Cyrsiau i Addysgwyr 

Allan i ystafell ddosbarth byd natur 

Mae bod yn y byd naturiol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles meddyliol a chorfforol plant. Bydd treulio amser yn yr awyr agored yn gwella cymhelliant plentyn i ddysgu ac mae bod yn yr awyr agored yn helpu i leddfu straen a thensiwn i blant ac addysgwyr fel ei gilydd.  

Mae'r awyr agored yn darparu amgylchedd dysgu unigryw i blant a fydd yn annog chwarae, darganfod, annibyniaeth a hyder.   

Mae cyfleoedd ar gyfer dysgu 'bywyd go iawn' yn helpu i wella dychymyg, arbrofi a sgiliau datrys problemau plentyn.

Sut allwn ni gynnwys dysgu yn yr awyr agored yn ein diwrnod ysgol sydd eisoes yn llawn? 

Ni ddylai dysgu yn yr awyr agored fod yn bwnc ychwanegol y mae angen ei osod rywsut mewn amserlen brysur. Mae'n gyfle i addysgu mewn amgylchedd cyfoethogi newydd gan fanteisio ar ddysgu 'bywyd go iawn' yn y byd naturiol.

Mae annog dychymyg, arbrofi a rhoi cynnig a methu yn helpu i wella sgiliau datrys problemau, annibyniaeth a hunanhyder plentyn. Heb sôn am wella eu hiechyd a'u lles meddyliol a chorfforol ac wrth gwrs, cael rhywfaint o hwyl!

 

Trosolwg

Mae'r cwrs hwn ar gyfer addysgwyr, dewch draw i gymryd rhan yn ein cyflwyniad i ddysgu yn yr awyr agored.

Ymunwch â Swyddog Addysg Parc Bute am sesiwn ymarferol a fydd yn rhoi syniadau gwych a gweithgareddau hwyliog i fynd â nhw'n ôl i roi cynnig ar fynd â’ch dosbarth allan i unrhyw leoliad awyr agored.

Dyma gyfle i fagu eich hyder a'ch ysbrydoli i ddefnyddio'r awyr agored yn fwy yn eich ymarfer bob dydd.

Dewch draw i gychwyn eich taith i ddarganfod ffordd fwy creadigol o addysgu sy'n grymuso disgyblion drwy ddysgu ymarferol a thrwy brofiad sy'n gysylltiedig â’r cwricwlwm. Byddwn yn treulio'r sesiwn y tu allan ym Mharc Bute, yn archwilio calon werdd y ddinas.


Manylion
Pris £65 Y pen
Amser Gweithdy undydd (9.30am – 3.30pm)

Trosolwg

Mae'r cwrs undydd hwn ar gyfer addysgwyr sydd am adeiladu ar eu sgiliau presennol wrth gyflwyno gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored.

Ymunwch â Swyddog Addysg Parc Bute am ddiwrnod i brofi ac archwilio, dysgu ac ail-gysylltu â'r amgylchedd naturiol. Byddwn yn treulio'r sesiwn y tu allan ym Mharc Bute, yn darganfod calon werdd y ddinas.

Mae hon yn sesiwn ymarferol, a fydd yn rhoi syniadau newydd i chi am weithgareddau hwyliog a gafaelgar y gellir eu hailadrodd a'u hintegreiddio i'ch cynlluniau gwersi ac y gellir eu defnyddio mewn unrhyw leoliad awyr agored.

Manylion
Pris £65 Y pen
Amser Gweithdy undydd (9.30am – 3.30pm)

Bydd dod draw i un neu fwy o’n sesiynau dysgu yn yr awyr agored ar gyfer addysgwyr yn:-

 

  • Meithrin hyder staff mewn dysgu yn yr awyr agored
  • Cynnig syniadau a gweithgareddau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a datblygu cysylltiadau gyda’r cwricwlwm
  • Nodi a deall rôl oedolion yn yr awyr agored
  • Helpu staff i nodi rhwystrau i ddysgu yn yr awyr agored a chynllunio ar gyfer sut i’w goresgyn
  • Helpu staff i baratoi rhestr o’r eitemau yr hoffent eu prynu i’w defnyddio yn yr awyr agored
  • Dysgu a pharatoi asesiadau risg a pholisïau ar gyfer rheoli dysgu yn yr awyr agored yn ddiogel
  • Awgrymu ffyrdd o annog rhieni/gofalwyr, staff eraill, llywodraethwyr a grwpiau Cymdeithas Rhieni ac Athrawon i gymryd rhan. Sut gallant helpu?
  • Edrych ar ffyrdd o weithio gyda’r tywydd a’r gofynion o ran dillad awyr agored

I archebu cysylltwch â Meriel Jones, Swyddog Addysg, Parc Bute Meriel.jones2@caerdydd.gov.uk.

Cysylltwch â Meriel am wybodaeth ar sesiynau min nos neu gyrsiau diwrnod HMS ar Ddysgu Awyr Agored yn eich ysgol neu lleoliad. 

Meriel Jones