Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd

Mae sawl llwybr, gweithgaredd a nodwedd chwarae ledled Parc Bute i chi eu mwynhau. Bydd llawer yn eich helpu i ddysgu mwy am y parc a’r hyn sy’n byw ynddo.

CERFLUNIAU

Mae cerfluniau i’w darganfod ar hyd a lled y parc. Fe’u crëwyd gan artistiaid amrywiol ac mae gan lawer ohonynt stori i’w hadrodd. Gosodwyd y cerflun hwn yn 2019 i ddathlu 70 mlynedd ers
agor Parc Bute.

CWRS CYDBWYSO’R COED

Ynghudd yn y coed y tu ôl i Gaffi’r Tŷ Haf, mae offer chwarae awyr agored yn creu cwrs cydbwyso hwyl a heriol.

LLWYBR TARO
Drwy ardal a elwir yn “Goed yr Hen Ŵr” gallwch abrofi gyda seiniau gydag ystod o offerynnau taro.

PYST CHWYDDWYDR
Edrychwch yn fanylach ar fyd natur gyda’n pyst chwyddwydr. Dewch i astudio dail, hadau neu blu y dewch o hyd iddynt gerllaw.

TAITH GWEITHGAREDDAU NATUR
Mae’r llwybr byr hwn o amgylch y Ganolfan Ymwelwyr yn ddelfrydol ar gyfer plant 4 – 8 oed ac yn newid gyda’r tymhorau. Profwch eich hunain gyda chwestiynau’r cwis a mwynhewch y
gweithgareddau sy’n seiliedig ar natur.

GWEITHGAREDDAU ANIFEILIAID
Drwy gydol y Cwrs Cydbwyso’r Coed rydym yn eich gwahodd i gymryd ysbrydoliaeth o natur a “neidio fel sboncyn y gwair” neu “suo fel gwenynen” wrth i chi symud rhwng yr offer

TAITH ANTUR BYWYD GWYLLT
Gwyllt i ddysgu am y bywyd gwyllt sy’n byw yn y parc. Casglwch y llyfryn gweithgareddau o’r Ganolfan Ymwelwyr, caffis y parc neu ei lawrlwytho o wefan Awyr Agored Caerdydd

LLWYBR STORI “SWYN Y WRACH”
Dechreuwch ger Ystafelloedd Te Pettigrew a defnyddiwch y codau QR i ddarganfod stori hudolus dros 5 stop. Ysgrifennwyd y stori yn arbennig ar gyfer Parc Bute mewn cydweithrediad â Caerdydd sy’n Dda i Blant.