Llogi Ystafell Canolfan Ymwelwyr

Saif Canolfan Ymwelwyr Parc Bute yng nghanol y parc ac mae modd ei chyrraedd yn hawdd o ganol y ddinas.

Ein nod yw i'r ganolfan fod yn ganolbwynt gwybodaeth, dysgu a hamdden sy'n seiliedig ar barciau. Drwy archebu'r Ganolfan Ymwelwyr ar gyfer eich digwyddiad cymunedol neu gyfarfod busnes rydych yn cefnogi cynnal a chadw a rheoli parhaus y parc hardd hwn.

Yn y Ganolfan Ymwelwyr rydym yn cynnig prif ystafell ddosbarth sy'n gallu cynnal hyd at 50 o bobl yn eistedd ac ystafell lai a all gynnal hyd at 10 o bobl yn eistedd. Gall yr adeilad gynnal hyd at 50 o westeion ar yr un pryd.

Mae’r ystafell gyfarfod fach wedi'i chysylltu â'r brif ystafell ddosbarth gan gegin fach. Gellir llogi'r ystafell farch i ddarparu man ymneilltuo, neu i ddarparu lluniaeth. Gellir ei logi ar wahân hefyd yn amodol ar argaeledd.

 Wyddech chi?..

Mae’r adeilad wedi ennill Lefel 4 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd a ddyfernir i sefydliadau sy’n dangos rheolaeth amgylcheddol effeithiol. Mae lefelau inswleiddio uchel yr adeilad, ynghyd â’i do glaswellt, ei friciau wedi’u hadfer, ei baneli solar a’r cyfleuster trin carthion ar y safle, yn ei wneud yn gynaliadwy.

Yr hyn sydd ar gael yn ein hystafelloedd

  • WiFi am ddim
  • Bysellfwrdd cyfryngau Microsoft All-in-One
  • Sgrin UHD 75” gydag opsiynau rhannu sgrin (Ystafell Ddosbarth)
  • Sgrin UHD 55” gydag opsiynau rhannu sgrin (Ystafell Gyfarfod Fach)
  • System cynadledda fideo sy'n caniatáu cyfarfodydd hybrid
  • Doc MultiPort, ceblau HDMI ac USB i ganiatáu i westeion "plygio a chwarae" eu caledwedd eu hunain i mewn i'n system
  • Siart droi papur, pad a beiros
  • Bwrdd gwyn mawr gydag ysgrifbinnau bwrdd gwyn
  • Sinc Belffast (Ystafell Ddosbarth)
  • Cadeiriau plygu a thri math o opsiwn ar gyfer byrddau
Os hoffai eich grŵp wneud defnydd o'r parc yn ystod eich ymweliad siaradwch â ni am gadw eich eiddo personol yn ddiogel.

Os oes angen arlwyo arnoch chi, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â sawl busnes lleol sy'n gyfarwydd â'n lleoliad.
Archebu busnes neu breifat
Ar gyfer cyfarfodydd busnes, diwrnodau i ffwrdd a chynadleddau bach ar gyfer hyd at 50 o bobl.

Gyda natur o’n cwmpas, mae’n fan gwych ar gyfer ysgogi trafodaeth a chreadigrwydd mewn amgylchedd ymlaciol.

Mae gennym gyfleusterau cynadledda fideo sy'n eich galluogi i gynnal cyfarfodydd hybrid naill ai yn y brif ystafell ddosbarth neu’r ystafell gyfarfod lai.
Archebion cymunedol
Ar gyfer dosbarthiadau, sgyrsiau, cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau.

Mae gennym gyfleusterau cyflwyno modern a gofod i 50 o bobl eistedd ar ffurf darlith. Lleoliad delfrydol ar gyfer sgyrsiau, dosbarthiadau neu weithdai.

Rydym wedi croesawu trefnwyr sy'n darparu dosbarthiadau ar hanes lleol, ysgrifennu creadigol, cadw gwenyn a garddio.
  • Beautiful parkland setting
  • Easily accessible
  • Flexible layout
  • Free WiFi
  • Multi-media presentation facilities