Caffi’r Tŷ Haf

Mae Caffi’r Tŷ Haf yn cynnig detholiad eang o ddiodydd a byrbrydau o ffynonellau lleol. Mae’r ardal eistedd awyr agored yn rhoi golygfeydd dros y border blodau. Mae’r caffi’n boblogaidd gyda theuluoedd sydd â phlant gan ei fod yn agos i’r llwybr cydbwyso coetir.

Mae gan y caffi bowlenni dŵr i gŵn a thritiau gydol y flwyddyn yn ogystal â hufen iâ i gŵn yn yr haf fel na fydd eich cyfaill pedwar coes ar ei golled. 

Ar agor bob dydd 8am i 5pm (9am i 5pm ddydd Sul)

Facebook Insta

Does dim toiledau i’r cyhoedd yn y caffi. Mae toiledau i’r anabl ar y safle i ddeiliaid allweddi RADAR yn unig.

Mae’r toiledau cyhoeddus agosaf yn Ystafelloedd Te Pettigrew a Chaffi’r Ardd Gudd.  

Hanes y Tŷ Haf

Cafodd Caffi’r Tŷ Haf ei ysbrydoli gan ddyluniad y tŷ haf gwreiddiol a oedd yn sefyll yn nhiroedd y teulu Bute ac yna’n cael ei symud i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.