Gwirfoddoli
Fel gwirfoddolwr, byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig at Barc Bute.
Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd fel y gallwch gymryd rhan ym mhob math o broject.
Oes diddordeb gennych? Cysylltwch â’n Swyddog Addysg ar 029 2078 8403 neu e-bostiwch parcbute@caerdydd.gov.uk
Cyfleoedd:

Sesiynau trafod misol
Galwch heibio ar ail ddydd Sadwrn y mis i ymuno â Gwarcheidwad Parc Bute wrth iddo gynnal ystod o dasgau cadwraeth yn y parc.
Ymhlith y tasgau mae:
- Clirio llwybrau,
- Plannu gwrychoedd,
- Cynnal wyneb y rhisgl o dan y llwybr chwarae,
- Trimio llwyni a changhennau sydd wedi gordyfu.
Does dim angen cadw lle, dewch draw! Cwrdd y tu allan i Gaffi’r Ardd Gudd am 10.30am.
Gwisgwch esgidiau call a dewch â menig os oes gennych rai. Cyflenwir yr holl declynnau ac offer.
Gwirfoddolwyr Blaen y Tŷ yn y Ganolfan Ymwelwyr
Mae gan Wirfoddolwyr Blaen y Tŷ rôl amrywiol, gan gynnwys y tasgau canlynol:
- Cwrdd ag unigolion a grwpiau.
- Rhoi cyngor a gwybodaeth i ymwelwyr am y Parc.
- Helpu i hysbysebu digwyddiadau.
- Cynorthwyo â thasgau i gefnogi’r gwaith o redeg y ganolfan bob dydd.
Mae sgiliau’r iaith Gymraeg yn ddymunol.

Gwirfoddolwyr Digwyddiadau Addysg
Mae Gwirfoddolwyr Digwyddiadau Addysg yn cynorthwyo'r Swyddog Addysg gydag ymweliadau addysg a digwyddiadau i deuluoedd yn y Ganolfan Ymwelwyr ac yn y parc. Mae gweithgareddau’n cynnwys helfeydd bwystfilod bach, cyfeiriannu a dysgu awyr agored. Fel gwirfoddolwr byddwch yn:
- Helpu i baratoi gweithgareddau,
- Helpu plant a rhieni/gofalwyr yn ystod digwyddiadau,
- Tynnu lluniau ac
- Annog ymwelwyr i lenwi ffurflenni gwerthuso.
Mae sgiliau’r iaith Gymraeg yn ddymunol.

Gwirfoddolwyr y Blanhigfa
Bydd gan wirfoddolwyr ym Mhlanhigfa Parc Bute ddiddordeb mewn garddwriaeth. Maent yn helpu gyda phlannu a pharatoi gwrychoedd. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo staff y blanhigfa gyda:
- Cadw’r siop yn lân ac ail-stocio’r siop
- Creu arddangosfeydd dros dro a basgedi crog i’w gwerthu.
- Cyflawni gwaith cynnal a chadw gan gynnwys potio, rhoi dŵr ac ati.

Grwpiau Corfforaethol a thargedau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Cysylltwch â ni os ydych yn chwilio am gyfleoedd i’ch cwmni. Rydym yn aml yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o Barclay Card a Thŷ’r Cwmnïau a phobl eraill.
Gallwn helpu chi i drefnu cyfleoedd i gyrraedd eich targedau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol gan gynnwys:
- Clirio isdyfiant,
- Casglu sbwriel, a
- Phlannu coed.

Codi sbwriel a grwpiau gwirfoddoli eraill
Os ydych yn bwriadu codi sbwriel neu ymweld â’r parc fel grŵp neu sefydliad, cysylltwch â thîm Parc Bute ymlaen llaw.
Mae angen i ni wybod pryd byddwch chi’n dod i’r parc er mwyn sicrhau nad yw’ch gwirfoddoli’n tarfu ar unrhyw ddigwyddiadau eraill yn y parc.
Bydd angen i ni sicrhau bod gan y grŵp asesiadau risg perthnasol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau codi sbwriel o amgylch Caerdydd ewch ar wefan Cadwch Gaerdydd yn Daclus.