Trefnu Digwyddiad
Mae Parc Biwt yn trefnu pob math o ddigwyddiadau - popeth o ddigwyddiadau bach gan grwpiau cymunedol, rasys hwyl a theithiau cerdded wedi’u noddi, i ddigwyddiadau mawr fel Diwrnod y Lluoedd Arfog ac arddangosfeydd Tân Gwyllt.
Mae yna safleoedd o wahanol faint ar gael i’w logi, pob un yn addas ar gyfer digwyddiadau o bob lliw a llun,
Er mwyn helpu’r trefnwyr i ddewis y lleoliad mwyaf addas ac i ddeall y gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau ym mharciau a mannau agored Caerdydd, rydym wedi llunio Llawlyfr ar gyfer Trefnwyr Digwyddiadau.
- Yng nghanol y ddinas
- Parcdiroedd prydferth
- Hygyrch dros ben
- Yn addas ar gyfer digwyddiadau mawr a bach
Gwybodaeth am bob man penodol yn y parc
Cae Cooper
Mae Cae Cooper yn rhan ddeheuol Parc Bute. Mae’r safle glaswelltog mawr agored hwn yn boblogaidd iawn ar gyfer digwyddiadau a gwyliau. Mae dau bwynt troi hammerhead grasscrete a sawl pwynt dŵr untro ar gyfer digwyddiadau ar gael yng Nghae Cooper i wasanaethu digwyddiadau. Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:
- Cyngherddau a gwyliau dydd
- Teithiau cerdded / rasys / reidiau beic elusennol
- Partïon preifat neu gorfforaethol
- Digwyddiadau cymunedol gyda seilwaith cymedrol
Mae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Parc Bute.
Dogfennaeth y safle
Gwybodaeth am safle Cae Cooper Cyfyngiadau Digwyddiadau Cae Cooper Cynllun y Cam Adeiladu
Lawnt y Berllan
Mae Lawnt y Berllan yng nghanol Parc Bute. Mae’r safle gyferbyn â Chanolfan Ymwelwyr Parc Bute. Mae’r safle digwyddiadau yn ardal laswelltog gwastad a amgylchynir gan goed tua’r de a wal frics y blanhigfa tua’r gogledd. Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:
- Teithiau cerdded / rasys elusennol
- Partïon preifat neu gorfforaethol
- Digwyddiadau cymunedol / teuluol gyda seilwaith cyfyngedig
Mae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Parc Bute.
Dogfennaeth y safle
Gwybodaeth am Lawnt y Berllan Mynediad at Lawnt y Berllan a'r Ganolfan Ymwelwyr
Lawnt y Berllan
Mae Lawnt y Berllan yng nghanol Parc Bute. Mae’r safle gyferbyn â Chanolfan Ymwelwyr Parc Bute. Mae’r safle digwyddiadau yn ardal laswelltog gwastad a amgylchynir gan goed tua’r de a wal frics y blanhigfa tua’r gogledd. Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:
- Teithiau cerdded / rasys elusennol
- Partïon preifat neu gorfforaethol
- Digwyddiadau cymunedol / teuluol gyda seilwaith cyfyngedig
Mae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Parc Bute.
Dogfennaeth y safle
Gwybodaeth am Lawnt y Berllan Mynediad at Lawnt y Berllan a'r Ganolfan Ymwelwyr
Gerddi Sophia
Mae Gerddi Sophia yn barcdir rhestredig gradd II ar gofrestr parciau a gerddi hanesyddol Cadw. Mae’r parcdir i’r de o faes parcio talu ac arddangos Gerddi Sophia gyda mynediad i gerbydau drwy Glos Sophia, oddi ar Cathedral Rd. Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:
- Teithiau cerdded / rasys /reidiau beic elusennol
- Partïon preifat neu gorfforaethol
- Digwyddiadau cymunedol gyda seilwaith cyfyngedig /cymedrol
- Digwyddiadau theatr awyr agored
- Maes parcio gorlif mewn cysylltiad â digwyddiadau ym Mharc Bute neu Gastell Caerdydd
Mae’r safle yn dod dan Drwydded Safle Gerddi Sophia.
Dogfennaeth y safle
Gwybodaeth am Ardal Digwyddiadau Gerddi Sophia Amodau Trwydded Safle Gerddi Sophia Adroddiad Prawf Trydan Gerddi Sophia Rhan 2 Adroddiad Prawf Trydanol Gerddi Sophia Templed Cynllun Cam Adeiladu Gerddi Sophia Sleidiau Sefydlu Safle Gerddi Sophia
Caeau Chwaraeon y Gored Ddu

- Digwyddiadau tân gwyllt
- Digwyddiadau cymunedol gyda seilwaith cymedrol
- Twrnamaint chwaraeon
Dogfennaeth y safle
Gwybodaeth am Caeau Chwaraeon y Gored DduMynediad i’r castell

- Llwybrau i wasanaethu’r digwyddiad
- Llwybrau mynediad i’r gynulleidfa drwy Borth y Gogledd
- Ardaloedd cynhyrchu gefn llwyfan
- Allanfeydd brys
Dogfennaeth y safle
Gwybodaeth am mynediad i’r castellFfurflen Gais Digwyddiadau
Os bwriedir cynnal eich digwyddiad chi ym Mharc Biwt, llenwch a dychwelyd eich cais i parcbiwt@caerdydd.gov.uk
Os bwriedir i’ch digwyddiad gael ei gynnal mewn parc arall neu fan agored yng Nghaerdydd anfonwch eich ffurflen gais i parksandsportsevents@caerdydd.gov.uk