Ffilmio a ffotograffiaeth

O ddramâu teledu a rhaglenni dogfen natur mawr i ffilmiau myfyrwyr a sesiynau tynnu lluniau, mae Parc Bute yn cynnig cefndir prydferth ac amlbwrpas.  Os hoffech chi ffilmio ym Mharc Bute, mae angen i chi wneud cais am drwydded ffilmio. Bydd angen i chi hefyd gwblhau cais i ffilmio ym Mharc Bute..

Codir tâl am y drwydded a ffi leoliad am ddefnyddio Parc Bute.  Bydd angen i chi gael cadarnhad gan Swyddfa Ffilm Caerdydd a Thîm Parc Bute cyn i chi ddechrau ffilmio.

Dronau

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithredu polisi llym o ran defnyddio dronau uwchben tir cyhoeddus. Ni roddir trwydded ffilmio ond i weithredwyr sy’n meddu ar drwydded Awdurdod Hedfan Sifil gyfredol, ar yr amod bod ganddynt hefyd y ddogfennaeth ategol berthnasol h.y. yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiad risg a map o’r llwybr hedfan.

Dylid anfon unrhyw geisiadau i hedfan drôn ar dir y Cyngor (Parc Bute) i www.cardifffilmoffice.co.uk. Bydd angen i Swyddfa Ffilm Caerdydd weld eich dogfennau megis trwydded peilot, RAMS, dogfennaeth yswiriant ac opsiynau esgyn a glanio ar fap Google.

Lluniau priodasau

Mae’r parc yn lleoliad cynyddol boblogaidd ar gyfer lluniau priodasau oherwydd ei fod yn cynnig cefndir mor ddeniadol ac unigryw – gallwn ni drefnu cynnwys eich car priodas hefyd.

Cysylltwch â ni a gallwn ni helpu i roi sglein ar eich diwrnod mawr!

Rhannwch eich lluniau!

Mae Parc Bute yn lleoliad delfrydol ar gyfer ffotograffiaeth amatur. Rydym yn dwlu ar weld a rhannu eich ffotograffau ar gyfryngau cymdeithasol – cofiwch ein tagio yn eich pyst! @buteparkcardiff #ButePark #LoveButePark #WildBute Os hoffech chi ddefnyddio’r parc fel lleoliad at ddiben mwy proffesiynol, cysylltwch â ni i drafod hyn oherwydd gallai fod angen prawf yswiriant arnom a gallai fod angen codi ffi leoliad.