Sesiynau addysg

Mae Parc Bute yn le ffantastig i ymweld ag ef a dysgu ynddo.  Mae’r parc yn cynnig canolbwynt deniadol ar gyfer cyfoeth o weithgareddau dysgu cyffrous ac atyniadol.  Pan fo’r plant mewn cysylltiad agos â’r amgylchedd naturiol, maent yn cael eu hannog i ymddiddori yn y byd o’u hamgylch.  Gall Parc Bute gefnogi eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth gynyddol o ran planhigion ac anifeiliaid, a sut a pham mae’r rhain mor hanfodol i’n bodolaeth.

Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd addysgol mae Parc Bute yn eu darparu ac rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael profiad pleserus a gwerth chweil ar un o'n hymweliadau.

Rydym yn cynnig ystod o sesiynau addysg i ysgolion Cynradd ac Uwchradd gyda Swyddog Addysg a Thîm Addysgu Parc Bute. Gallwn hefyd ddylunio sesiynau addysg unigryw sy’n trafod testun penodol neu’n diwallu anghenion eich grwp.

Mae sesiynau addysg ar gael am unai hanner diwrnod (£100 am hyd at 30 disgybl) neu ddiwrnod llawn (£150 am hyd at 30 disgybl).

Cofiwch fod ein sesiynau dysgu/gweithdai’n cael eu cynnal y tu allan, felly byddwch yn barod am bob math o dywydd ac i fod allan yn yr awyr agored yn mwynhau Parc Bute yn ystod eich ymweliad.

Sesiynau addysg i Ysgolion Cynradd ac Uwchradd

Celf ym Mharc Bute

Bydd y disgyblion yn archwilio Parc Bute yn chwilio am syniadau ac ysbrydoliaeth i greu eu gwaith celf amgylcheddol eu hunain gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a gasglwyd.   Byddant yn cael cyfleoedd i adnabod ac archwilio lliw, gweadau, siapiau a phatrymau ym myd natur drwy gyfres o weithgareddau gan gynnwys:

  • Gêm casglu lliwiau
  • Creu celf gyda rhisgl
  • Her y cylch mawr
  • A llawer mwy o weithgareddau

. Archebwch sesiwn

Hanes a threftadaeth Parc Bute

Croeso i Barc Bute - calon werdd y ddinas.

Ewch am daith gerdded dywysedig o amgylch y parc i ddarganfod: -

  • Beth sy'n digwydd yn y parc?
  • Pwy sy'n gweithio yn y parc a beth maen nhw'n ei wneud?
  • Pam mae parciau a mannau gwyrdd yn bwysig?
  • Pa fywyd gwyllt fyddwn ni'n ei weld ar ein taith?
  • Beth yw arboretum?
  • Dewch i gwrdd â rhai o’r coed mwyaf o'u math yn y DU a darganfod beth sy'n eu gwneud yn bencampwyr.

Stopiwch wrth y pwyntiau Taith Antur Bywyd Gwyllt ar hyd y ffordd a chymerwch ran mewn cyfres o weithgareddau a gemau addysgol a hwyliog.

Archebwch sesiwn

Cartrefi a Chynefinoedd – Beth sy'n byw ym Mharc Bute?

Rydym am fod yn Dditectifs Coetir i ddarganfod pwy sy'n byw ym Mharc Bute.  Allwn ni ddod o hyd i unrhyw arwyddion neu draciau anifeiliaid?   Pluen, cnau wedi'u cnoi neu dwll mewn coeden?

Dysgwch am y gwahanol fathau o anifeiliaid sy'n  byw yn y parc - Gwiwerod, draenogod, llwynogod ac adar.

Dysgwch sut i'w hadnabod a darganfod pam maen nhw'n byw yn eu cynefin/cartref penodol.

Gwnewch arsylwadau gofalus am y creaduriaid a welwn ac chofnodi canfyddiadau. 

Archebwch sesiwn

Chwilio am anifeiliaid bach – bygiau, gwlithod a phethau sy’n gwingo

Bydd y disgyblion yn edrych mewn amrywiaeth o gynefinoedd i gasglu anifeiliaid di-asgwrn cefn sy'n byw yno.  Byddwn yn dysgu sut i drin anifeiliaid gyda pharch a gofal.

Bydd y disgyblion yn arsylwi ac yn dysgu am yr anifeiliaid di-asgwrn cefn yn eu hamgylchedd naturiol.  Sut maen nhw'n cuddliwio eu hunain a sut maen nhw'n symud o gwmpas.

Yn ystod y sesiwn dysgwch sut i ddefnyddio allwedd, siartiau adnabod a chwyddwydr i'w hadnabod.

Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn cyfres o gemau a gweithgareddau i wella'r profiad dysgu gan gynnwys: -

  • Gêm meimio anifeiliaid bach
  • Swyno mwydod
  • A llawer mwy

Archebwch sesiwn

Coed, coed a mwy o goed

Mae Parc Bute yn gartref i dros 3,000 o goed. Mae llawer yn rhan o'n Harboretum, casgliad arbennig o goed, sy'n cynnwys 40 o’r coed mwyaf o'u math yn y DU (Talaf a/neu ehangaf o'r rhywogaeth honno yn y DU).

Byddwn yn treulio amser yn archwilio coed ac yn ateb rhai cwestiynau:

  • Beth yw coeden?
  • Beth sy'n byw mewn coed?
  • Beth yw arboretum?
  • Beth sy'n gwneud coeden gampus?
  • Pa goed sy'n fytholwyrdd, a pha rai sy'n gollddail?

Yn ystod y sesiwn byddwn yn chwarae gemau ac yn cwblhau gweithgareddau coed gan gynnwys archwilio dail, rhwbio rhisgl ac amcangyfrif oedran rhai o'r coed.

Archebwch sesiwn

Gemau coetir a gweithgareddau awyr agored

Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn cyfres o gemau a gweithgareddau i archwilio'r parc ac yn defnyddio'r deunyddiau naturiol sydd ar gael i greu gludwaith ar y ddaear. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys: -

• Casglwch 5 a gwnewch ludwaith naturiol
• Creu oriel gelf rhisgl
• Her tŵr brigau
• A llawer mwy

Cyfle gwych i weithio ar sgiliau cyfathrebu ac adeiladu tîm.

Antur ddifyr a lliwgar am degan meddal o'r enw Gerry'r Jiráff sy'n mynd ar goll ym Mharc Bute.

Archwiliwch y parc a chwiliwch am y cliwiau a grybwyllir yn y stori i helpu i ddod o hyd i Gerry a'i ffrindiau.

Mwynhau chwarae gemau a gweithgareddau i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ddaearyddol a dealltwriaeth o'r ardal leol.
Bydd angen i ddisgyblion fod yn gyfarwydd â'r llyfr cyn dod i'r sesiwn hon.

Archebwch sesiwn

Stori Jaci– Jiráff sy'n mynd ar goll ym Mharc Bute

Antur ddifyr a lliwgar am degan meddal o'r enw Jaci'r Jiráff sy'n mynd ar goll ym Mharc Bute.

Archwiliwch y parc a chwiliwch am y cliwiau a grybwyllir yn y stori i helpu i ddod o hyd i Jaci a'i ffrindiau.

Mwynhau chwarae gemau a gweithgareddau i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ddaearyddol a dealltwriaeth o'r ardal leol.

Bydd angen i ddisgyblion fod yn gyfarwydd â'r llyfr cyn dod i'r sesiwn hon.

Archebwch sesiwn

Fforiwr Afon Taf

Bydd disgyblion yn dipio yn yr afon o draeth ar Afon Taf i chwilio am greaduriaid sy'n byw yn yr afon ac yn dal, archwilio ac yn nodi'r hyn a welwn. 

Bydd y disgyblion yn cofnodi'r math o greaduriaid a nifer pob rhywogaeth i gyfrifo pa mor iach yw'r afon.                                  

Byddwn yn chwarae gêm y gadwyn fwyd ac yn darganfod hierarchaeth anifeiliaid yn yr afon a phwy sy'n bwyta pwy.       

Archebwch sesiwn

Gwenyn a phryfed peillio 

Darganfyddwch fyd pryfed peillio, eu rôl a pha mor bwysig ydyn nhw o ran helpu'r amgylchedd a'r byd rydyn ni'n byw ynddo.
Rydym yn ateb rhai cwestiynau am wenyn:

  • Beth yw'r gwahaniaeth rhwng gwenyn mêl, gwenyn unig neu wenyn cacwn?
  • Pa wenyn sy'n byw ym Mharc Bute?
  • Sut mae gwenyn mêl yn gwneud mêl
  • Beth mae gwenyn yn ei fwyta?

Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau hwyliog ac addysgiadol yn y parc.

Archebwch sesiwn

Cyfeiriannu

Bydd y disgyblion yn dysgu beth yw map a sut i ddefnyddio map a chwmpawd i lywio o amgylch cwrs cyfeiriannu syml.

Dysgwch sut i ddilyn cyfarwyddiadau a chydweithio.

Mewn grwpiau bach, gweithiwch fel tîm i ddatrys yr heriau a dod o hyd i'r 'trysor' sydd wedi'i guddio yn y parc.

Byddwn yn chwarae gemau ac yn gwneud rhai gweithgareddau hwyliog i atgyfnerthu'r sgiliau a ddysgwyd.

Archebwch sesiwn