Cyfarwyddiadau

Lleolir Parc Bute yng nghanol y Ddinas, sy’n daith gerdded fyr o’r brif strydoedd mawr a’r ganolfan ddinesig. Gallwch gael mynediad i’r parc y tu hwnt i Gastell Caerdydd.

Mae’r parc ar agor bob dydd o 7.30am tan 30 munud cyn y machlud.

Cyfeiriad

Canolfan Ymwelwyr Parc Bute 35 Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3DX.

Sylwch mai canllaw yn unig yw hwn gan fod y parc yn ardal fawr.

Sut i gyrraedd y parc

Mae Parc Bute yn hygyrch iawn ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae sawl safle bws ar hyd Stryd y Castell i’r de ac ar hyd Heol y Gogledd tua’r dwyrain. Ewch ar wefan Bws Caerdydd i gael gwybodaeth ar y llwybr ac amseroedd.

Mynediad

Mae ein lleoliad yng nghanol y ddinas a natur ein safle yn golygu mai dim ond cerbydau gweithredol gaiff fynediad iddo. Fodd bynnag, mae llawer o gyfleusterau parcio cyhoeddus ar gael yn agos i’r safle.

Mae cyfleusterau parcio talu ac arddangos ar gael yn agos yng Ngerddi Soffia (CF11 9LJ), Stablau’r Castell (CF10 3ER) a Heol y Gogledd (CF10 3EA).

Ewch i Caerdydd.gov i gael rhagor o fanylion am barcio ger Parc Bute.

I gael cymorth i deithio rhwng y maes parcio a Pharc Bute, mae Bygi Symudedd Caerdydd yn wasanaeth am ddim sydd ar gael i godi a gollwng pobl rhwng dau leoliad yng nghanol y ddinas.

Mynediad i Barc Bute i Gymudwyr

Mae’r llwybr mynediad i gymudwyr drwy Barc Bute rhwng mynediad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (Pont Fisher) a Phont y Mileniwm (Gerddi Sophia) ar agor 24 awr.

Bydd bob mynedfa arall yn cau hanner awr cyn y machlud, felly gweler yr arwyddion ar y safle i weld yr amseroedd cau wythnosol.

Sylwch nad yw’r llwybr hwn wedi’i goleuo gyda’r nos. Mae defnyddwyr yn gwneud hynny ar eu risg eu hunain.