Gofalu am dir ym Mharciau Caerdydd

Cyhoeddwyd 7th Chw, 2020

Mae Parc Bute yn dirwedd hanesyddol restredig Gradd 1 ac yn arboretwm o bwys cenedlaethol, helpwch ni i’w ddiogelu. Rydym wedi darparu’r canllawiau canlynol i’ch helpu i wneud hyn.

Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i ddirwyo Trefnwyr Digwyddiadau am unrhyw ddifrod a achosir i’r ddaear o ganlyniad i’w digwyddiad. Gall y dirwyon hyn fod yn sylweddol ac ni ellir eu negodi, dylech eu hosgoi drwy ddilyn y canllawiau hyn.

Yn dibynnu ar y tywydd, amodau’r ddaear yn ogystal â’r seilwaith, maint y traffig a maint neu gynllun eich digwyddiad, fe fydd yn peri lefel benodol o risg i’r tir y’i cynhelir arno.

Bydd Cyngor Caerdydd yn codi tâl ar Drefnwyr Digwyddiadau am y gost o atgyweirio difrod i ‘adeiladwaith’ y parc, e.e. tyweirch neu ail-hau ardaloedd glaswelltog, dad-gywasgu pridd, ailraddio rhychau teiars ac ati. Bydd y costau’n cael eu cymryd o Fond y digwyddiad.

Fodd bynnag, oherwydd y tywydd neu adeg y flwyddyn, efallai na fydd modd gwneud y gwaith adfer ar unwaith a gall effaith eich digwyddiad adael ôl hyll am wythnosau neu fisoedd. Nid yw defnyddwyr parciau rheolaidd na staff y parciau yn gwerthfawrogi hyn felly pan ddaw’n fater o ddifrod, mae atal yn llawer gwell nag adfer.

  1. Un o brif achosion difrod digwyddiadau yw teiars cerbydau sy’n gyrru dros dir meddal ac yn achosi rhychu hyll. Am y rheswm hwn  rhaid i gerbydau aros ar arwynebau caled lle bynnag y bo modd.  Dylid gosod teiars glaswellt ar gerbydau fforch a cherbydau safle eraill.
  • Os yw’n rhaid bod cerbydau yn gyrru oddi ar ffyrdd / llwybrau efallai y bydd angen diogelu’r ddaear. Gwnewch yn siŵr bod eich cyllideb yn caniatáu ar gyfer diogelu tir lle bo angen er mwyn atal difrod. Mae stoc o fatiau trac ym Marc Bute y gall Trefnwyr Digwyddiadau sy’n defnyddio lleoliadau Parc Bute, Castell Caerdydd neu Erddi Sophia eu llogi am brisiau cystadleuol. Gweler Llawlyfr Digwyddiadau’r Parciau am fanylion neu trafodwch gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau.
  • Gall gyrwyr fod yn anodd eu rheoli mewn sefyllfaoedd fel digwyddiadau ac weithiau byddant yn crwydro oddi ar y llwybrau gyda bwriad da – e.e. ildio i gerddwr, cyrraedd terfyn amser digwyddiad ac ati. Fodd bynnag disgwylir i Drefnwyr Digwyddiadau gymryd camau rhagweithiol i reoli traffig eu digwyddiad ac ymddygiad y gyrwyr er mwyn peidio â difrodi’r parc. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio stiwardiaid, cynllunio ac amserlennu da, briffio da i yrwyr a staff a, lle bo angen, deunydd gwarchod corfforol e.e. ffensys, rhwystrau neu dapiau ar hyd ymylon bregus.
  • Cyfeiriwch at ganllawiau safle’r lleoliad ar gyfer gofynion lleol yn eich lleoliad a defnyddio gwybodaeth a phrofiad Goruchwylydd y Safle a staff Digwyddiadau’r Cyngor i gynllunio’n llwyddiannus er mwyn atal difrod.
  • Gall peidio â chymryd camau rhesymol i atal difrod rhag digwydd achosi niwed i’ch enw da chi a’r Cyngor, a allai eich atal rhag cynnal digwyddiadau ym mharciau Caerdydd yn y dyfodol.

Gweler Gofalu am Goed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Cynlluniau ArgyfwngGweler Diogelu’r Ddaear
Gweler Matiau Trac
Gweler Tywydd

Canllawiau ar bob digwyddiad