Ffurflen bwcio sesiwn addysg

Cyn bwcio, darllenwch yr holl wybodaeth ganlynol. Bydd y canllawiau hyn yn amlinellu cyfrifoldebau pawb sydd ynghlwm wrth ymweliad addysg gyda’r nod o fod yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth:

Hygyrchedd

Mae Parc Bute a’r Ganolfan Addysg yn hygyrch i bawb.  Dylid rhoi gwybod i’r Swyddog Addysg am unrhyw ofynion neu ystyriaethau arbennig un ai cyn bwcio neu wrth fwcio fel y gallwn drafod unrhyw addasiadau angenrheidiol os oes angen.

Polisi Canslo

Mae polisi canslo sy’n caniatáu tair wythnos i chi ganslo sesiynau sydd wedi’u trefnu. Bydd ffi ganslo o 50% yn daladwy os ydych yn canslo llai na thair wythnos ymlaen llaw. Cewch eich anfonebu am nifer y disgyblion ar eich archeb. 

Os ydych yn canslo oherwydd tywydd garw, cysylltwch â’r Swyddog Addysg i drafod aildrefnu’r ymweliad.

Dillad

Byddwch y tu allan am y rhan fwyaf o’r diwrnod boed law neu hindda! Felly, sicrhewch fod pob ymwelydd yn gwisgo dillad addas ar gyfer y tywydd.  Cynghorir i bawb wisgo trowsus.  Hyd yn oed mewn tywydd poeth, ni ddylid gwisgo siorts na sandalau oherwydd yr amgylchedd. Anogir eli haul a het os yw hi’n heulog.

Mae angen i bob ymwelydd ddod â phâr o esgidiau glaw neu bâr o esgidiau ychwanegol i’w gwisgo tu allan.

Offer

Darperir yr holl offer ar gyfer y sesiwn. Y cwbl sydd angen i chi ddod gyda chi yw brwdfrydedd a meddwl chwilfrydig, er efallai y byddwch am ddod â llechen neu gamera i gofnodi’r ymweliad.

Cymorth cyntaf

Mae’r Swyddog Addysg ac aelodau staff eraill y parc wedi hyfforddi’u mewn cymorth cyntaf. Dylid adrodd am unrhyw ddigwyddiad difrifol i aelod o staff a bydd angen ei gofnodi yn llyfr damweiniau Parc Bute.

Cyrraedd Parc Bute

Gallwch gael manylion ynghylch sut mae cyrraedd Parc Bute ar y dudalen gyfarwyddiadau.

Iechyd a Diogelwch

Disgwylir i’r holl oedolion aros gyda’u grŵp drwy’r dydd ac maent yn gyfrifol am anghenion, ymddygiad a diogelwch y bobl ifanc bob amser.

Ni chaiff ymwelwyr bigo unrhyw blanhigion heb wirio gyda’r Swyddog Addysg.

Rhaid i oedolion sy’n goruchwylio sicrhau bod plant yn ymwybodol o’r angen i fod yn ofalus iawn o ran eu diogelwch eu hunain.  Mae peryglon posibl megis peiriannau gardd, nodweddion dŵr mewn afonydd ac addurnol, coed dringo, a bwyta ffrwythau neu yfed dŵr o ffynonellau sydd heb eu labelu’n ddiogel.  Anogwch eich grŵp i aros yn ddiogel a bod yn ymwybodol bob amser.

Caiff Parc Bute ei reoli gan Gyngor Caerdydd ac mae ganddo yswiriant awdurdod lleol safonol i unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd yn neu ar y safle.

Adnoddau Dysgu

Darperir adnoddau a deunyddiau dysgu ar gyfer y sesiwn. Y cwbl sydd angen i chi ddod gyda chi yw brwdfrydedd a meddwl chwilfrydig, er efallai y byddwch am ddod â llechen neu gamera i gofnodi’r ymweliad.

Cinio

Dewch â chinio parod os yw’n berthnasol gyda chi ar gyfer yr ymweliad.  Ar ddiwrnodau sych, rydym yn annog cael picnic yn yr awyr agored yn y parc. Gellir darparu tarpolin i eistedd arno os oes angen.  Mewn tywydd garw, gallwn gynnig gofod o dan do. Mae’n hanfodol bod pawb yn golchi eu dwylo cyn bwyta.  Mae lleoedd yn y Ganolfan Addysg lle gellid ail-lenwi poteli dŵr am ddim.

Ffotograffau

Mae’n bosibl y byddwn yn tynnu lluniau yn ystod eich ymweliad i’w defnyddio ar wefan Parc Bute a chyhoeddiadau eraill y Cyngor. Sicrhewch fod y Swyddog Addysg yn gwybod am y plant sydd heb ganiatâd ffotograffig.

Ymweliadau ymlaen llaw

Efallai y bydd arweinwyr y parc yn trefnu ymweliad ymlaen llaw â Chanolfan Addysg Parc Bute a chwrdd â’r Swyddog Addysg i drafod gofynion a mynd am dro o amgylch y parc. Gall hyn helpu i adnabod eich ystyriaethau megis asesiadau risg, anghenion unigol eich grŵp ac amser teithio ac ati.

Prisiau

Mae sesiynau addysg ar gael am unai hanner diwrnod (£100 am hyd at 30 disgybl) neu ddiwrnod llawn (£150 am hyd at 30 disgybl).

Asesiadau risg

Bydd ffurflenni asesiadau risg yn cael eu hanfon pan fydd archeb yn cael ei gadarnhau.  Bwriedir fel canllaw i chi allu pennu eich asesiad risg grŵp unigol.  Mae’n bosibl y bydd angen i oedolion sy’n goruchwylio gael brîff gan eich arweinydd grŵp, darllenwch y canllawiau hyn a bod yn ymwybodol o unrhyw risgiau posibl all godi yn ystod ymweliad.  Mae’r oedolion sy’n goruchwylio yn gyfrifol am yr holl bobl ifanc sy’n ymweld â Pharc Bute.

Rhaid i’ch arweinydd grŵp gynnal yr asesiadau risg angenrheidiol ar gyfer yr ymweliad gan gynnwys y siwrne i ac o Barc Bute.  Dylai trefnydd eich grŵp sicrhau caniatâd a chydsyniad rhieni/gofalwyr cyn yr ymweliad.  Dewch â rhestr o enwau’r grŵp i’w defnyddio yn ystod y dydd.

Sbwriel

Rydym yn annog polisi dim gwastraff/llai o wastraff o ran sbwriel.  Helpwch ni i edrych ar ôl ein hamgylchedd drwy gefnogi hyn lle bo’n bosibl.  Er enghraifft, anogwch eich grŵp i ddod â bocsys bwyd a chynwysyddion diod amldro, gan gyfnewid byrbrydau wedi’u pecynnu ymlaen llaw am ffrwythau a llysiau ffres ac ati. Mae biniau o amgylch y parc os oes angen.

Toiledau

Mae toiledau cyhoeddus ar gael yn Ystafelloedd Te Pettigrew, Caffi’r Ardd Gudd a’r Ganolfan Addysg.

Byddai’n ddefnyddiol pe gallai plant fynd i ddefnyddio’r toiled mewn grwpiau bychan.  Yn aml caiff y Ganolfan Addysg ei ddefnyddio ar gyfer cynadleddau gan logwyr allanol; cofiwch hyn wrth ddod â grwpiau o blant i ddefnyddio’r cyfleusterau.

Tywydd

Os oes glaw trwm neu drwm iawn neu dywydd garw, efallai bydd angen aildrefnu’r ymweliad. Bydd y Swyddog Addysg yn cysylltu â chi o leiaf 2 ddiwrnod ymlaen llaw os hyn yw’r achos.

Bywyd Gwyllt

Anogwch y plant i fwynhau’r blodau gwyllt, ond nid i’w pigo. Ceisiwch ddweud wrthynt i beidio bwydo neu gyffwrdd y wiwerod, maent yn gyfeillgar iawn ond maent yn anifeiliaid gwyllt ac efallai y byddent yn brathu os ydynt yn ofnus.

Ar ôl yr ymweliad

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gyflawni a dychwelyd ein ffurflen werthuso. Bydd hon yn cael ei hanfon atoch dros e-bost ar ôl yr ymweliad. Bydd hyn yn helpu ni i bennu llwyddiant eich ymweliad a’n galluogi ni i wella ein gwasanaethau addysg i’r dyfodol.

Bwcio sesiwn

    Which of our activities interest you (choose all that apply)