd sut y byddant yn cael eu pweru ac enw'r cyflenwr.

Sylwch na ellir gwneud unrhyw newidiadau i'ch defnydd o ffair neu reidiau difyrrwch darpariaeth heb ganiatâd o flaen llaw a’r gwaith papur perthnasol. Cyfrifoldeb Trefnydd y Digwyddiad fydd diogelwch a sicrhau y bodlonir gofynion rheoleiddiol yn y pen draw.

Gweler Teganau Aer
Gweler Cynllun Safle
Gweler Asesiad Risg

https://bute-park.com/cy/event_guide/ffeiriau-a-difyrion/

Mae'n ofynnol i chi ddweud wrthym yn eich cais os ydych yn bwriadu ffilmio at ddibenion hyrwyddo ar y ddaear neu gyda drôn.

Ar gyfer ffilmio ar y ddaear, dylech drafod gyda Swyddog Digwyddiadau Parc Bute a chynnwys gwybodaeth lawn yn eich Cynllun Rheoli Digwyddiadau.

Dylech wneud ceisiadau ffilmio gyda drôn drwy  Swyddfa Ffilm Caerdydd.

Ewch i Ffilm a ffotograffiaeth

Ewch i  Effeithiau Arbennig Cynhyrchiad a Gweithgarwch Peryglus

https://bute-park.com/cy/event_guide/ffilm-ffotograffiaeth-dronau/

G

Dylai digwyddiadau mawr ystyried goblygiadau'r digwyddiad ar reoli'r torfeydd yn ogystal â'r parc ehangach.

Pan fo miloedd yn y gynulleidfa, a'r digwyddiad yn gorffen ar ôl iddi dywyllu yna dylid ystyried y canlynol (digwyddiadau Cae Cooper):

  • Llwybrau gyda ffensys ar gyfer gadael
  • Dŵr agored dan Bont Arglwyddes Bute / Camlas Gyflenwi'r Dociau
  • Ardaloedd coediog tywyll o amgylch Cerrig yr Orsedd
  • Atal pobl rhag mynd tua'r gogledd i lwybrau ac ardaloedd heb olau yn y parc
  • Amseroedd cau ffyrdd y tu allan i Borth y Gogledd a Phorth y Gorllewin

Gweler Rhwystrau a Ffensys
Gweler Rheoli'r Dorf
Gweler Cynllun y Cyfnod Adeiladu (fesul safle)
Gweler Cau Ffyrdd

https://bute-park.com/cy/event_guide/egress/

Mae Gerddi Sophia yn barcdir rhestredig gradd II ar gofrestr parciau a gerddi hanesyddol Cadw. Mae’r parcdir i’r de o faes parcio talu ac arddangos Gerddi Sophia gyda mynediad i gerbydau drwy Glos Sophia, oddi ar Heol y Gadeirlan.

Bydd cyfnod gorffwys o 4-6 wythnos yn cael ei ychwanegu at y calendr argaeledd ar ôl digwyddiadau â seilwaith sylweddol neu sy’n cael effaith sylweddol ar y tir i ganiatáu i'r tir adfer.

Mae'r gofod digwyddiadau wrth ymyl safleoedd preswyl a busnes, gan gynnwys gwesty, felly bydd ceisiadau am ddigwyddiadau yn cael eu hasesu gan ystyried y tarfu posibl ar y rhain.

Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:

  • Teithiau cerdded / rasys /reidiau beic elusennol
  • Partïon preifat neu gorfforaethol
  • Digwyddiadau cymunedol gyda seilwaith cyfyngedig /cymedrol
  • Digwyddiadau theatr awyr agored
  • Maes parcio gorlif mewn cysylltiad â digwyddiadau ym Mharc Bute neu Gastell Caerdydd
LleoliadGoogle Map
Maint4,000 metr sgwâr
MesuriadauTua: 79m x 52m
Cynllun y SafleMae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Gerddi Sophia
Ffi LlogiFfi Llogi
Cyflenwad pŵer ar y safleOes - Yn amodol ar bolisi defnydd teg
• 16 Amp cyfnod sengl 230 folt (x2)
• 32 Amp cyfnod sengl 230 folt (x2)
• 63 Amp 3 chyfnod + niwtral 400 folt
• 63 Amp cyfnod sengl 230 folt
Tystysgrif
Cyflenwad dŵr ar y safleOes - Yn amodol ar bolisi defnydd teg. 1 lleoliad
CarthffosiaethDim
ToiledauDim
Mae bloc toiledau cyhoeddus ym maes parcio Gerddi Sophia. Sylwch fod yr oriau agor i’r cyhoedd yn gyfyngedig. Ddim yn addas i'w ddefnyddio gan bobl sy’n mynd i ddigwyddiad.
Llinellau ffôn/ISDNDim
Cysylltiad DataDim

Ystyriaethau Eraill

Cyfansoddiad y tirMae’r tir yn cynnwys glaswellt wedi’i atgyfnerthu â ffeibr sydd wedi’i ddylunio i wrthsefyll difrod gan olwynion teiars. Mae'r cyfansawdd yn eithaf bas gyda chraidd caled islaw, felly ni ellir gosod pyst mwy na 0.5m i’r tir, felly efallai y bydd angen angorau balast dŵr i gynnal eich strwythurau.
Cymdogion a sŵnMae ardal ddigwyddiadau Gerddi Sophia gerllaw gwesty a llety preswyl.

Felly, mae'n rhaid i chi ystyried y niwsans sŵn a allai gael ei achosi gan eich digwyddiad, gan gynnwys yn ystod y cyfnod adeiladu a dadosod. O ran cwrteisi, byddem yn eich cynghori'n gryf i ymgynghori a chyfleu eich cynlluniau ymlaen llaw gydag eiddo cyfagos.

Defnyddir y maes parcio ceir, y maes parcio i fysus a'r ffordd fynediad i gynnig lleoedd parcio ar ddiwrnodau gêm fawr yn Stadiwm Principality, a gall achosi tarfu sylweddol ar fynediad i'r safle hwn.
GoleuoMae goleuadau yn y maes parcio, ond nid yn yr ardal ddigwyddiadau. Bydd angen goleuadau ychwanegol ar gyfer eich digwyddiad os bydd yn gweithredu ar ôl iddi dywyllu, neu os oes gennych staff sy'n gweithio ar y safle ar ôl iddi dywyllu.
FfensysGan fod yr ardal ddigwyddiadau mewn parc heb ei gloi yng nghanol y ddinas, bydd angen diogelwch a/neu ffens perimedr er mwyn diogelu eich offer, eich gwesteion a'ch staff.

Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas

Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad.

Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i’r lleoliad rydych yn ei ffafrio. Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn effeithio’n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia.

Mae gan wefan Croeso Caerdydd gyfleuster chwilio y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored sydd wedi’u trefnu ar ddyddiad penodol.

Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu sŵn neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i leoliadau cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd newydd a’r preswylfeydd ar Heol y Gadeirlan.

Mynediad at y safle

Mynediad i GerddwyrY mynedfeydd agosaf i’r safle hwn o’r parc yw o:
• Stryd y Castell (i’r de)
• Parc Bute dros Bont y Mileniwm dros Afon Taf (i’r dwyrain)
• Clos Sophia a’r ‘lôn feingefn’ (i’r gogledd a’r gorllewin)
Cyfyngiadau Cerbyd/LlwythMae rhes o folardiau y gellir eu cloi a’u tynnu wedi'i lleoli ar hyd y ffin flaen (gorllewinol) i atal cerbydau heb awdurdod rhag defnyddio’r ardal ddigwyddiadau ac i alluogi newid y pwyntiau mynediad/gadael er mwyn lleihau difrod i laswellt. Mae 4 'gorsaf ddocio' wag yn y pen deheuol i dderbyn y bolardiau a dynnwyd i'w cadw'n ddiogel. Gellir cael allweddi i dynnu'r bolardiau gan Oruchwyliwr y Safle.

Sylwch, nid oes mynediad i mewn nac allan i gerbydau ar Stryd y Castell / Heol Ddwyreiniol y Bont-faen drwy'r bolardiau a'r gatiau i'r de. Mae hyn at ddefnydd brys yn unig.

DS: Byddai digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn Stadiwm Principality neu Stadiwm Criced Gerddi Sophia yn effeithio ar faes parcio Gerddi Sophia, felly byddai angen i unrhyw ddigwyddiad sy'n dymuno archebu'r lle hwn wirio dyddiaduron digwyddiadau'r stadia hyn yn gyntaf.
Mannau Parcio Agosaf i’r Trefnydd Digwyddiadau ac YmwelwyrGall ardal ddigwyddiadau Gerddi Sophia ei hun ddarparu ar gyfer hyd at 100 o leoedd. Caiff y rhain eu harchebu drwy’r dulliau ymgeisio arferol ar gyfer digwyddiadau.

Mae gan faes parcio Gerddi Sophia 320 o leoedd parcio talu ac arddangos yn y prif faes parcio ac ar hyd 'lôn feingefn' Gerddi Sophia, sy'n rhedeg ar hyd blaen (gorllewin) yr ardal ddigwyddiadau. Dylid archebu’r lleoedd hyn drwy Wasanaethau Parcio Adran Traffig a Thrafnidiaeth Cyngor Caerdydd.

Mae 9 lle bws gerllaw'r prif faes parcio. Mae'r rhain ar gael i'w defnyddio'n gyffredinol drwy'r peiriannau tocynnau talu ac arddangos.

Rhaid i chi drafod a threfnu defnydd o leoedd talu ac arddangos yn uniongyrchol gyda'r tîm Gwasanaethau Parcio ond gwnewch eich cyswllt o fewn yr Adran Parciau / Digwyddiadau yn ymwybodol o’r penderfyniadau, er gwybodaeth.

Oni bai eich bod yn cael gwybod yn glir fel arall, dylai trefnwyr digwyddiadau gymryd cyfrifoldeb llwyr am gyfathrebu â'r tîm Gwasanaethau Parcio ar bob mater sy'n effeithio ar leoedd parcio talu ac arddangos. Nid yw’r Rheolwr Digwyddiadau a Goruchwyliwr y Safle yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gyfathrebu na negodi rhwng y partïon. Gwneir hyn er mwyn cadw rolau a chyfrifoldebau a sianeli cyfathrebu priodol yn glir.

Cyngor ar gyfer asesu risg a chynllunio yn ôl y Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Chynllunio)

  • Gall cyffiniau’r ardal ddigwyddiadau fod yn brysur. Fe'i defnyddir gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau eraill. Gallent rannu llwybrau a ffyrdd gyda chynulleidfa a cherbydau'r digwyddiad.
  • Mae'r ardal ddigwyddiadau ar gael i gerddwyr ar bob adeg oni bai ei bod wedi'i ffensio'n ddiogel.
  • Gall parcio heb awdurdod rwystro cerbydau rhag cael mynediad i’r safle. Dylid sicrhau llwybrau mynediad ymlaen llaw i atal oedi.
  • Mae busnesau a phreswylfeydd preifat yn rhannu'r llwybr mynediad i gerbydau i’r ardal ddigwyddiadau.
  • Mae stiwardiaid traffig Cyngor Caerdydd yn cymryd dros maes pacio Gerddi Sophia a lleoedd talu ac arddangos ar hyd lôn feingefn Gerddi Sophia pan fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn Stadiwm Principality/Stadiwm SWALEC. Cymerwch olwg ar Amserlen Digwyddiadau Dinas Caerdydd i weld a oes digwyddiadau’n gwrthdaro â'ch dyddiadau llogi.
  • Mae potensial ar gyfer troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y disgwylir mewn unrhyw barc yng nghanol y ddinas.
  • Nid oes goleuadau ar y safle ei hun ac mae’n dywyll ar ôl machlud yr haul.
  • Mae'r safle'n agos at fusnesau a phreswylfeydd preifat. Rhaid ystyried aflonyddwch sŵn ar y safleoedd cyfagos hyn a chynllunio ar ei gyfer i atal niwsans. Ystyriwch gysylltu â phreswylfeydd ar: Heol y Gadeirlan, Sophia Walk, Hamilton Street, Talbot Street, Teras Coldstream, Belgrave Court, Heol Isaf y Gadeirlan, West Lee, Green Street, Mark Street, Hen Dafarn Westgate
  • Mewn tywydd gwlyb gall y tir fynd yn feddal iawn a gall dŵr sefyll ar wyneb ffyrdd a glaswellt.
  • Mae pŵer a dŵr ar gael ar y safle. Gall Rheolwr y Parc ganiatáu mynediad ar gais.
  • Mae gwasanaethau claddedig yn y Lleoliad ac o'i amgylch. Lle y bo’n hysbys, mae’r rhain wedi’u nodi ar gynllun sylfaenol yr ardal digwyddiadau.
    Fodd bynnag, nid yw'r Lleoliad yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb y cynllun hwn. Mae'r Prif Gontractwr yn gyfrifol am wneud cais am chwiliadau RASWA (Deddf Ffyrdd a Gwaith Stryd) cyfredol a nodi presenoldeb gwasanaethau (e.e. sganio CAT) os yw'n bwriadu torri tir yn y Lleoliad neu o'i amgylch. Gall y Lleoliad gyrchu chwiliadau RASWA ar gais.
  • Nid oes cyfleusterau lles ar y safle ar hyn o bryd.
https://bute-park.com/cy/event_guide/gerddi-sophia/

Mae Parc Bute yn dirwedd hanesyddol restredig Gradd 1 ac yn arboretwm o bwys cenedlaethol, helpwch ni i'w ddiogelu. Rydym wedi darparu'r canllawiau canlynol i'ch helpu i wneud hyn.

Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i ddirwyo Trefnwyr Digwyddiadau am unrhyw ddifrod a achosir i'r ddaear o ganlyniad i'w digwyddiad. Gall y dirwyon hyn fod yn sylweddol ac ni ellir eu negodi, dylech eu hosgoi drwy ddilyn y canllawiau hyn.

Yn dibynnu ar y tywydd, amodau'r ddaear yn ogystal â'r seilwaith, maint y traffig a maint neu gynllun eich digwyddiad, fe fydd yn peri lefel benodol o risg i'r tir y'i cynhelir arno.

Bydd Cyngor Caerdydd yn codi tâl ar Drefnwyr Digwyddiadau am y gost o atgyweirio difrod i 'adeiladwaith' y parc, e.e. tyweirch neu ail-hau ardaloedd glaswelltog, dad-gywasgu pridd, ailraddio rhychau teiars ac ati. Bydd y costau'n cael eu cymryd o Fond y digwyddiad.

Fodd bynnag, oherwydd y tywydd neu adeg y flwyddyn, efallai na fydd modd gwneud y gwaith adfer ar unwaith a gall effaith eich digwyddiad adael ôl hyll am wythnosau neu fisoedd. Nid yw defnyddwyr parciau rheolaidd na staff y parciau yn gwerthfawrogi hyn felly pan ddaw'n fater o ddifrod, mae atal yn llawer gwell nag adfer.

  1. Un o brif achosion difrod digwyddiadau yw teiars cerbydau sy'n gyrru dros dir meddal ac yn achosi rhychu hyll. Am y rheswm hwn  rhaid i gerbydau aros ar arwynebau caled lle bynnag y bo modd.  Dylid gosod teiars glaswellt ar gerbydau fforch a cherbydau safle eraill.
  • Os yw'n rhaid bod cerbydau yn gyrru oddi ar ffyrdd / llwybrau efallai y bydd angen diogelu'r ddaear. Gwnewch yn siŵr bod eich cyllideb yn caniatáu ar gyfer diogelu tir lle bo angen er mwyn atal difrod. Mae stoc o fatiau trac ym Marc Bute y gall Trefnwyr Digwyddiadau sy’n defnyddio lleoliadau Parc Bute, Castell Caerdydd neu Erddi Sophia eu llogi am brisiau cystadleuol. Gweler Llawlyfr Digwyddiadau'r Parciau am fanylion neu trafodwch gyda Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau.
  • Gall gyrwyr fod yn anodd eu rheoli mewn sefyllfaoedd fel digwyddiadau ac weithiau byddant yn crwydro oddi ar y llwybrau gyda bwriad da – e.e. ildio i gerddwr, cyrraedd terfyn amser digwyddiad ac ati. Fodd bynnag disgwylir i Drefnwyr Digwyddiadau gymryd camau rhagweithiol i reoli traffig eu digwyddiad ac ymddygiad y gyrwyr er mwyn peidio â difrodi'r parc. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio stiwardiaid, cynllunio ac amserlennu da, briffio da i yrwyr a staff a, lle bo angen, deunydd gwarchod corfforol e.e. ffensys, rhwystrau neu dapiau ar hyd ymylon bregus.
  • Cyfeiriwch at ganllawiau safle'r lleoliad ar gyfer gofynion lleol yn eich lleoliad a defnyddio gwybodaeth a phrofiad Goruchwylydd y Safle a staff Digwyddiadau’r Cyngor i gynllunio'n llwyddiannus er mwyn atal difrod.
  • Gall peidio â chymryd camau rhesymol i atal difrod rhag digwydd achosi niwed i’ch enw da chi a'r Cyngor, a allai eich atal rhag cynnal digwyddiadau ym mharciau Caerdydd yn y dyfodol.

Gweler Gofalu am Goed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Cynlluniau ArgyfwngGweler Diogelu'r Ddaear
Gweler Matiau Trac
Gweler Tywydd

https://bute-park.com/cy/event_guide/gofalu-am-dir/

Mae Parc Bute yn dirwedd hanesyddol restredig Gradd 1 ac yn arboretwm o bwys cenedlaethol, helpwch ni i'w ddiogelu. Rydym wedi darparu'r canllawiau canlynol i'ch helpu i wneud hyn.

Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i gyflwyno dirwyon i Drefnwyr Digwyddiadau am unrhyw ddifrod a achosir i'r coed o ganlyniad i'w digwyddiad. Gall y dirwyon hyn fod yn sylweddol ac ni ellir eu negodi, dylech eu hosgoi drwy ddilyn y canllawiau hyn.

Dylech friffio staff eich safle ar y wybodaeth hon a dylai'r daflen hon fod ar gael er gwybodaeth ar y safle.

  • Mae gorchudd coeden yn rhoi syniad o hyd a lled ardal ei gwreiddiau. Bydd cywasgu'r parth hwn yn raddol yn mygu'r goeden wrth i bocedi aer gael eu gwasgu allan o'r pridd. Am y rheswm hwn, ni chewch barcio unrhyw gerbydau na deunyddiau trwm eraill o dan orchudd unrhyw goeden. Os ydych yn dymuno gwneud cais i gael storio o dan orchudd coed i gynorthwyo'ch digwyddiad, rhaid trafod hyn o flaen llaw gyda Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau a fydd yn penderfynu fesul achos.
  • Er mwyn osgoi tyllu prif wreiddyn y gellid ei hollti neu ei heintio ac achosi i goeden ddirywio, nid ddylid gosod unrhyw byst yn y ddaear o dan unrhyw orchudd coeden.
  • Am yr un rheswm  ni chewch dorri ffosydd, cloddio na newid lefelau'r ddaear o dan orchudd unrhyw goed.
  • Er mwyn osgoi difrodi ein coed ac atal heintio cunrhyw glwyf coeden, nid chaniateir tocio coed na llwyni. Yn gyffredinol, bydd Cyngor Caerdydd yn gwrthod unrhyw gais o'r fath, ond mewn achosion eithriadol bydd yn caniatáu i berson awdurdodedig wneud hyn. Os oes angen tocio coed i hwyluso eich digwyddiad, e.e. canghennau crog isel sy'n rhwystro cerbydau nwyddau trwm, rhaid i chi ofyn am hyn o flaen llaw gan Reolwr Digwyddiadau'r Parciau.
  • Er mwyn osgoi llygru'r parth gwreiddiau, ni fydd unrhyw gemegau na thanwydd ac ati yn cael eu pentyrru na'u storio o dan orchudd unrhyw goeden. Rhaid defnyddio hambyrddau diferu o dan eneraduron.  
  • Er mwyn osgoi llosgi neu lygru'r parth gwreiddiau, ni chaniateir gosod pibellau nwy llosg gwresogyddion, generaduron ac ati o dan orchudd unrhyw goeden. Bydd pob pibell nwy llosg yn cael ei chyfeirio oddi wrth orchuddion coed.
  • Er mwyn osgoi difrod tân ac osgoi llygru'r parth gwreiddiau, ni chaniateir coginio na thanau o dan orchudd unrhyw goeden.
  • I barchu ein coed ac osgoi eu difrodi, rhaid i chi beidio ag atodi unrhyw beth at goeden. Ni ddylech hoelio na gosod posteri â phinnau ar goed na rhwymo posteri o amgylch coed â llinyn. Os ydych yn dymuno atodi unrhyw beth at goeden neu grogi rhywbeth oddi arni, e.e. goleuadau, arwyddion, addurniadau ac ati, rhaid trafod a chytuno ar hyn ymlaen llaw gyda Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau.
  • Os yw eich digwyddiad yn gofyn am symud cerbydau neu offer wrth ymyl coeden, efallai y bydd angen defnyddio mesurau diogelu coed lleol i wahanu'r goeden/coed yn gorfforol oddi wrth y perygl. Gweler yr enghraifft isod.

Bydd unrhyw fesurau amddiffynnol o amgylch coed yn parhau i fod yn eu lle drwy gydol y digwyddiad ac ni chânt eu tynnu na'u hadleoli. Bydd hyn yn cael ei fonitro gan Oruchwylydd y Safle.

Mae coed aeddfed a phrin yn bethau na ellir rhoi rhai eraill yn eu lle, a rhaid gofalu amdanynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn safleoedd arboretwm fel Parc Bute a Pharc y Rhath. Cyfeiriwch at ganllawiau penodol ar safleoedd lleoliadau i weld unrhyw gyfyngiadau lleol ychwanegol.

https://bute-park.com/cy/event_guide/gofalu-am-goed/

Bydd angen gwneud gwaith gosod goleuadau brys ar gyfer llawer o ddigwyddiadau, a bydd gwaith gosod o'r fath yn cael ei wneud yn unol â gofynion BS5266 a'r Canllaw Porffor.  Dylai'r system gynnwys pob rhan ofynnol o'r safle gan gynnwys yr holl lwybrau ymadael / dianc ac ardaloedd cadw eitemau er mwyn galluogi pobl i adael y safle i leoliad cytunedig neu'r Briffordd Gyhoeddus fel sy’n briodol.

Dylai fod gan bob llwybr ymadael / dianc ddwy ffynhonnell bŵer amgen fel bod y lefel goleuo ar hyd y llwybr yn parhau ar y lefel ofynnol os bydd methiant rhannol yn y system.  Os defnyddir goleuadau tŵr, caiff hwn ei osod a'i anelu'n gywir cyn agor y digwyddiad.  Bydd lefelau golau ar hyd y llwybrau a nodir yn cael eu mesur a'u plotio ar gynllun safle sy'n dangos bod lle digonol yn cael ei oleuo.

Darparwyd cynllun er gwybodaeth gyda lleoliadau colofnau goleuadau awgrymedig.  Mae hyn ar gyfer canllawiau yn unig ac NID yw'n diddymu cyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad am gyflawni'r gofynion uchod.

Profion Goleuadau

Cyfrifoldeb trefnwyr digwyddiadau yw gwneud profion goleuadau a dylid cyflwyno canlyniadau i parcbute@caerdydd.gov.uk.  Gellir copïo Swyddogion eraill y Cyngor yn y neges yn ôl y gofyn.

Gweld Cynlluniau Argyfwng
Gweld  Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad
Gweld Pŵer
Gweld Ymateb i Arllwysiadau

https://bute-park.com/cy/event_guide/lighting/

Gall Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau benodi Goruchwylydd Safle i oruchwylio gweithgareddau eich digwyddiad ar y safle ac i ddiogelu buddiannau Adran y Parciau a'r Cyngor.  Bydd Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau yn penderfynu a fydd gofyn cael Goruchwyliwr Safle y Cyngor wrth asesu eich cais, ond fel arfer bydd angen un ar bob digwyddiad gydag unrhyw seilwaith, gweithgareddau neu symudiadau cerbydau sylweddol.

Er mwyn i ni drefnu’r staff angenrheidiol ar gyfer eich digwyddiad mae'n hanfodol eich bod yn rhoi drafftiau rhesymol gywir i ni o'ch Cynllun Safle a’ch Amserlen Gynhyrchu a Rhestr Gerbydau cyn gynted â phosibl. Bydd eu hangen arnom i asesu'r amseroedd a'r diwrnodau y bydd angen Goruchwylydd Safle drwy gydol eich cyfnod llogi.

Bydd Goruchwylydd y Safle yn rhoi cymorth logistaidd ar y safle i chi e.e. datgloi gatiau'r lleoliad, rhoi mynediad i BŵerDŵrArwyddionbaneri herasmatiau trac a.y.b. Bydd yn ddolen gyswllt ar y safle rhyngoch a Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau i ddatrys problemau.

Bydd Goruchwylydd y Safle hefyd yn gyfrifol am gynnal yr arolygiad safle cyn ac ar ôl y digwyddiad a darparu tystiolaeth i Reolwr Digwyddiadau'r Parciau er mwyn i hwnnw asesu a fydd angen gwneud didyniadau o'ch bond .

Rôl Goruchwylydd y Safle a'n disgwyliadau:

  • Sleidiau Sefydlu Safle Parc Bute
  • Sleidiau Sefydlu Safle Gerddi Sophia;

Taliadau

Sylwer y codir tâl am wasanaethau (oni chytunir fel arall).  Byddwch yn cael eich anfonebu am gost Goruchwylydd y Safle (o leiaf 4 awr o alwad allan) ar ôl eich digwyddiad yn seiliedig ar y taflenni amser a gyflwynir.

Diwrnod6am - 8pm £16.36
Gyda’r nos8pm - 6am £21.17
PenwythnosHanner nos, nos Wener tan hanner nos, nos Sul £23.60
Gŵyl y Banc Hanner nos, nos Sul tan hanner nos, nos Lun £30.90

Os yw eich digwyddiad yn mynd yn hirach na'r amserlen a gyflwynoch, neu os gadewch offer ar y safle i'w gasglu y diwrnod canlynol (toiledau, rhwystrau/ffensys ac ati), neu os yw hi'n mynd yn rhy hwyr i wneud archwiliad safle/trosglwyddiad terfynol boddhaol, byddwch yn cael eich bilio am yr oriau ychwanegol sy'n angenrheidiol (o leiaf 4 awr) i’r Goruchwylydd Safle ddychwelyd y diwrnod canlynol.

Rydym yn argymell eich bod yn sicrhau bod cynrychiolydd addas o dîm eich digwyddiad yn cwblhau'r ffurflen derfynol gyda Goruchwylydd y Safle pan fo’r holl weithgareddau a’r casgliadau wedi eu cwblhau, gan y bydd y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon yn cael ei defnyddio i benderfynu pa ddidyniadau, os o gwbl, y bydd angen eu cymryd o’ch bond.

Digwyddiadau bach

Ar gyfer digwyddiadau llai, gwnewch drefniadau ynghylch mynediad i safle eich digwyddiad cyn eich digwyddiad. 

Bydd staff Parc Bute neu Geidwad Parc Bute yn ymweld â chi a bydd yn sicrhau bod ein telerau ac amodau llogi yn cael eu cynnal, ac yn rhoi cyngor a chymorth i chi ar y safle.

https://bute-park.com/cy/event_guide/goruchwylydd-safle/

Lle mae'r niferoedd yn ei warantu, dylai Trefnydd y Digwyddiad hefyd ddarparu ar gyfer 'plentyn ar goll neu oedolyn agored i niwed' ar safle'r digwyddiad. 

Dylid cynllunio ar gyfer gweithdrefn ymlaen llaw gan ystyried mannau cyfarfod, adfer plant a threfniadau lles.

Gall fod yn briodol bod gan unigolion sy'n gweithio mewn swyddi penodol ddatgeliad dilys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). 

Gweler: Plant

Gweler: Darpariaeth i Bobl Anabl

https://bute-park.com/cy/event_guide/plant-coll/

Mae manylion trwydded Safle safonol y safle yn:

Efallai y bydd angen i chi ofyn am ganiatâd ychwanegol ynglŷn â'r canlynol:

Adloniant a Reoleiddir:

Adloniant a ddarperir i'r cyhoedd gyda'r bwriad o wneud elw e.e. cerddoriaeth, ffilm, dawns, dramâu, chwaraeon dan do. 

Os bydd eich digwyddiad yn cynnwys adloniant wedi’i reoleiddio bydd angen i chi gysylltu â PPL PRS am y drwydded gerddoriaeth ar 0800 151 2089 trefnwch eich trwydded yma.

Gwerthu neu gyflenwi alcohol:

Gweler Alcohol

Lluniaeth gyda’r hwyrnos:

Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu gweini lluniaeth hwyr y nos neu fwyd poeth neu ddiod rhwng (11.00pm a 5.00am).

Casgliadau elusennol:

Gweler Casgliadau Elusennol

Gweler Trwyddedau Cyngor Caerdydd

https://bute-park.com/cy/event_guide/gweithgaredd-trwyddedadwy/

H

Chi sy'n gyfrifol am roi gwybod i ddefnyddwyr rheolaidd y parc am eich digwyddiad o leiaf 7 diwrnod cyn eich diwrnod sefydlu cyntaf os yw’n tarfu ar lwybrau cyhoeddus a/neu'n newid amseroedd cloi arferol y parc (ac yn byrhau’r diwrnod). 

Dylid arddangos manylion ar bob un o gatiau'r parc ac mewn lleoliadau o bwys yn agos at safle eich digwyddiad pan fo angen. 

Dylai’r arwyddion fod yn ddwyieithog a dylid eu tynnu i lawr cyn i chi adael y safle.

Geiriad enghreifftiol ar arwyddion:

Hysbysiad CyhoeddusPublic Notice
Cynhelir [enw'r digwyddiad] ar [DD-MM] o [00:00-00:00] yn [lleoliad y digwyddiad].

Felly bydd y [llwybr a/neu'r ardal] hon yn brysurach na’r arfer bryd hynny.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: [Enw Trefnydd y Digwyddiad a’r Manylion Cyswllt]
Please note that [event name] is taking place on [DD-MM] from [00:00-00:00] at [event location].

Therefore this [path and/or area] will be busier than usual at this time.

Apologies for any inconvenience caused.

For more information, please contact: [Event Organiser’s Name & Contact Details]

Gweler Cysylltu â'r Parc
Gweler Cynlluniau Argyfwng
Gweler y Gymraeg

https://bute-park.com/cy/event_guide/hysbysiad/

I

Mae gwybodaeth fanwl am iechyd a diogelwch digwyddiadau ar gael yn y Canllaw Porffor, a ysgrifennwyd gan Fforwm y Diwydiant Digwyddiadau.

Mae'r Canllaw Porffor yn cynnwys llawer o wybodaeth efallai nad yw’n berthnasol ar gyfer digwyddiadau llai. Os ydych yn cynllunio digwyddiad bach neu ganolig, mae gwybodaeth iechyd a diogelwch ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

https://bute-park.com/cy/event_guide/iechyd-a-diogelwch/

Mae Trefnydd y Digwyddiad, wrth wneud cais am ddigwyddiad ac ymrwymo i gontract, yn cytuno i indemnio'r Cyngor ei swyddogion, cyflogeion, ei denantiaid, ei wahoddedigion, ei drwyddedeion a’i ymwelwyr rhag ac yn erbyn pob anaf personol (marwol ai peidio) ac eithrio anaf sy'n deillio o unrhyw weithred esgeulus gan y Cyngor neu ei weision neu asiantau, a'r holl golled neu ddifrod i eiddo sy'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o arfer yr hawliau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen a enwyd neu unrhyw un ohonynt ac yn erbyn pob atebolrwydd mewn perthynas â phob hawliad, galwad, achos, cost, iawndal a threuliau mewn perthynas â hynny ac na fyddai wedi codi pe na bai'r caniatâd i ddod i mewn neu i ddefnyddio'r eiddo neu'r cyfleusterau a enwyd wedi'i roi ac mae Trefnydd y Digwyddiad yn datgan y bydd Trefnydd y Digwyddiad yn gyfrifol am gael unrhyw ganiatâd ychwanegol sy'n ofynnol gan denantiaid neu Drwyddedeiau'r Cyngor mewn perthynas ag eiddo neu gyfleusterau'r Cyngor y mae'r indemniad hwn yn berthnasol iddynt.

Nid yw Cyngor Caerdydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am golli, difrodi na dwyn unrhyw offer neu effeithiau eraill sy'n gysylltiedig â'ch digwyddiad.

Nid yw Cyngor Caerdydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o gwbl am ganslo, oedi, cau neu golli enillion y digwyddiad, nac unrhyw golledion neu iawndal priodoladwy eraill a achosir gan amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.  Nid yw Cyngor Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ganslo digwyddiad oherwydd tywydd eithafol nac unrhyw Force Majeure. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i chi

gyflwyno Ffurflen Indemniad  wedi ei llofnodi o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn eich digwyddiad, gellir cynnwys hyn gyda Rhan 1 eich cais.

https://bute-park.com/cy/event_guide/indemniad/

L

Mae Lawnt y Berllan yng nghanol Parc Bute.  Mae’r safle gyferbyn â Chanolfan Ymwelwyr Parc Bute. Mae’r safle digwyddiadau yn ardal laswelltog gwastad a amgylchynir gan goed tua’r de a wal frics y blanhigfa tua’r gogledd. Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:

  • Teithiau cerdded / rasys elusennol
  • Partïon preifat neu gorfforaethol
  • Digwyddiadau cymunedol / teuluol gyda seilwaith cyfyngedig
LleoliadGoogle Map
Maint2,775 metr sgwâr
Trwydded safleMae’r safle hwn dan Drwydded Safle Parc Bute
Ffi LlogiFfi Llogi
Cyflenwad pŵer ar y safleYes
1 x 13Amp external plug
Cyflenwad dŵr ar y safleDim
Carthffosiaeth
Dim
ToiledauYes - 2 female, 1 x disabled & baby change and 2 x male toilets are available for general public use inside the Secret Garden Café courtyard and Visitor Centre.

However, if use by your event goers is likely to disrupt and exceed normal levels of public use (up to 60 uses per toilet per day), then additional toilets must be provided.

The toilets are not on mains drainage, instead all waste water is treated on-site in an underground treatment tank, and therefore it is critical these usage levels are not exceeded.
Llinellau ffôn/ISDNNone
Cysylltiad DataData Connection Public Wi-Fi is available at the Visitor Centre and Secret Garden Café.

Ystyriaethau Eraill

Archebu’r Ganolfan Ymwelwyr ei hunEfallai yr hoffech ddefnyddio adeilad y Ganolfan Ymwelwyr ei hun ynghlwm â'ch digwyddiad.

Mae'r Ganolfan Ymwelwyr ar gael i'w llogi'n uniongyrchol gan dîm Parc Bute.

Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas

Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad. 

Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i’r lleoliad rydych yn ei ffafrio.  Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn effeithio’n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia. 

Mae gan wefan Croeso Caerdydd gyfleuster chwilio y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored sydd wedi’u trefnu ar ddyddiad penodol.

Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu sŵn neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i’r lleoliad cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd a’r preswylfeydd newydd ar Heol y Gadeirlan.

Mynediad i’r safle

Mynedfa i GerddwyrY mynedfeydd parc agosaf i’r safle hwn yw o:
• Bont y Mileniwm (o Erddi Sophia)
• Pont y Pysgotwr (o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru)
• Pont fynediad i gerbydau (o Heol Corbett), er bod yn rhaid i gerddwyr fod yn ymwybodol bod y fynedfa olaf hon yn fynedfa i gerbydau cludo/mynedfa wasanaeth felly mae'n rhaid ei defnyddio gyda gofal ychwanegol.
Cyfyngiadau Cerbyd/Llwyth • Mae mynediad cerbydau i'r safle dros y bont gerbydau oddi ar Heol y Gogledd, sydd gyferbyn â Heol Corbett. Mae uchafswm pwysau o 40 tunnell ar y bont gerbydau.
• Mae’r bont gerbydau yn culhau i un lôn gan ei bod yn croesi Camlas Gyflenwi’r Dociau felly rhaid rheoli traffig sy'n dod i mewn a gadael yn ofalus, gan ddefnyddio mannau pasio ar hyd y ffordd wasanaeth prif ddigwyddiadau tua'r de.
• Mae bolard awtomatig ar waith ar y bont gerbydau i atal cerbydau rhag mynd i Barc Bute heb awdurdod. Felly, efallai y bydd angen i chi ofyn am gael benthyg set o 'gardiau sweipio' er mwyn gallu rheoli traffig yn ymwneud â'ch digwyddiad. Gellir cynnwys y cais hwn ar eich ffurflen gais. Gweler yr arweiniad ar ddefnyddio'r system rheoli bolardiau yn ddiogel.
• Mae llwybr unffordd i gerbydau a reolir yn llym o bont fynediad cerbydau Parc Bute i Lawnt y Berllan.
• Ar ôl cyrraedd Caffi'r Ardd Gudd, rhaid i gerbydau gadw at y llwybrau arwyneb caled.
• Rhaid i'r holl ddadlwytho i ardaloedd glaswelltog gael ei wneud â llaw er mwyn peidio â difrodi'r tir.
• Dim ond cerbydau ysgafn sy'n llai na 3.5 tunnell mewn pwysau (lori bach/fan fach/car) a gaiff yrru ar y llwybr sy'n rhedeg ar hyd blaen wal yr ardd. Nid yw wedi ei adeiladu i fod yn addas i gerbydau trymach.
• Ni chaniateir cerbydau ar yr ardal balmantog o amgylch y meinciau picnic i atal cracio'r slabiau palmant.
• Ar ôl eu dadlwytho, rhaid i gerbydau symud yn ôl yn ofalus ar hyd llwybr Lawnt y Berllan a gyrru allan yr un ffordd ag y daethant i mewn. Nid oes llwybr drwodd yn ôl tuag at y bont gerbydau ar hyd blaen wal yr ardd.
Nearest Event
Organiser and Visitor
Parking
Bute Park operates a strict “essential operational vehicles only” policy. Once vehicles have served their purpose they are to be removed from site or parked only in designated areas.

Non-essential operational vehicles are not permitted to enter the park at any time and no general parking is permitted on site.

There are up to 3 vehicle spaces in a layby along the path behind the Nursery compound. These can be made available for use by event organisers by arrangement.

A small reinforced grass area adjacent to the cycle stands outside the garden wall is available strictly for disabled use only (blue badges must be displayed).

Exhibitor and further staff parking should be directed to adjacent pay and display car parks at Sophia Gardens (west of Bute Park) or along North Road (east of Bute Park).

Advice for risk assessment and CDM planning

  • There is an automatic bollard control system at the Bute Park Vehicle Access Bridge. A guidance note is available on its safe operation.
  • There is a 5 mph vehicle speed limit within the park.
  • Vehicles cannot make a right hand turn into or out of the park at the vehicle bridge.
  • A designated cycle route crosses the vehicle access bridge at the entrance to the park – this impacts on vehicle right-of-way when entering and exiting the park. Event organisers should consider the benefit of additional traffic management staff to support vehicles entering and exiting the park across the designated cycle route.
  • The park can be busy. It is used by pedestrians, cyclists and other operational vehicles. These may share paths and roads with my event audience and vehicles.
  • Some cyclists are known to exceed the speed limit and can be a hazard to event traffic.
  • In wet weather the ground can get very soft and water may stand on the surface of roads and grass.
  • The park is locked at night (approx. 30 minutes before sunset) though people are known to choose to get locked in or come in after locking via unofficial routes.
  • There is the potential for crime and anti-social behaviour as may be expected in any city-centre park.
  • The park is unlit and very dark after sunset.
  • The wider park outside the event site is patrolled by a ranger service within daylight hours. They wear a red uniform and are based out of the Visitor Centre Building located in the centre of the park. The rangers work to a rota system but there are times when there are no rangers on duty.
  • If you need to contact a ranger, the call should go via the Park Manager in the first instance.
  • Crimes, emergencies or incidents witnessed in the wider park by event staff should be called directly to 999, 101 (non-emergency police number) or the Park Management office 02920 873720 depending on their nature.
  • You must notify and seek permission from the Park Management office to break any ground.
  • There are welfare facilities at the Secret Garden Café and Visitor Centre. As outlined above the number of uses per day is limited. Check opening
    hours in advance.
https://bute-park.com/cy/event_guide/orchard-lawn/

In 2020 the Welsh Government sought views on proposals to ban or restrict nine single-use plastic products that are commonly found littered.

With a total of 3,581 responses the overwhelming majority of responses were in favour of banning the suggested single-use plastic products. A summary of responses can be found on Reducing single use plastic in Wales | GOV.WALES.

Following this consultation, the Environmental Protection (Single-use Plastic Products) (Wales) Bill will be introduced at Senedd Cymru.

The draft of the Bill is available and shows the proposed scope and direction of the Bill before its formal introduction in the autumn. Find out more on The Draft Environmental Protection (Single-use Plastic Products) (Wales) Bill | GOV.WALES.

Work continues on the preparation of the Bill and there are likely to be changes before it is introduced to the Senedd. This page will be updated as the Bill passes through the legislative process in the Senedd.

Further details are available on:

Yn 2020 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn am farn ar gynigion i wahardd neu gyfyngu naw cynnyrch plastig untro sy'n cael eu canfod yn y sbwriel yn gyffredin.

Gyda chyfanswm o 3,581 o ymatebion roedd mwyafrif llethol yr ymatebion o blaid gwahardd y cynhyrchion plastig untro a awgrymir. Gellir gweld crynodeb o'r ymatebion ar Lleihau plastigau untro yng Nghymru | LLYW. CYMRU.

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn cael ei gyflwyno yn Senedd Cymru.

Mae drafft y Bil ar gael ac mae'n dangos cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil cyn ei gyflwyno'n ffurfiol yn yr hydref. Mwy o wybodaeth ar Fil Drafft Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) | LLYW. CYMRU.

Mae'r gwaith yn parhau ar baratoi'r Bil ac mae'n debyg y bydd newidiadau cyn ei gyflwyno i'r Senedd. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i'r Bil basio drwy'r broses ddeddfwriaethol yn y Senedd.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar 

https://bute-park.com/cy/event_guide/reducing-single-use-plastic-in-wales/

M

Rydym yn gofyn i chi gyflwyno map llwybr ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau cerdded neu redeg.  Dylid llunio'r cynllun hwn i raddfa a dangos llwybrau digwyddiad cyflawn.

Cynllunydd llwybr hawdd: https://www.mapometer.com/

Efallai y bydd angen i chi ddarparu mapiau ychwanegol i ddangos cynllun stiwardio neu safleoedd marsialiaid.

Rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Reolwr Digwyddiadau'r Parciau i ddefnyddio llwybrau y tu allan i Barc Bute, mewn ymgynghoriad â chydweithwyr e.e. Caeau Pontcanna neu Daith Taf.

Efallai y bydd angen caniatâd arnoch gan dimau eraill y cyngor ar gyfer llwybrau ledled y ddinas.

O ran y ffyrdd eraill ar eich llwybr rhaid i chi gysylltu â Traffig a Thrafnidiaeth er mwyn trefnu mynediad, efallai y codir tâl am y gwasanaeth hwn. Os bydd llwybr eich ras yn syrthio y tu allan i’r parc ar Rodfa’r Gorllewin yna mae’n rhaid i chi gael caniatâd yr adran Briffyrdd.

Dylech gynnwys drafft gyda'ch Cais Rhan 1. Sylwch na chaniateir newid eich cynllun safle heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol.

https://bute-park.com/cy/event_guide/map-ffordd/

Gall Tîm Parc Bute eich helpu i farchnata eich digwyddiadau ym Mharc Bute neu yng Ngerddi Sophia mewn nifer o ffyrdd.

Rydym yn hapus i rannu eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol - tagiwch ni er mwyn i ni gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gweler Baneri
Gweler Rhestr Gwefan

https://bute-park.com/cy/event_guide/marchnata/

Mae gan Barc Bute tua 25 o fatiau trac a 2 rolyn o rwyll atgyfnerthu glaswellt.

  • Mae matiau trac yn 2.44m x 1.22m (8 troedfedd x 4 troedfedd)
  • Caiff y matiau a'r rholiau eu storio yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute mewn ardal gaeedig ddiogel.
  • Mae'r matiau a'r rholiau yn ddigon ysgafn i ddau berson eu ‘cludo â llaw' i mewn i lori neu wely gwastad a’u cludo i'r safle.
  • Mae'r matiau ar gael i'w llogi gan Drefnwyr Digwyddiadau am £10 y mat, yr wythnos + TAW [Pris cost dros £80 + TAW]
  • Gall Goruchwyliwr eich Safle eich helpu i gasglu a dosbarthu os oes angen.

Os ydych yn dymuno llogi'r matiau trafodwch mewn da bryd gyda Swyddog Digwyddiadau Parc Bute. Cânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Gweler Gofalu am Dir ym Mharciau Caerdydd
Gweler Gwarchod y Tir

https://bute-park.com/cy/event_guide/track-mats/

Mae'n hanfodol bod digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Castell Caerdydd yn cysylltu â Pharc Bute cyn gynted â phosibl i ofyn am fynediad drwy'r parc.  Mae perfformiadau digwyddiadau a gynhelir yng Nghastell Caerdydd yn denu costau ychwanegol os oes angen defnyddio Parc Bute arnynt, h.y. ar gyfer llwybrau gwasanaeth digwyddiadau, llwybrau mynediad i gynulleidfaoedd a/neu  ardaloedd cynhyrchu cefn tŷ.

  • Llwybrau gwasanaeth digwyddiadau
  • Llwybrau mynediad i’r gynulleidfa i giât ogleddol y castell
  • Ardaloedd cynhyrchu cefn tŷ
  • Pwyntiau allanfeydd brys
LleoliadGoogle Map
Trwydded SafleMae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Parc Bute
Cyflenwad pŵer ar y safleDim – datgomisiyniwyd yn 2017
Ffi LlogiFfi Llogi
Cyflenwad dŵr ar y safle
Oes - Yn amodol ar bolisi defnydd teg
6 x lleoliad
Carthffosiaeth
Dim
Tanc septig (3,500 galwyn) - datgomisiyniwyd yn 2022
ToiledauDim
Mae’r cyfleusterau parc agosaf yn Ystafelloedd Te Pettigrew a Chaffi'r Ardd Gudd – nid ydynt yn addas i'w defnyddio gan y rhai sy'n mynd i'r digwyddiad.
Llinellau ffôn/ISDNDim – datgysylltwyd yn 2019
Cysylltiad DataMae'n bosibl dod â data i Gae Cooper drwy bwynt cysylltu ym mastiwn gogledd-orllewinol Castell Caerdydd. Gall hyn fod drwy wifren galed i'r cae neu drwy ei drosglwyddo fel signal Wi-Fi.

Ystyriaethau Eraill

LlifogyddMae Cae Cooper yn orlifdir ac er bod afon Taf wedi'i diogelu'n dda gan gynllun amddiffyn rhag llifogydd y 1980au, mae Camlas Gyflenwi’r Dociau ar lefel uwch na Chae Cooper ac mewn tywydd garw iawn gallai orlifo i’r cae. Mae hyn yn llawer mwy tebygol yn ystod misoedd y gaeaf, sy'n rheswm arall pam nad yw digwyddiadau fel arfer ond yn cael eu cynnal o fis Ebrill i fis Medi. Gallai hyn fod yn anodd ei ragweld neu ei atal a gallai arwain at golledion sylweddol oherwydd "Force Majeure" i Drefnwyr Digwyddiadau.
CloddioMae rhai rhannau o Gae Cooper yn sensitif yn archeolegol ac yn cynnwys gwreiddiau coed felly ni chaniateir unrhyw gloddio. Rhaid i unrhyw waith cloddio fod gyda chaniatâd penodol Rheolwr y Digwyddiad ac efallai y bydd angen briff gwylio archeolegol o dan amodau Cadw.

Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas

Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad.

Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i'r lleoliad rydych yn ei ffafrio. Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn effeithio'n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia.

Mae gan wefan Croeso Caerdydd gyfleuster chwilio y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i'r holl ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored sydd wedi'u trefnu ar ddyddiad penodol.

Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu sŵn neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i leoliadau cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd newydd a'r preswylfeydd ar Heol y Gadeirlan.

National Express yng Ngerddi Sophia
Ystafelloedd Te Pettigrew
Stadiwm Principality
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC)
Gerddi Sophia Caerdydd, Stadiwm Criced
Chwaraeon Cymru

Mynediad at y safle

Mynedfa i GerddwyrY mynedfeydd agosaf i’r safle hwn o’r parc yw o:
- Bont y Pysgotwr (o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, o’r dwyrain)
- Porth Gogleddol y Castell (o Heol y Gogledd, y Ganolfan Ddinesig, o’r de-ddwyrain)
- Porth y Gorllewin (o Stryd y Castell, o’r de)
- ont y Mileniwm (o Erddi Sophia, o’r gorllewin)
Cyfyngiadau Cerbyd/LlwythMae mynediad cerbydau i'r safle dros y bont gerbydau oddi ar Heol y Gogledd, sydd gyferbyn â Corbett Rd. Mae uchafswm pwysau 40 tunnell ar y bont gerbydau.

Mae’r bont gerbydau yn culhau i un lôn gan ei bod yn croesi Camlas Gyflenwi’r Dociau felly rhaid rheoli traffig sy'n dod i mewn a gadael yn ofalus, gan ddefnyddio mannau pasio ar hyd y ffordd wasanaeth ar gyfer prif ddigwyddiadau tua'r de.

Mae bolard awtomatig ar waith ar y bont gerbydau i atal cerbydau rhag mynd i Barc Bute heb awdurdod. Felly, efallai y bydd angen i chi ofyn am gael benthyg set o 'gardiau sweipio' er mwyn gallu rheoli traffig yn ymwneud â'ch digwyddiad. Gellir cynnwys y cais hwn ar eich ffurflen gais. Gweler yr arweiniad ar ddefnyddio'r system rheoli bolardiau yn ddiogel.

Bydd stiwardiaid/arolygwyr cerbydau mawr yn hanfodol i reoli eich traffig yn ddiogel. Dylai'r rhain fod mewn cysylltiad radio â'i gilydd a dilyn gweithdrefnau llym i ddiogelu adeiladwaith y parc a defnyddwyr eraill y parc.

Mae dau fan troi glaswellt siâp morthwyl ar Gae Cooper - un yn y pen gogleddol ac un yn y pen deheuol yn ogystal â dwy gilfan laswellt gyferbyn â nhw. Mae'r rhain yn darparu 'safleoedd caled' lle gellir troi cerbydau digwyddiadau a'u dadlwytho. Dylid cynllunio a chydgysylltu gweithrediadau i sicrhau mai dim ond hyn a hyn o draffig digwyddiadau sy’n troi ar y safle. Gall peidio â gwneud hyn niweidio'r glaswellt yn ddiangen a'ch gadael yn atebol i dalu costau adfer.

Rhaid defnyddio alwminiwm amddiffynnol neu drac plastig i roi mynediad i'r glaswellt i gerbydau sydd â llwyth sy'n fwy na phum tunnell.

Dylid defnyddio deunydd gwarchod tir (matiau trac, rhwystrau i gerddwyr neu fariau haearn/tâp perygl) mewn ardaloedd sy'n agored i niwed er mwyn atal difrod a achosir gan gerbydau digwyddiadau sy’n mynd ar hyd y llwybrau. Gweler y cynllun safle i gael canllaw.

Mae rhai ardaloedd 'dim mynediad' yn gyfagos â’r safle digwyddiad a rhaid diogelu'r rhain yn gorfforol rhag difrod posibl yn sgil eich digwyddiad, cyfeiriwch at gynllun y safle am arweiniad [coed campus, canopïau coed yn gyffredinol, y Gored Ddu ac ati]

Mae gan Barc Bute stoc o arwyddion 'modd digwyddiad' er mwyn helpu i reoli traffig digwyddiadau pan fo'r niferoedd yn sylweddol.

Cyngor ar gyfer asesu risg a chynllunio CDM

Mae system rheoli bolardiau awtomatig ger Pont Fynediad i Gerbydau Parc Bute. Mae nodyn cyfarwyddyd ar ei ddefnyddio’n ddiogel ar gael.

Mae cyfyngiad cyflymder 5 mya ar gyfer cerbydau yn y parc

Ni all cerbydau droi i'r dde i mewn nac allan o'r parc wrth y bont cerbydau

Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r bont fynediad i gerbydau ger mynedfa'r parc – mae hyn yn effeithio ar hawl dramwy cerbydau wrth fynd i mewn i'r parc a'i adael. Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried sicrhau staff rheoli traffig ychwanegol i gynorthwyo cerbydau sy'n dod i mewn ac yn gadael y parc ar draws y llwybr beicio dynodedig

Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi'r parc rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phont Droed y Mileniwm, sy'n croesi'r prif fynediad i gerbydau i Gae Cooper.

Gall y parc fod yn brysur. Fe'i defnyddir gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau gweithredol eraill. Gallent fod yn rhannu llwybrau a ffyrdd gyda chynulleidfa a cherbydau'r digwyddiad.

Mae rhai beicwyr yn mynd yn gyflymach na’r terfyn cyflymder a gallant fod yn berygl i draffig digwyddiadau.

Mewn tywydd gwlyb gall y tir fynd yn feddal iawn a gall dŵr sefyll ar wyneb ffyrdd c ar y glaswellt.

Mae'r parc yn cael ei gloi yn y nos (tua 30 munud cyn machlud haul) er y gwyddys fod pobl yn dewis cael eu cloi ynddo neu ddod i mewn ar ôl cloi drwy lwybrau answyddogol.

Gall troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd yno, fel y gellid ei ddisgwyl mewn unrhyw barc yng nghanol dinas.

Nid oes goleuadau yn y parc ac mae’n dywyll iawn ar ôl machlud yr haul.

Mae'r parc ehangach y tu allan i safle'r digwyddiad yn cael ei batrolio gan wasanaeth ceidwaid o fewn oriau golau dydd. Maent yn gwisgo gwisg goch ac wedi'u lleoli yn Adeilad y Ganolfan Addysg yng nghanol y parc. Mae'r ceidwaid yn gweithio i system rota ond mae adegau pan nad oes ceidwaid ar ddyletswydd. Os oes angen i chi gysylltu â cheidwad, dylech gysylltu â Rheolwr y Parc yn y lle cyntaf

Dylai staff digwyddiadau ffonio 999, 101 (rhif heddlu nad ydynt yn rhai brys) yn uniongyrchol neu swyddfa Rheoli'r Parc 02920 873720 am droseddau, argyfyngau neu ddigwyddiadau a welir yn y parc ehangach, yn dibynnu ar eu natur.

Mae safle Cae Cooper wedi'i farcio â chyfres o “Foron" lliw sy'n dangos terfyn allanol y safle a'r ardal gwarchod gwreiddiau (melyn), ceblau BT (coch) a dŵr (glas).

Mae gwasanaethau tanddaearol ar y safle digwyddiadau hwn. Nodir y rhain ar gynllun sylfaen yr ardal ddigwyddiadau, lle bo'n hysbys ond nid yw'r Lleoliad yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb llawn cynlluniau gwasanaeth. Efallai nad yw gwasanaethau wedi’u claddu ar ddyfnderoedd sy'n cydymffurfio â'r safonau presennol. Rhaid i chi roi gwybod i swyddfa Rheolwyr y Parc a gofyn am ganiatâd i dorri unrhyw dir.

Y Prif Gontractwr sydd yn gyfrifol am wneud cais am chwiliadau RASWA (Deddf Ffyrdd a Gwaith Stryd) cyfredol a nodi presenoldeb gwasanaethau (e.e. sganio CAT) os yw'n bwriadu torri tir yn y Lleoliad neu o'i amgylch. Gall y Lleoliad gael gafael ar chwiliadau RASWA ar gais.

Nid oes cyfleusterau lles ar y safle ar gyfer staff digwyddiadau ar hyn o bryd. Mae toiledau sydd wedi'u lleoli yng nghaffis y parc ar gael i staff/cyfranogwyr digwyddiadau at ddefnydd ysgafn yn unig.

https://bute-park.com/cy/event_guide/mynediad-i-castell-caerdydd/

Bydd angen i chi wneud trefniadau ar gyfer mynediad i safle eich digwyddiad.

Digwyddiadau bach

Mae'n ofynnol i Drefnydd y Digwyddiad wneud trefniadau i gasglu (a dychwelyd) allweddi/cardiau sweipio o'r Ganolfan Ymwelwyr  cyn eich digwyddiad:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul 12pm – 3pm
  • Cwrdd â Cheidwad Parc Bute ar y safle (ar ôl cytuno o flaen llaw)

Digwyddiadau mawr

Mae'n ofynnol i Drefnydd y Digwyddiad gwrdd â'r Goruchwyliwr Safle ar y safle awr cyn y gweithgaredd cyntaf a gynlluniwyd ar gyfer cynnal archwiliad safle cyn y digwyddiad ac i gwblhau Cyfarfod Trosglwyddo.  Dylech gynnwys yr apwyntiad hwn yn eich Rhestr Cynhyrchu a Cherbydau.

Dylid trefnu Cyfarfod Dychwelyd hefyd ar eich diwrnod olaf ar y safle yn dilyn y casgliadau terfynol.

https://bute-park.com/cy/event_guide/mynediad/

P

Bydd cynrychiolwyr y Panel Cyswllt Digwyddiadau yn rhoi cyngor arbenigol i Drefnwyr Digwyddiadau a Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau yn ystod y cam cynllunio manwl. Maent yn ymwneud â sicrhau y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac y caiff yr holl ddyletswyddau statudol eu cyflawni.

Mae'r panel yn cyfarfod unwaith y mis i asesu goblygiadau Iechyd a Diogelwch y digwyddiadau a gynlluniwyd yn y ddinas a chynorthwyo trefnwyr digwyddiadau i sicrhau diogelwch pawb sy'n bresennol.  Nid yw'r panel yn gwneud penderfyniadau ar ran yr awdurdod lleol gan mai gwasanaeth cynghori yn unig ydynt.  

Gall panel nodweddiadol gynnwys cynrychiolwyr:

  • Gwasanaeth Ambiwlans                                                    
  • Glanhau
  • Peiriannydd Trydanol                                                     
  • Cynllunio at Argyfwng
  • Iechyd yr Amgylchedd (Hylendid Bwyd)
  • Gwasanaeth Tân                                                                
  • Trwyddedu                                                                     
  • Llygredd Sŵn
  • Rheoli Llygredd                                                        
  • Heddlu De Cymru
  • Peiriannydd Strwythurol (i gael cyngor ar strwythurau dros dro)
  • Safonau Masnach

Bydd cynrychiolydd o’r Adran Parciau yn mynychu ac yn cynghori ar faterion sy'n benodol i safle eich lleoliad dewisol.

Bydd yn ofynnol i Drefnwyr Digwyddiadau gydymffurfio â gofynion cynrychiolwyr Panel Cyswllt Digwyddiadau a chyfeirir at hyn yn eich Llythyr Amodau.

Pa ddigwyddiadau fyddai'n cael eu cyfeirio at y Panel Cyswllt Digwyddiadau?

Bydd angen i Banel Cyswllt Digwyddiadau graffu ar ddigwyddiad yn seiliedig ar y risg y mae'n ei gyflwyno i iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Mae'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  • Maint y digwyddiad
  • Y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad
  • Y gynulleidfa darged
  • Lleoliad ac amser y digwyddiad
  • Hyrwyddwr y digwyddiad (mae’n debygol y bydd yn ofynnol i hyrwyddwyr newydd neu hyrwyddwyr sydd â hanes o gydymffurfiaeth wael fynd gerbron Panel Cyswllt Digwyddiadau)

Cadeirydd y Panel Cyswllt Digwyddiadau fydd yn penderfynu p’un ai a fydd gofyn i ddigwyddiad fynd gerbron Panel Cyswllt Digwyddiadau, neu efallai y gofynnir i chi gyflwyno gwaith papur ar gyfer gwneud asesiad yn y swyddfa.

Cyflwyno dogfennau o flaen llaw – Rhestr Wirio Trefnydd y Digwyddiad

Dylech gyflwyno'r dogfennau canlynol erbyn y dyddiad a bennwyd (tua 3 wythnos cyn eich cyflwyniad):

  • Rhestr Wirio Trefnydd y Digwyddiad wedi ei chwblhau
  • Cynllun safle manwl
  • Disgrifiad amlinellol o'r digwyddiad gyda'r niferoedd y mae disgwyl iddynt fynychu a gwybodaeth ddemograffig ddangosol am eich cynulleidfa.
  • Manylion cyswllt ar gyfer Trefnydd y Digwyddiad a phersonél allweddol eraill drwy gydol y cyfnod adeiladu, clirio a chyfnod y digwyddiad.
  • Asesiad Risg digwyddiad sy'n nodi'r holl beryglon posibl a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i leihau'r risgiau.
  • Asesiad Risg Tân

Sut mae Panel Cyswllt Digwyddiadau’n gweithio?

Gwahoddir Trefnydd y Digwyddiad i gyflwyno ei gynigion ar gyfer y digwyddiad i'r panel.  Cyflwyniad llafar fydd hwn a gellir cynnwys dogfennau a/neu sleidiau. Rôl y Panel Cyswllt Digwyddiadau yw ystyried y goblygiadau i ddiogelwch y cyhoedd ar gyfer unrhyw ddigwyddiad a ddygir ger eu bron ac yna rhoi sylwadau adborth a chyngor ar eu maes arbenigedd penodol.

O ganlyniad i adborth y Panel Cyswllt Digwyddiadau, efallai y bydd gan drefnwyr nifer o gamau i’w gweithredu a bydd gofyn iddynt ddarparu tystiolaeth bod y rhain wedi'u cwblhau.

Efallai y bydd hefyd yn ofynnol i rai cynrychiolwyr y Panel Cyswllt Digwyddiadau ymweld â'r safle cyn i'r digwyddiad agor er mwyn gallu sicrhau bod y realiti ar y tir, yn cyfateb â'r cynlluniau a gyflwynwyd i'r Cyngor, a bod risgiau'n cael eu rheoli'n ddigonol ar y safle.

Sylwch: Codir tâl am rai o wasanaethau’r Panel Cyswllt Digwyddiadau, rhoddir manylion yn eich llythyr Amodau Llogi.

Sylwch fod rheoli risg yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ar Drefnydd y Digwyddiad bob amser, gall Cyngor Caerdydd ddarparu cyngor a chymorth ond nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am risgiau a chanlyniadau o ganlyniad i'ch digwyddiad.

Canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

https://bute-park.com/cy/event_guide/pcd/

Dim ond cerbydau gweithredol sy'n cael mynd i mewn i'r parc. Dylid parcio pob cerbyd personol y tu allan.  

Mae'n bosibl trefnu llogi meysydd parcio cyhoeddus a thalu ac arddangos y Cyngor, yn gyfan neu’n rhannol.

Ar gyfer 20 cerbyd neu lai:

  • Defnyddiwch y meysydd parcio talu ac arddangos ar Heol y Gogledd/Gerddi Sophia
  • Talwch wrth y peiriant neu crëwch gyfrif a thalu drwy MiPermit
  •  Bydd angen rhoi rhif cofrestru pob cerbyd yn MiPermit ond gellir ychwanegu sawl cerbyd o dan un cyfrif a darperir derbynneb.
  • Caiff y gost ddyddiol ei chodi ac ni chaiff lleoedd eu cadw.

Ar gyfer 21 cerbyd a rhagor:

  • Mae ardal (tua'r gogledd o’r bont fynediad i gerbydau) y gellir ei rhannu ac lle mae bolardiau y gellir eu cloi y bydd modd eu rhoi ar waith y byddai'n rhaid i'r llogwr eu rheoli
  • Byddai cost yr ardal hon yn £8.40 x 21 lle + ffi weinyddol o £58. Cyfanswm = £234.40
  • Codir tâl o £8.40 ar unrhyw leoedd ychwanegol mae eu hangen.

Angen isafswm o 5 diwrnod gwaith o rybudd - cysylltwch â'r Tîm Parcio i drefnu anfonebu am yr ardal hon ac i roi gwybod i'r cynorthwywyr parcio am y cais am barcio awdurdodedig.

Cysylltwch â'r Tîm Parcio i drafod defnyddio ardaloedd parcio mwy neu ddefnyddio Prif Ffordd Gerddi Sophia ar gyfer mynediad.

Gweler Rheoli Traffic

https://bute-park.com/cy/event_guide/parcio/

Cofiwch, oherwydd digwyddiad rheolaidd Rhedeg yn y Parc (Park Run - 600-800 o redwyr yr wythnos ar gyfartaledd), ni ellir symud cerbydau o fewn Parc Bute rhwng 09:00 a 09:45 fore Sadwrn.

Cwrs http://www.parkrun.org.uk/cardiff/course/

https://bute-park.com/cy/event_guide/park-run/

Mae Pasbort i'r ddinas yn cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc 3 – 25* oed ymgysylltu â phrofiadau ar draws dinas Caerdydd. (*Anghenion Dysgu Ychwanegol)

Gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a rhaglenni addysgol.

Mae'r tîm yn cynnig rhaglenni pwrpasol mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y ddinas sy'n galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu hyder, hunan-barch ac ymdeimlad o berthyn fel dinesydd o'n prifddinas.

Mae’r rhaglen Pasbort i'r Ddinas yn ysbrydoli ac yn grymuso plant a phobl ifanc i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yng Nghaerdydd a thu hwnt.  Mae'n dathlu eu cyflawniadau ac yn eu hannog i barhau i ffynnu wrth iddynt lunio dyfodol eu dinas.

Mae'r tîm Pasbort i'r Ddinas yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, busnesau a sefydliadau yn y ddinas, i hyrwyddo profiadau a chyfleoedd sydd ar gael ledled y ddinas. Maent yn annog plant i archwilio'r ddinas drwy ddechrau gyda'r lleoliadau ar eu map o’r ddinas, gan gynnwys Parc Bute.

Allwch chi ein helpu ni i gefnogi'r cynllun hwn?

  • Allwch chi gynnig tocynnau i bobl ifanc ddod i'ch digwyddiad?
  • Tocynnau ar gyfer grŵp ysgol?
  • Tocynnau ar gyfer teulu?
  • Tocynnau i nifer o deuluoedd fynychu?

Mae unrhyw beth yn helpu, siaradwch â ni am yr hyn y gallwch ei gynnig.

Mae'r Tîm yn rhannu cynigion partneriaid yn rheolaidd a gallant helpu i roi cyhoeddusrwydd i'ch digwyddiadau i deuluoedd ar y cyfryngau cymdeithasol.

https://bute-park.com/cy/event_guide/pasbort-i-ddinas-caerdydd/

Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau bod unrhyw ddigwyddiad sy'n ymwneud â phlant yn ystyried lles y plant sy'n cymryd rhan yn llawn a'u bod yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Plant 1989

Efallai y byddai'n ddefnyddiol nodi mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd p’un ai yw digwyddiad yn addas ar gyfer plant ai peidio, a yw'n ofynnol iddynt fod yng nghwmni oedolyn, neu os na chaniateir mynediad i blant o dan oedran penodol. 

Gweler Colli Plentyn neu Oedolyn sy’n Agored i Niwed

https://bute-park.com/cy/event_guide/plant/

Gweler Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas yn y canllawiau sy'n benodol i safle.

Gweler Sŵn

https://bute-park.com/cy/event_guide/preswylwyr-cyfagos/
  • Mae gan rai o'n mannau digwyddiadau gyflenwadau pŵer ar y safle (gweler canllawiau sy'n benodol i safle) a gall Trefnydd y Digwyddiad ofyn am ddefnyddio pŵer ar y safle drwy'r ffurflen gais. 
  • Daw digwyddiadau sy’n defnyddio cyflenwadau pŵer o dan ofynion BS7909 Systemau Trydanol Dros Dro ar gyfer Digwyddiadau.
  • Mae'n ofynnol i Drefnydd y Digwyddiad enwebu rhywun i rôl yr Uwch Berson Cyfrifol (UBC) ar gyfer y gosodiad trydanol.
  • Bydd y person enwebedig yn gyfrifol am adolygu gosodiadau, cydymffurfio â safonau a choladu'r holl dystysgrifau gofynnol.
  • Dylai'r person enwebedig gael ei hysbysu'n glir o'i gyfrifoldeb a bod yn gwbl ymwybodol ohono ac yn abl i gyflawni’r dyletswyddau hynny.
  • Bydd angen i chi roi enw a manylion cyswllt symudol eich person enwebedig a chadarnhau eu bod wedi deall ei gyfrifoldebau yn Rhan 2 eich ffurflen gais.
  • Dylid archwilio, profi ac ardystio gosodiadau trydanol yn unol â gofynion BS7671 a BS7909 a chyhoeddi'r tystysgrifau perthnasol. Byddai'r Awdurdod yn disgwyl i’r arolygiad, y profion a'r ardystiad gael eu cynnal gan gontractwr trydanol sydd wedi'i gofrestru ar hyn o bryd gyda NICEIC (Contractwr Cymeradwy) neu'r ECA (Cynllun Aelodau Cofrestredig ar gyfer Gwaith Gosod Trydanol). Bydd enw a rhif cofrestru'r Contractwr yn cael eu hanfon at yr Awdurdod cyn i'r gwaith safle ddechrau. Bydd y tystysgrifau trydan ar gael i'w hadolygu yn ystod unrhyw ymweliad safle a drefnir gan ELP a chyn i'r digwyddiad agor.
  • Efallai y bydd angen gosod goleuadau argyfwng ar gyfer digwyddiadau, gwneir hyn yn unol â gofynion BS5266.
  • Dylai fod gan bob uned arlwyo, uned far, uned/caban cynhyrchu, ac uned doiledau sydd â gosodiadau trydanol sefydlog dystysgrif prawf trydanol gyfredol. Ni ddylid cysylltu unedau heb ardystiad o'r fath â'r system drydanol na’u tynnu o'u defnydd cyn i'r digwyddiad ddechrau. Fel arall, gall y Sefydliad Digwyddiadau drefnu bod adroddiad cyflwr cyfnodol BS7671 addas yn cael ei wneud a bydd y gosodiad yn dderbyniol os caiff ei ystyried yn foddhaol.
  • Bydd pob generadur yn defnyddio tanwydd diesel ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol.
  • Nid yw Cyngor Caerdydd yn caniatáu defnyddio generaduron petrol mewn Digwyddiadau.
  • Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i gau unrhyw eneradur er budd diogelwch y cyhoedd neu os yw'r generadur yn achosi lefelau annerbyniol o sŵn neu lygredd aer.
  • Trefnydd y Digwyddiad sy'n gyfrifol am sicrhau bod y generaduron a’r goleuadau tŵr yn cael eu diogelu gan ffensys math heras neu rwystrau torfol a bod hysbysiadau rhybuddio'n cael eu harddangos am resymau diogelwch.
  • Bydd strwythurau, llwyfannau, sgriniau ac ati’n cael eu clymu yn y ddaear yn ôl y gofyn.
  • Bydd yr holl offer trydanol a gaiff eu defnyddio yn y digwyddiad yn destun trefn arolygu a phrofi (y cyfeirir atynt gynt fel profion PAT) a byddant yn cael eu harchwilio'n gorfforol am ddiffygion cyn eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys yr holl offer a ddygir i'r safle gan unrhyw bartïon allanol. Ceir canllawiau ar gyfer hyn yn y Cod Ymarfer ar gyfer Arolygu a Phrofi Cyfarpar Trydanol mewn Gwasanaethau fel y'i cyhoeddwyd gan yr IET. Argymhellir darparu adnoddau i adolygu offer a ddygir i'r safle cyn gynted â phosibl, a chyn dechrau ei ddefnyddio. Dylai'r holl gyfarpar gael ei adolygu'n weledol gan ddefnyddwyr cyn ei ddefnyddio a lle caiff ei ddifrodi ei dynnu o'r gwasanaeth.
  • Bydd pob cebl yn cael ei lwybro yn y fath fodd fel nad yw’n gallu achosi baglu, a'i ddiogelu rhag difrod effaith drwy ddiogelwch mecanyddol neu leoliad.
  • Ni chaniateir defnyddio canghennau coed i godi na chynnal ceblau.
  • Ni fydd unrhyw geblau trydanol yn cael eu tyrchu i'r ddaear oni bai bod rheolwr y digwyddiad neu oruchwylydd y safle yn rhoi caniatâd o flaen llaw ac os rhoddir caniatâd, dylid marcio llwybr y ceblau hyn ar yr wyneb gyda marciwr chwistrell lliw amlwg.
  • Bydd ceblau a osodir ar hyd yr arwyneb yn cael eu gorchuddio fel nad ydynt yn peri perygl o faglu.
  • Rhaid tynnu’r holl geblau trydanol ar ôl cwblhau'r digwyddiad.
  • Rhaid i’r holl offer fod yn addas at y diben a bod â sgôr IP addas ar gyfer y defnydd a fwriedir?
  • Dylai pob cylched terfynol gael ei diogelu gan rodenni 30m.
  • Mae'r holl osodiadau trydanol a adeiladwyd ar y safle sy'n gofyn am derfynu ceblau i fwrdd dosbarthu neu ategolyn arall, gan gynnwys cysylltu unedau goleuo ac ati, yn dod o fewn gofynion BS7671 a byddant yn cael eu harchwilio, eu profi a'u hardystio yn unol â'r safon hon ac nid BS7909. Mae hyn hefyd yn berthnasol i offer plygio a chwarae sy'n cael ei ddatgymalu a'i ailosod ar y safle yn ystod y broses osod.
  • Bydd gan unrhyw reidiau ffair Dystysgrif ADIPS gyfredol.
  • Os yw'r digwyddiad yn defnyddio unrhyw gyflenwad pŵer sefydlog, bydd Trefnydd y Digwyddiad yn sicrhau bod gan y gosodiad dystysgrif prawf gyfredol a bod unrhyw eitemau C1, C2 ac FI a nodwyd wedi'u cywiro.

Gerddi Sophia

  • Mae'r dystysgrif prawf trydanol gyfredol ar gyfer Gerddi Sophia ar gael yma.
  • Mae Trefnydd y Digwyddiad yn ymrwymo i ad-dalu cost y trydan a ddefnyddia, sydd y tu hwnt i'r maint a gwmpesir gan bolisi "defnydd teg" y Cyngor oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.
  • Mae'r £50 cyntaf o ddefnydd trydan yn gynhwysol o fewn eich ffi llogi, codir tâl os bydd yn uwch na hyn ar y gyfradd briodol a bydd hefyd ffi weinyddol ychwanegol o £25.
  • Bydd angen i ddarlleniadau mesuryddion gael eu cymryd cyn ac ar ôl y digwyddiad gan Oruchwyliwr y Safle. Bydd hyn yn cael ei anfonebu ar ôl eich digwyddiad fel y disgrifir uchod.

Lawnt y Berllan

Gweler Gwybodaeth benodol am y safle

Digwyddiadau llai

  • Dylai digwyddiadau llai roi gwybod am nifer y generaduron ar y safle a'u capasiti cyflenwi enwebedig.
  • Dylai rhestr o offer trydanol (gan gynnwys eu sgoriau pŵer ampiau unigol) fod ar gael i'w harchwilio yn ystod ymweliad safle’r ELP.
  • Rhaid i berson enwebedig sydd â gwybodaeth, profiad a chymwysterau addas oruchwylio unrhyw osodiadau trydanol. Dylai'r person enwebedig gael ei hysbysu'n glir o'i gyfrifoldeb a bod yn gwbl ymwybodol ohono.
  • Trefnydd y Digwyddiad sy'n gyfrifol am sicrhau bod y generaduron a’r yn cael eu diogelu gan ffensys math heras neu rwystrau torfol a bod hysbysiadau rhybuddio'n cael eu harddangos am resymau diogelwch.

Gweler Reidiau Ffair

Gweler Cyfarpar Gwynt

https://bute-park.com/cy/event_guide/pwer/

R

Cymeradwywyd y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle gan y Senedd ar 28 Tachwedd a byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024. Mae hyn yn gam nesaf sylweddol ar daith Cymru fel cenedl ailgylchu sy'n arwain y byd, ac mae'n gam hanfodol i fynd i'r afael â'r  argyfwng hinsawdd a natur, a gwneud cynnydd tuag at economi gryfach, wyrddach yn unol a'r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae cartrefi eisoes yn ei wneud ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Bydd hyn yn lleihau faint o wastraff a anfonwn at losgi a thirlenwi ac yn cynyddu ansawdd a maint y deunyddiau y gellir eu hailgylchu a gasglwn o weithleoedd. Bydd hyn yn ei dro yn dal deunyddiau pwysig i'w rhoi yn ôl i economi Cymru yn ogystal â sicrhau mwy o gysondeb o ran sut rydym yn casglu ac yn rheoli ailgylchu.

Rwyf hefyd wedi gosod a chyhoeddi’r ddogfen Casglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân i’w Hailgylchu: Cod Ymarfer Cymru (‘y Cod’), sy’n nodi canllawiau ymarferol ar sut i gydymffurfio â’r gyfraith newydd

Os hoffech ddarllen y Datganiad Gweinidogol, sy'n cynnwys dolen i'r Cod Ymarfer, gallwch wneud hynny yma: Datganiad Ysgrifenedig: Gwneud y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle a chyhoeddi’r Cod Ymarfer (4 Rhagfyr 2023) | LLYW.CYMRU

Mae gwefan yr ymgyrch yma:

Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRUAilgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU

Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau bod digon o finiau a sgipiau ar gael ar gyfer y digwyddiad.

Rhaid gorchuddio pob cynhwysydd gwastraff, gan gynnwys unrhyw sgipiau os cânt eu gadael heb eu goruchwylio, i atal bywyd gwyllt fel adar a gwiwerod rhag ymosod.

Ni ddylid gadael bagiau sbwriel allan mewn parc i’w casglu y diwrnod wedyn gan y byddant yn cael eu rhwygo ar agor gan fywyd gwyllt dros nos a chaiff y cynnwys ei wasgaru. Byddai Trefnydd y Digwyddiad yn gorfod talu am unrhyw ail-lanhau angenrheidiol mewn sefyllfa o’r fath.

Sicrhewch fod unrhyw arwyddion digwyddiadau dros dro a baneri yn cael eu tynnu i lawr cyn i chi adael safle.

Ewch i  Wefan y Gwasanaeth Gwastraff Masnachol i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau y gall y Cyngor eu cynnig ar gyfer eich digwyddiad.

Arlwyo
Rhaid i bob uned arlwyo symudol ddarparu biniau sbwriel wrth ymyl eu hunedau y mae’n rhaid eu gwagio’n rheolaidd yn ystod digwyddiad.Gweler Arlwyo

Sbwriel
Gweler Sbwriel

Dŵr Gwastraff
Gweler Dŵr Gwastraff

https://bute-park.com/cy/event_guide/rheoli-gwastraff/

Dylai pob digwyddiad sicrhau lefel briodol o ddarpariaeth i Gynllun Rheoli Traffig drwy gydol eich digwyddiad. Yn dibynnu ar raddfa neu gynllun eich digwyddiad, bydd angen lefel benodol o reoli traffig.

Mae'n ofynnol i chi fel un o amodau eich archeb, i lunio Cynllun Rheoli Traffig sy'n benodol i ddigwyddiad a chael aelod penodol o staff sy'n rheoli symudiadau cerbydau drwy bont fynediad y cerbyd bob amser rydych yn ei defnyddio.

Rhaid i chi roi enw llawn a manylion cyswllt symudol y person sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros reoli traffig ar y safle gan y byddant yn berson allweddol i'n Goruchwyliwr Safle gysylltu ag ef.

Noder, gall y Cyngor ddarparu staff rheoli traffig ar gost os oes angen hyn arnoch. Nid yw rheoli traffig yn swyddogaeth a fydd yn cael ei chyflawni gan ein Goruchwylwyr Safle er y byddant yn monitro effeithiolrwydd ac yn adrodd yn ôl arsylwadau.

Bydd torri rheolau rheoli traffig y safle yn arwain at ddirwy o £250 fesul digwyddiad a gofnodwyd yn erbyn eich bond felly rydym yn eich cynghori'n gryf i sicrhau bod pob gyrrwr yn cael ei adnabod yn bersonol a'u bod yn llofnodi rhywbeth i gadarnhau eu bod wedi darllen a deall ein rheolau ymddygiad safle (gweler y ddolen isod).

Rhoddir gwybodaeth sy'n benodol i'r safle a fydd yn eich helpu gyda'ch Cynllun Rheoli Traffig yng  Nghynllun y Cyfnod Adeiladu ar gyfer safle eich digwyddiad.

Cofiwch: Dim ond cerbydau gweithredol sy'n cael mynd i mewn i'r parc. Dylid parcio pob cerbyd personol y tu allan.  

Prif amcanion Cynllun Rheoli Traffig yw:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Diogelu Safle'r Digwyddiad
  • Rheoli cerbydau digwyddiadau ar y safle
  • Cefnogi cerbydau gweithredol y Parc

 Ystyriwch:

Gweler Codau Post Mynediad
Gweler Mynediad i safle eich digwyddiad
Gweler Adrodd am Ddigwyddiadau’n ymwneud â Bolardiau
Gweler Bond
Gweler Gofalu am y tir ym Mharciau Caerdydd
Gweler Gofalu am y coed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Amserlen Cynhyrchiad a Cherbydau

https://bute-park.com/cy/event_guide/rheoli-traffig/

Ein nod yw rhestru'r holl ddigwyddiadau sy'n dod i Barc Bute a Gerddi Sophia yn  nghalendr y wefan.

I'n helpu i greu rhestr gywir, rhowch y manylion canlynol i Swyddog Digwyddiadau Parc Bute:

  • Enw’r Digwyddiad
  • Dyddiad ac amseroedd
  • 100 - 150 gair am eich digwyddiad
  • Logos
  • 2 - 3 delwedd hi-res (gan gynnwys o leiaf 1 yn llorweddol)
  • Cyfeiriad gwefan y sefydliad
  • Dolen i docyn y digwyddiad
  • Gallwn hefyd ymgorffori dolenni Youtube i animeiddio'r rhestrau.

Unwaith y byddwch wedi darparu'r wybodaeth hon gallwn ei chyfieithu a'i lanlwytho i'n gwefan.

Gan fod aelodaeth o Rwydwaith Croeso Caerdydd gan Barc Bute, gallwch ychwanegu eich digwyddiad i’w rhestr ddigwyddiadau nhw. Cyflwynwch y wybodaeth yma

Gweler Marchnata

https://bute-park.com/cy/event_guide/rhestru-gwefannau/

Rhaid i rwystrau a ffensys fod yn addas i'r diben a gallu gwrthsefyll y pwysau cymhwysol boed hynny gan wynt neu dorf.

Lle disgwylir pwysau gan gynulleidfa e.e. o flaen y llwyfan mewn cyngherddau pop, bydd angen rhwystr blaen llwyfan wedi'i adeiladu'n briodol.

Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Gweler Strwythurau Dros Dro

https://bute-park.com/cy/event_guide/rhwystrau-a-ffensys/

S

Os yw'r digwyddiad arfaethedig yn cynnwys siopau neu stondinau yn gwerthu bwyd, diod neu nwyddau, yna gellir ei gyfeirio at Safonau Masnach.   Bydd Iechyd yr Amgylchedd hefyd am gael rhagor o wybodaeth.  

Gall swyddogion Safonau Masnach fynychu'r digwyddiad i gynnal archwiliadau er mwyn sicrhau masnachu teg yn unol â'r ddeddfwriaeth ganlynol:

  1. Deddf Pwysau a Mesurau 1985, sy'n ei gwneud yn drosedd rhoi pwysau neu fesurau llai i gwsmeriaid
  2. Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 a Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982, sy'n ei gwneud yn ofynnol i nwyddau gyfateb i unrhyw ddisgrifiad a roddir, o ansawdd boddhaol ac yn addas at y diben
  3. Deddf Hawlfraint, Dylunio a Phatentau 1988 a Deddf Nodau Masnach 1974 sy'n gosod cosbau llym i'r rhai a gollfarnwyd am werthu nwyddau ffug
  4. Deddf Trwyddedu 2003, sy'n gwahardd gwerthu alcohol i bobl o dan 18 oed
  5.  Deddf Diogelwch Bwyd 1990 sy'n ei gwneud yn ofynnol i fwyd gydymffurfio â labelu a rheoliadau cyfansawdd, ac sy'n gwahardd presenoldeb unrhyw gyrff tramor.
  6.  Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005, sy'n ei gwneud yn ofynnol i nwyddau traul fod yn ddiogel i'w defnyddio gan ddefnyddwyr pan gânt eu gwerthu.
  7. Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006, sy'n ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid amaethyddol fod yn rhydd o glefydau, gyda’u symudiadau wedi’u rheoli, eu lles yn cael ei warchod, gan roi sylw arbennig i ddarparu bwyd a dŵr, digon o le, a lloches. 

Er y bydd masnachwyr unigol yn destun camau gorfodi os ydynt yn gweithredu'n anghyfreithlon, Trefnydd y Digwyddiad sy'n gyfrifol yn gyffredinol am sicrhau bod yr holl weithgareddau yn y digwyddiad yn cael eu cynnal yn unol â'r gyfraith.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach y Cyngor.

Gweler Alcohol
Gweler Anifeiliaid
Gweler Arlwyo
Gweler Panel Cyswllt Digwyddiadau 
Gweler Gweithgaredd Trwyddedadwy

https://bute-park.com/cy/event_guide/safonau-masnach/

Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau bod y safle'n cael ei adael a'r holl sbwriel wedi ei glirio ar ôl cwblhau'r digwyddiad a bydd yn gyfrifol am gasglu unrhyw sbwriel o'r lleoliad a thir cyfagos, y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i'r digwyddiad, e.e. taflenni, poteli plastig, casys tân gwyllt ac ati.

Mae sbwriel penodol yn achosi problemau gweithredol i Wasanaeth y Parciau, er enghraifft caeadau poteli plastig a allant fynd i mewn i’r ddaear dan draed neu waith metel a adawir ar ôl wedi adeiladu ffensys neu ar ôl coelcerth a all niweidio llafnau peiriannau torri lawnt.

Er mwyn atal difrod o'r fath, dylid gwerthu unrhyw ddiodydd mewn poteli plastig heb eu caeadau.

Ni chaniateir poteli na gwydrau gwydr oherwydd y gallant greu sbwriel peryglus.

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o gynllun cadarn ar gyfer casglu sbwriel fel rhan o'ch ffurflen gais fanwl. Os aiff y Cyngor i unrhyw gostau wrth gasglu sbwriel a gynhyrchir gan eich digwyddiad bydd y costau hyn yn cael eu didynnu o'ch bond.

Efallai y byddwch yn ystyried recriwtio gwirfoddolwyr neu gysylltu â sefydliadau lleol i'ch helpu i gasglu sbwriel. Yn y gorffennol mae grwpiau sgowtiaid lleol aC elusen Cadwch Gymru'n Daclus wedi cynorthwyo Trefnwyr Digwyddiadau i gasglu sbwriel. Os hoffech ystyried hyn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â'r sefydliadau'n uniongyrchol.

Dylid paratoi asesiad risg addas a digonol ar gyfer y gweithgaredd hwn a darparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) priodol.

Gweler Rheoli Gwastraff

https://bute-park.com/cy/event_guide/sbwriel/

Mae digwyddiadau'n aml yn cynnwys codi strwythurau dros dro ac mae'r rhain yn cynnwys risg ac mae angen i Drefnydd y Digwyddiad eu rheoli'n briodol.

Rhaid i bob strwythur dros dro gael ei gynllunio, ei weithgynhyrchu, ei godi a'i ddatgymalu'n briodol gan gontractwyr/dylunwyr cymwys sydd ag adnoddau digonol yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y ddogfen ganllaw "Temporary Demountable Structures" 4ydd argraffiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol.

Rhaid i’r person cymwys sy’n gyfrifol am godi pob strwythur gyflwyno tystysgrif diogelwch wedi'i llofnodi (cymeradwyo) cyn y digwyddiad ar ei gyfer, sy’n dweud bod y strwythur/strwythurau wedi'u hadeiladu yn unol â'r dyluniad a'u bod yn ddiogel ac yn addas at y diben.

Dylai fod gan bob digwyddiad gynllun rheoli gwynt sy'n rhestru cyflymder uchaf y gwynt ar gyfer pob strwythur a'r camau i'w cymryd ar 60% ac 80% o uchafswm capasiti'r llwyth gwynt.   Rhaid i'r cynllun gael ei fonitro gan berson cymwys yn erbyn terfynau gweithredu pob un o'r strwythurau dros dro.   Rhaid cymryd camau effeithiol cyn rhagori ar unrhyw derfynau gweithredu.

Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch- enghreifftiau

Strwythurau bychain

Rhaid i strwythurau llai, sy’n cynnwys gazebos, stondinau wedi'u gorchuddio, ambarelau, arwyddion ac ati gael eu diogelu neu eu sadio’n ddigonol. Ni ddylid tanbrisio'r risg a achosir gan y strwythurau bach hyn achos gall y gwynt effeithio'n sylweddol arnynt (gwiriwch y cyflymderau gwynt cyfartalog a ragwelir a’r cyflymderau gwynt a ragwelir ar gyfer diwrnod y digwyddiad).  Rydym yn disgwyl cofnod yn eich asesiad risg sy’n nodi'r risg hwn ac yn manylu ar eich mesurau lliniaru.

Pebyll mawr

Ar gyfer pebyll a phebyll mawr, argymhellir bod y contractwr yn aelod o MUTA neu sefydliad cyfatebol (i gael rhagor o wybodaeth darllenwch y Canllaw Arfer Gorau Defnyddio a Gweithredu Strwythurau Ffabrig Dros Dro Datgymaladwy yn Ddiogel.

Strwythurau Gwynt

Gweler Cyfarpar Gwynt

Ffeiriau a Difyrion

Gweler Reidiau Ffair a Difyrion

Stondinau/Llwyfannau Dros Dro

Mae angen gwneud cais i’r Adran Rheoli Adeiladu ar gyfer Stondinau / Llwyfannau Dros Dro a gaiff eu defnyddio gan 20 neu fwy o bobl, dan Adran 27 Deddf Sir De Morgannwg 1976 (mae manylion ar y wefan rheoli adeiladu).

Rhwystrau / Ffensys

Rhaid i rwystrau fod yn addas at y diben a gallu gwrthsefyll y pwysau cymhwysol boed hynny gan wynt neu bwysau torf.

Lle disgwylir pwysau gan gynulleidfa e.e. o flaen y llwyfan mewn cyngherddau pop, bydd angen rhwystr blaen llwyfan wedi'i adeiladu'n briodol.

Dogfennau

Dylech wneud copïau o'r dogfennau ar gyfer eich strwythurau a dylech eu cyflwyno i’r Panel Cyswllt Digwyddiadau.  Dylech gyflwyno cyfrifiadau dylunio manwl a lluniadau ar gyfer pob strwythur o flaen llaw a dylent hefyd fod ar gael i'w harchwilio ar y safle.

Efallai y bydd angen Cynllun y Cyfnod Adeiladu .

Mae'r rhestr ganlynol yn cynnwys yr wybodaeth y bydd ei hangen ar y peiriannydd strwythurol sy'n rhan o'r Panel Cyswllt Digwyddiadau. Darperir lluniadau a chyfrifiadau dylunio manwl gan gynnwys unrhyw ofynion sadio / ffyn a'r cyflymderau gwynt mwyaf a ganiateir ar gyfer y strwythurau dros dro canlynol:

  • Pebyll mawr – mwy na 25m2
  • Llwyfannau – mwy na 25m2
  • Pob sgrin
  • Rhwystrau – Rhwystrau blaen llwyfan, rhwystrau torf cadarn neu baneli rhwyll gyda sgrim.
  • Nenbontydd a Rigio – Unrhyw strwythur sydd wedi'i gynllunio i gynnal goleuadau, uchelseinyddion neu offer uchel arall.
  • Strwythurau sgaffaldau e.e. llinellau cychwyn/gorffen ras, arwyddion a rampiau byrddau sglefrio
  • Stondinau a Llwyfannau Eistedd Cynulleidfa - Pob Un
  • Tyrau Llwyfan/Goleuadau – Pob Un
  • Unrhyw strwythur arall – ar gais

I gael rhagor o wybodaeth benodol am rwystrau, gweler y Canllaw Diogelwch Digwyddiadau (HSG195) a chyhoeddiad Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Canllawiau Strwythurau Dros Dro Datodadwy ar gaffael, dylunio a defnyddio. (Trydydd Argraffiad) (2007).

Ymweliad Safle

Gall Peiriannydd Strwythurol Cyngor Caerdydd fynychu safle i gynnal arolwg gweledol ar y strwythurau dros dro a ddefnyddir yn eich digwyddiad.  Mae hwn yn wasanaeth y codir tâl amdano.  Mae hyd at £180 +TAW o dâl amser wedi'i gynnwys yn eich ffi llogi.  Rydym yn cadw'r hawl i godi tâl arnoch am gostau yr eir iddynt sy’n uwch na’r swm hwn oherwydd methiant i ddarparu set gyflawn o ddogfennau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda'r swyddog/lleoliad Panel Cyswllt Digwyddiadau perthnasol.  Dylai'r sawl sydd â chyfrifoldeb cyffredinol penodol am strwythurau dros dro fod ar gael ar gyfer y cyfarfod hwn.

Caiff y gofynion penodol gennych chi o ran strwythurau eu cadarnhau unwaith y deellir eich cynigion penodol eich digwyddiad.

Sylwch na chaniateir newid y strwythurau a gynigioch heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol. Cyfrifoldeb Trefnydd y Digwyddiad fydd diogelwch a sicrhau y bodlonir gofynion rheoleiddiol yn y pen draw.

https://bute-park.com/cy/event_guide/strwythurau/

Yn y lle cyntaf, bydd Trefnydd y Digwyddiad yn ymgynghori â Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau ynghylch lleoliad a chyfeiriad pob system annerch cyhoeddus, seinyddion a systemau cerddoriaeth i’w defnyddio yn y digwyddiad ac i sicrhau bod y digwyddiad yn aros o fewn lefelau sŵn derbyniol.

Gofynnir i Drefnydd y Digwyddiad ddarparu pwynt cyswllt ar ddiwrnod y digwyddiad y gellir cyfeirio unrhyw gwynion a ddaw i law ato er mwyn mynd i'r afael â nhw. 

Os aiff lefelau sŵn yn uwch nag a ganiateir a chânt eu hystyried yn niwsans, bydd yn ofynnol i Drefnydd y Digwyddiad leihau'r sŵn i lefelau derbyniol, gan roi sylw arbennig i niwsans sŵn o ganlyniad uniongyrchol i’r osgled bas.

Fel rheol gyffredinol, ni chaiff lefel y sain fod yn uwch na 65 db (A), yn yr eiddo preswyl agosaf at safle'r digwyddiad.

Os yw lefelau sŵn yn parhau i fod yn niwsans ar ôl i Drefnydd y Digwyddiad gael ei rybuddio gan Oruchwyliwr y Safle neu ar ôl iddo dderbyn rhybudd gan  Is-adran Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor, yna bydd ffynhonnell y sŵn yn cael ei chau.

Mewn achosion difrifol o niwsans sŵn, gellir cyflwyno hysbysiad o dan  Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i Drefnydd y Digwyddiad. Gall hyn arwain at ddirwy o hyd at £20,000 yn cael ei rhoi gan lys, yn dilyn erlyniad llwyddiannus.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am ganslo neu gau digwyddiad oherwydd niwsans sŵn annerbyniol.

Dim ond gyda chaniatâd y Cyngor o flaen llaw y ceir cynnal profion sain y system gerddoriaeth neu sain band a rhaid cytuno ar amser unrhyw brofion sain o flaen llaw. Dylid ystyried preswylwyr cyfagos a busnesau ac ymgynghori â nhw wrth drefnu profion sain h.y. gallai arholiadau fod yn mynd rhagddynt yn CBCDC wrth Gae Cooper ym Mharc Bute neu briodas yng Nghastell Caerdydd. 

Gweler Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas yn y canllawiau sy'n benodol i safle.

https://bute-park.com/cy/event_guide/swn/

T

Event Liaison Panel
Alison Jenkins, Secretary
AJenkins@cardiff.gov.uk

Cardiff Council Licensing Dept
Licensing@cardiff.gov.uk
029 2087 1651

Environmental Services Division
Pollution-Cardiff-SRSWales@valeofglamorgan.gov.uk
029 20871650

Film Office
www.cardifffilmoffice.co.uk

Highways
Highways@cardiff.gov.uk

Highways Licensing Enforcement
HighwaysLicensingEnforcement@cardiff.gov.uk

Parking
Matthew.Harrison@cardiff.gov.uk
Gary.Owen@cardiff.gov.uk

Pollution Control
Regulatory & Supporting Services, Cardiff County Council
Mr. Rhodri Morgan, Shared Regulatory Services
RhoMorgan@valeofglamorgan.gov.uk
029 20 871676
07812 215410

Waste Management
Website

Trading Standards
Dan Cook
dan.cook@cardiff.gov.uk
029 2087 1022

https://bute-park.com/cy/event_guide/taflen-gyswllt/

Ni chaniateir i Drefnydd y Digwyddiad hysbysebu digwyddiadau neu leoliadau eraill drwy roi taflenni yn unrhyw barc neu le agored y Cyngor yn ystod eu cyfnod llogi. Os darganfyddir sbwriel taflenni yn ystod y cyfnod llogi bydd Trefnydd y Digwyddiad yn atebol am y gost o'i glirio yn ôl disgresiwn Rheolwr Digwyddiadau'r Parc.

See Banners

See Marketing

See Website Listing

https://bute-park.com/cy/event_guide/taflenni/

Ni chewch gynnau tân o gwbl yn y parc heb gymeradwyaeth Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau ymlaen llaw.

Os cewch ganiatâd, rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau nad oes unrhyw ddifrod yn cael ei achosi i'r ddaear na'r coed a bod ffordd briodol o ddiffodd y tân yn gyfan gwbl ar gael bob amser. 

Bydd yn ofynnol bod Trefnydd y Digwyddiad wedi cynnal asesiad risg tân ar gyfer y digwyddiad yn unol â'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Rhaid cyflwyno  Asesiad Risg Tân addas a digonol i’r  Panel Cyswllt Digwyddiadau nid llai na 4 wythnos cyn y diwrnod cyntaf y bydd y digwyddiad ar agor ar gyfer busnes.

Defnyddio nwy LPG neu sylweddau fflamadwy

Bydd Trefnydd y Digwyddiad yn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau fflamadwy a sylweddau eraill sy'n beryglus i iechyd yn cael eu rheoli yn unol â Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 2002 (COSHH).

Bydd Trefnydd y Digwyddiad yn sicrhau bod storio a defnyddio LPG yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Cymdeithas LPG Rhan 7 – Storio silindrau a chetris LPG llawn a gwag, a Rheoliadau Hylifau Fflamadwy Iawn a LPG 1972.

Bydd pob silindr LPG a chynwysyddion deunydd fflamadwy, llawn a gwag, yn cael eu storio yn yr awyr agored, ar dir cadarn gwastad mewn safle sy’n cael ei awyru'n dda, ac sy’n ddiogel fel na chaiff unrhyw un fynediad ato ac eithrio gweithwyr neu Asiantau medrus a chymwys.

Gellir defnyddio offer sydd wedi'i gynllunio'n benodol i'w ddefnyddio dan do gyda silindrau ar neu yn y cyfarpar, ond byddant yn cydymffurfio â gweithdrefnau gweithredu gweithgynhyrchwyr.

Canllawiau defnyddiol

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer pob cyflogwr, rheolwr, trefnydd digwyddiadau, meddianwr a pherchenog digwyddiadau a lleoliadau awyr agored. Mae'n nodi’r hyn sy'n rhaid i chi ei wneud i gydymffurfio â chyfraith diogelwch tân, eich helpu i gynnal asesiad risg tân a nodi'r rhagofalon tân cyffredinol y mae angen i chi eu rhoi ar waith.


Asesiad Risg Diogelwch Tân – digwyddiadau a lleoliadau awyr agored
Mae’r canllaw hwn wedi’i lunio ar gyfer lleoliadau a digwyddiadau awyr agored, megis cyngherddau a gwyliau cerddoriaeth, digwyddiadau chwaraeon, ffeiriau, gwyliau stryd, gwyliau crefyddol, gwyliau balŵn, ffeiriau sirol, a digwyddiadau tebyg eraill.


Asesiad Risg Diogelwch Tân – lleoliadau ymgynnull bach a chanolig
Mae’r canllaw hwn wedi’i lunio ar gyfer lleoliadau lle mae’r adeilad neu ran o'r adeilad yn cael ei defnyddio’n bennaf fel lleoliad ymgynnull bach (h.y. safle sydd â lle i hyd at 60 o bobl) neu ganolig (h.y. safle sydd â lle i hyd at 300 o bobl). Mae'r rhain yn cynnwys: tafarndai, clybiau, neuaddau dawns/ysgolion dawns, neuaddau pentref, canolfannau cymunedol, eglwysi, mannau addoli neu astudio crefyddol eraill a safleoedd cysylltiedig, strwythurau dros dro a phebyll mawr.

Asesiad Risg Diogelwch Tân – lleoliadau ymgynnull mawr
Mae’r canllaw hwn wedi’i lunio ar gyfer lleoliadau lle mae’r adeilad neu ran o'r adeilad yn cael ei defnyddio’n bennaf fel lleoliad ymgynnull mawr (h.y. safle lle gallai mwy na 300 o bobl ymgynnull). Mae'r rhain yn cynnwys stadia chwaraeon, canolfannau arddangos a chynadleddau, canolfannau hamdden, pyllau nofio, clybiau nos mawr a thafarndai mawr, eglwysi, eglwysi cadeiriol, mannau addoli neu astudio crefyddol eraill ac adeiladau cysylltiedig, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, ardaloedd cyffredin o ganolfannau siopa, strwythurau dros dro mawr, pebyll mawr, strwythurau a gynhelir gan aer, canolfannau cymunedol mawr, neuaddau pentref mawr ac adeiladau tebyg


Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân – Cynllunio Diogelwch Digwyddiadau
Mae'r ddogfen hon wedi'i llunio i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad gwerthfawr a chyson i drefnwyr digwyddiadau newydd neu rai dibrofiad wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau a gwyliau bach i ganolig. Yn yr un modd gellir ei defnyddio fel cymorth cof i'r timau mwy profiadol wrth gynllunio ar gyfer eu digwyddiadau. Er bod pob ymdrech wedi'i wneud i ddarparu canllawiau perthnasol mae'n bosibl y bydd enghreifftiau lle gallai rheoliadau ac amodau awdurdodau lleol ofyn am ystyriaeth a chynllunio ychwanegol.

  • Adran 5 – Diogelwch Tân
  • Atodiad 3 Asesiad Risgiau Tân – Consesiynau Bwyd
  • Atodiad 4 Asesiad Risgiau Tân – Stondinau Masnachwyr a Marchnad
  • Atodiad 5 Asesiad Risgiau Tân – Strwythurau Dros Dro

Gweler Asesiad Risg Tân (FRA)
Gweler Tân gwyllt
Gweler Asesiad Risg
Gweler Effeithiau Cynhyrchu Arbennig a Gweithgarwch Peryglus

https://bute-park.com/cy/event_guide/tan/

Mae Parc Bute a Gerddi Sophia yn cael nifer o geisiadau drwy gydol y flwyddyn ar gyfer digwyddiadau, sydd yn aml yn digwydd ar safleoedd eraill, i ddefnyddio’r tir fel safle lansio ar gyfer tân gwyllt i ategu eu digwyddiadau.

Mae angen gwneud cais a chyflwyno dogfennau cysylltiedig ar gyfer y gweithgaredd hwn drwy'r weithdrefn arferol.

Mae ffioedd llogi yn berthnasol, sylwer mai dangosol yw’r holl brisiau a bydd ffioedd terfynol yn cael eu trafod fesul achos gyda Rheolwr Parc Bute.  Bydd costau Goruchwylydd Safle, os oes angen un, yn ychwanegol at y costau a amlinellir isod.

MAINT A MATH Y DIGWYDDIADTân gwyllt am lai na 10 munudTân gwyllt yn hwy na 10 munud
Cymunedol / Nid er Elw (Dim Ffi Mynediad)Posibl negodi gyda Rheolwr Digwyddiadau'r ParciauPosibl negodi gyda Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau
Nid er Elw gyda Ffi Mynediad/ Codi Arian elusennolPosibl negodi gyda Rheolwr Digwyddiadau'r ParciauPosibl negodi gyda Rheolwr Digwyddiadau'r Parciau
Masnachol£1,250£1,750
Lletygarwch / partïon preifat£1,250£1,750
Bond – codir tâl bob amser oni bai bod risg isel iawn£500£500

Coelcerth

Efallai y rhoddir caniatâd trwy negodi. Rhaid i’r gweithgaredd fod wedi’i gynnwys yn Asesiad Risg y digwyddiad

Gweler Panel Cyswllt Digwyddiadau
Gweler Asesiad Risg Tân 
Gweler Sbwriel
Gweler Asesiad Risg
Gweler Effeithiau Arbennig Cynhyrchiad a Gweithgarwch Peryglus

https://bute-park.com/cy/event_guide/tan-gwyllt/

Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad gael caniatâd Rheolwr Digwyddiadau'r Parc fel rhan o'r broses archebu i ddefnyddio teganau aer. 

  • Dwyn pwysau
  • Ddim yn dwyn pwysau
  • Bwa

Ar gyfer strwythurau gwynt, argymhellir y dylai'r contractwr fod yn aelod o gymdeithas fasnach berthnasol (e.e. AIMODS, NAIH neu BIHA) a bod eu hoffer wedi'i archwilio o dan gynllun arolygu PIPA neu ADIPS.  Rhaid bod gan unrhyw offer gwynt dystysgrif PIPA dilys gyfredol (neu dystysgrif gyfwerth gymeradwy gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) sy’n ddilys ar adeg y digwyddiad ynghyd ag  Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus digonol.

Darllenwch y Canllawiau a chwblhewch y rhestrau gwirio gofynnol ar gyfer offer aer.

Rhaid i strwythurau gwynt gael eu diogelu'n ddigonol neu eu sadio a'u goruchwylio pan fyddant yn cael eu defnyddio.

Cyfrifoldeb gweithredwr y ffair fydd y cyflenwad  Pŵer  i’r reidiau onid yw Trefnydd y Digwyddiad yn cyflogi trydanwr cymwys (Gweler Pŵer).  Ni ddylid cymryd pŵer o unrhyw degan gwynt i gyflenwi stondinau/stondinau/llwyfannau eraill ac ati ar y safle.

Lleoliad a chynllun

Bydd angen cytuno ar ganllawiau ar ddiogelu tir a phellter o goed – nodwch nhw ar eich cynllun safle.

Diogelu tir / gosod ffyn

Sylwch na chaniateir newid eich teganau gwynt heb ganiatâd o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol. Cyfrifoldeb Trefnydd y Digwyddiad fydd diogelwch a sicrhau y bodlonir gofynion rheoleiddiol yn y pen draw.

Gweler Reidiau Ffair
Gweler Yswiriant 
Gweler Pŵer
Gweler Asesiad Risg

https://bute-park.com/cy/event_guide/teganau-aer/

Rhaid i Drefnwyr Digwyddiadau sicrhau eu bod yn darparu digon o doiledau ar gyfer nifer y bobl sy'n mynychu'r digwyddiad, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl anabl a newid babanod.  

Rhaid i chi hefyd sicrhau bod darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer holl staff y digwyddiad drwy eich adeilad yn ogystal â dros nos ar gyfer eich tîm diogelwch.

Dylid cytuno ar union leoliadau a threfniadau gwasanaethu drwy ymgynghori â Rheolwr Digwyddiadau Parc Bute.

Dylid marcio eich lleoliad(au) arfaethedig a nodwch y math(au) o doiledau ar eich cynllun safle.

NI DDYLID gosod toiledau o dan neu ger y  canopi o goed.

Rhaid cloi toiledau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Rhaid rhoi ffensys o amgylch toiledau i’w diogelu os cânt eu gadael ar y safle dros nos (ac nid o fewn safle caeedig y digwyddiad).

Rhaid i gyflenwyr toiledau ddarparu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiad risg ac ati i drefnydd y digwyddiad.

Rhaid cynnwys amseroedd gollwng a chasglu yn eich Amserlen Gynhyrchu a Cherbydau.

Mae gan rai safleoedd fynediad cyfyngedig i doiledau cyhoeddus. Cyfeiriwch at bob safle digwyddiad am wybodaeth.

Gweler Ymateb i Ollyngiadau
Gweler Dŵr Gwastraff

https://bute-park.com/cy/event_guide/toiledau/

Mae system o reolau safle wedi'i sefydlu i helpu i baratoi Cynllun Rheoli Traffig

  • Gosod cyfyngiad cyflymder o 5mya
  • Defnyddio’r goleuadau perygl
  • Ildio i gerddwyr a beicwyr.
  • Cadw at ffyrdd dynodedig – peidio â theithio i ardaloedd glaswelltog/ymylon
  • Peidio â thorri corneli
  • Wrth fagio, dylid sicrhau ei bod yn ddiogel gwneud hynny a gofyn am rywun i dywys.
  • Dim symud cerbydau ar y safle pan fydd ar agor oni bai o dan gyfarwyddyd y goruchwyliwr
  • Dim ond cerbydau gweithredol sy'n cael mynd i mewn i'r parc. Dylid parcio pob cerbyd personol y tu allan
  • Dim parcio cyhoeddus ar y safle

Mae'n bwysig bod Marsialiaid Traffig yn deall eu rolau ac yn cael briff ar ddefnyddio'r system mynediad gyda bolardiau (safleoedd Parc Bute).

Rôl y Marsial Traffig yw cynnal system Rheoli Traffig ddiogel ac effeithiol sy'n gyfrifol am bob cerbyd p'un ai yw'r gyrrwr yn aelod o staff y digwyddiad neu'n gontractwr.

Nodiadau

  • Trefnwyr Digwyddiadau sy'n gyfrifol am eu digwyddiad iechyd a diogelwch a diogelwch defnyddwyr eraill y parc
  • Rhaid i Farsialiaid Traffig wisgo dillad llachar a gosod eu hunain mewn safle sy'n weladwy i yrwyr
  • Rhaid sefydlu cysylltiadau cyfathrebu radio rhwng yr holl staff sy'n gweithio yn y tîm rheoli traffig
  • Rhaid i staff aros wrth ochr y ffordd hyd nes y bydd cerbydau wedi stopio
  • Dylai traffig heb awdurdod fynd i mewn a gadael drwy lwybrau dynodedig/cymeradwy yn unig.
  • Amserlenni manwl i'w casglu gan Reolwr y Safle yn manylu ar y cerbydau disgwyliedig sy'n dod i mewn i’r safle neu sy'n gadael.

https://bute-park.com/cy/event_guide/traffig-digwyddiadau-cod-ymddygiad/

Mae'r tywydd yn ffactor sy'n berthnasol i ddigwyddiadau a gynhelir mewn parciau a mannau agored.

Mae monitro'r tywydd yn allweddol i unrhyw ddigwyddiad awyr agored gan y gall amodau’r tywydd effeithio ar lwyddiant y digwyddiad, a hefyd fod yn beryglus a rhoi mynychwyr mewn perygl posib.  Gall effeithio ar ffigurau presenoldeb, sefydlogrwydd eich strwythurau, amodau'r ddaear, yn ogystal ag iechyd a diogelwch eich staff a'ch gwesteion.

Dylai Trefnwyr Digwyddiadau ei gwneud yn gyfrifoldeb arnynt i wirio rhagolygon y tywydd yn aml ar gyfer lleoliad eu digwyddiad yn y cyfnod yn arwain lan at y digwyddiad (wrth greu strwythurau’r digwyddiad ac ar ddiwrnod(au) y digwyddiad) a gwneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer tywydd garw ac amodau eithafol. 

Ffactorau tywydd eithafol y dylech eu hystyried wrth gynllunio:

  • Tymheredd Uchaf
  • Tymheredd Isaf
  • Cyflymder y Gwynt (gwynt amgylchynol a chyflymder uchaf hyrddiadau gwynt a ragwelir)
  • Glaw

Monitro'r tywydd yw'r amddiffyniad gorau rhag tywydd garw gan ei fod yn eich galluogi i weithredu cyn i'r amodau gydio ac felly osgoi sefyllfaoedd peryglus. Gellir defnyddio safleoedd y Swyddfa Dywydd a Thywydd y BBC i fonitro rhagolygon tywydd hirdymor a thymor byr.

Byddem yn disgwyl gweld cynlluniau wrth gefn ar gyfer y tywydd yn cael eu cynnwys yn eich asesiad risg a'ch cynlluniau gweithredol.  Nodwch y canlynol yn benodol:

  • Enw(au) y bobl yn eich tîm digwyddiadau sydd â chyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau’n gysylltiedig â’r tywydd bob dydd y byddwch ar y safle yn ein lleoliad.
  • Pryd byddan nhw’n gwneud penderfyniadau ac ar sail pa ddata? E.e. Oes gennych adeg penderfynu “Bwrw ymlaen/Peidio â bwrw ymlaen” yn ystod pob diwrnod y digwyddiad? Pa ffactorau sy’n effeithio ar ganlyniad y penderfyniad?
  • Pa gamau gweithredu sydd yn eich Cynllun Rheoli Diogelwch Digwyddiad ar gyfer tywydd eithafol o fathau gwahanol?

Cyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad yw cynllun rhag tywydd gwlyb ac mae Rheolwr Digwyddiadau'r Parc yn cadw’r hawl i gau'r cyfan neu ran o'r safle os nad oes cynllun effeithiol yn achos tywydd gwlyb ar waith pan fo angen. Bydd Rheolwr y Parc yn gwneud penderfyniad ar sail y peryglon i ddiogelwch y cyhoedd a’r peryglon ariannol i'r Cyngor a fyddai’n deillio o ddifrod tebygol i'r lleoliad.

Gweler Bond  
Gweler Gofalu am Dir ym Mharciau Caerdydd
Gweler Gofalu am Goed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Cynlluniau Argyfwng
Gweler Diogelu'r Tir
Gweler Matiau Trac

https://bute-park.com/cy/event_guide/tywydd/

W

Gellir trefnu Cysylltiad Data ar gyfer digwyddiadau ar Gae Cooper; mae cysylltiad ar gael o Gastell Caerdydd.

Mae angen o leiaf 1 mis o rybudd, gyda'r manylion terfynol i gyd wedi'u cadarnhau 10 diwrnod gwaith cyn y diwrnod cyntaf y mae angen y cysylltiad data.

Rhaid i drefnydd y digwyddiad drefnu unrhyw offer sydd ei angen i gwblhau'r cysylltiad.

Mae gofyn i drefnydd y digwyddiad dalu am gost y cysylltiad - £150 fyddai cost arferol cais syml am ddefnyddio'r cysylltiad presennol yn y Castell; Bydd unrhyw amrywiadau o hyn yn destun dyfynbris.

https://bute-park.com/cy/event_guide/wifi/

Y

Cyn eich digwyddiad dylech ddatblygu gweithdrefnau i staff a gwirfoddolwyr eu dilyn rhag ofn y bydd  mater yn codi sy'n gysylltiedig â'r parc.  Yn eich dogfennau manwl, cofnodwch pwy fydd yn darparu eich Pecyn Arllwysiadau ar y safle a phwy yw'r person sy'n gyfrifol am ddefnyddio hyn os oes angen.

Dylid adrodd am ddigwyddiadau wrth Staff Parc Bute cyn gynted â phosibl fel y gellir dwysáu'r sefyllfa os oes angen.

Gall arllwysiadau fel olew, diesel a thoiledau cemegol achosi difrod difrifol.  Dylai eich cyflenwyr allu rhoi datganiad dull i chi i roi sicrwydd ynghylch y gweithdrefnau y maent yn eu hargymell ar gyfer defnyddio, storio a thrin cywir ac ati er mwyn atal arllwysiadau tanwydd, cemegau neu garthffrwd.  

Ystyrir arllwysiadau fel digwyddiad llygredd boed hynny ar arwynebau caled (ffyrdd neu drac) neu feddal (glaswellt).  Gall arllwysiadau deithio ar draws arwynebau caled a’u cyrydu cyn cyrraedd arwynebau meddal.  Gall arllwysiadau dreiddio yn ddwfn drwy arwynebau meddal ac mae angen cloddio i gael gwared ar y problemau. 

Er mwyn osgoi llygru'r parth gwreiddiau, ni chaiff unrhyw gemegau na thanwydd ac ati eu pentyrru na'u storio o dan orchudd unrhyw goeden.. Rhaid defnyddio hambyrddau diferu o dan eneraduron. 

Llenwch adroddiad ar achos, mae'n hanfodol bod y wybodaeth ganlynol yn cael ei chofnodi:

  • Dyddiad ac amser adrodd
  • Digwyddiad ac amser y mater (os yw'n wahanol)
  • Enw'r person sy'n cofnodi’r mater:
  • Rhif ffôn symudol ac e-bost y sawl sy’n cofnodi'r mater
  • Rhowch wybod beth yw math yr arllwysiad ac amcangyfrif o faint sydd.
  • Tynnwch luniau sy'n dangos maint y difrod
  • Rhowch fanylion cyswllt unrhyw lygad-dystion

Os oes arllwysiad ac angen gwasanaethau brys ymateb i arllwysiad arnoch yn y parc, mae Emergency Spill Clean Up (gptenvironmental.co.uk) / 01656 741 799 wedi bod o gymorth gwych i ni yn y gorffennol.

Gweler Adroddiad Digwyddiad Bolardiau
Gweler Gofalu am Goed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Cysylltu â'r Parc
Gweler Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiadau
Gweler Cynlluniau mewn Argyfwng

https://bute-park.com/cy/event_guide/spill-response/

Efallai y bydd angen i swyddogion Cyngor Caerdydd ddod i’r safle i gynnal arolygiadau:

Cytunir ar ddyddiad ac amser y cyfarfod o flaen llaw os oes angen.

Dylai'r sawl sydd â chyfrifoldeb cyffredinol penodol am bob elfen yn y digwyddiad sy’n cael ei arolygu fod ar gael ar gyfer y cyfarfod hwn.

Rydym yn cadw'r hawl i godi tâl arnoch am gostau yr eir iddynt os na gyflwynwch set gyflawn o ddogfennau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda swyddog perthnasol y Panel Cyswllt Digwyddiadau 

Cardiff Council officers may need to attend site to undertake inspections:

Meeting date and time will be agreed in advance if required.

The person who has specific overall responsibility for each element of the event being inspected should be available for this meeting.

We reserve the right to charge you for costs incurred due to failure to provide a complete set of documentation within the timescale agreed with the relevant ELP officer. 


https://bute-park.com/cy/event_guide/ymweliad-safle/

Atebolrwydd Cyhoeddus

Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn rhagofyniad hanfodol ar gyfer POB digwyddiad. 

Ni chaniateir i'ch digwyddiad gael ei gynnal oni bai bod tystiolaeth ddogfennol o hyn wedi'i darparu a'i chadarnhau gan Gyngor Caerdydd. Yr isafswm yswiriant sy'n ofynnol gan Gyngor Caerdydd yw £5,000,000.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw'r hawl i ganslo digwyddiad, waeth pa mor bell mae wedi cyrraedd yn y broses archebu, os na ddarperir yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol. 

Mae'r Trefnydd Digwyddiadau yn gyfrifol am goladu copïau o'r Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n ddilys ar gyfer dyddiadau'r digwyddiad o'r is - gontractwyr a chyflenwyr.  Dylai fod gan unrhyw Berfformwyr a gontractir gan Drefnydd y Digwyddiad fel rhan o ddigwyddiad hefyd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar wahân.  Dylai hwn fod ar gael i'w archwilio ar y safle / yn ystod yr ymweliad Panel Cyswllt Digwyddiadau. 

Atebolrwydd Cyflogwr

Os ydych yn cyflogi unrhyw un mewn perthynas â'r digwyddiad, rhaid bod gennych chi Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr. Yr isafswm yswiriant sy'n ofynnol gan Gyngor Caerdydd yw £5,000,000.   Dylai hwn fod ar gael i'w archwilio ar y safle / yn ystod yr ymweliad Panel Cyswllt Digwyddiadau.

https://bute-park.com/cy/event_guide/insurance/