Ymweliadau hunan-dywys

Rydym yn cydnabod y bydd gan rai ysgolion a grwpiau’r sgiliau, yr wybodaeth a’r offer angenrheidiol i gynnal eu gweithgareddau eu hunain y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae croeso i chi ddod â’ch ysgol neu eich grŵp i Barc Bute i arwain eich gweithgareddau eich hunain ar eich menter eich hun.

Os hoffech chi arwain ymweliad â’r parc eich hunain, rhowch wybod i ni am eich ymweliad.

Mae’n bwysig i ni wybod pwy sy ar y safle’r diwrnod hwnnw, lle maen nhw’n debygol o fod a sawl plentyn y bydd ganddynt. Rydym yn argymell i chi ymweld â’r parc i gynllunio eich gweithgareddau cyn dod â’ch grŵp.

Byddwch yn ymwybodol y bydd arweinydd yr ysgol neu’r grŵp yn gyfrifol am gynnal yr asesiadau risg priodol ar gyfer yr ymweliad a bydd angen iddo ddarparu ei gymorth cyntaf ei hun.

Hefyd bydd gan Swyddog Addysg Parc Bute flaenoriaeth dros ddefnydd cyfleusterau’r parc ac ni all gynnal asesiadau risg i ysgolion nad ydynt yn defnyddio ein gwasanaeth.

Bywyd Gwyllt

Rydym yn annog ymwelwyr i fwynhau creaduriaid a phlanhigion y parc ond peidiwch â chyffwrdd, niweidio neu darfu ar y bywyd gwyllt.

Toiledau

Mae toiledau cyhoeddus ar gael yn Ystafelloedd Te Pettigrew, Caffi’r Ardd Gudd a’r Ganolfan Addysg. Yn aml caiff y Ganolfan Addysg ei ddefnyddio ar gyfer cynadleddau gan logwyr allanol; cofiwch hyn wrth ddod â grwpiau o blant i ddefnyddio’r cyfleusterau.

Sbwriel

Sicrhewch eich bod yn mynd â phob adnodd a sbwriel gyda chi wrth adael y parc. Gellir rhoi sbwriel yn y biniau a ddarperir.