Gardd Goed

Mae gardd goed Parc Bute sydd o bwys cenedlaethol heb ei thebyg yn y DU am nifer y coed pwysig mae’n eu cynnwys. Mae dros 3,000 o goed unigol wedi’u cofnodi, gyda rhai ohonynt yn brin ac yn addurnol.

Plannwyd y rhan fwyaf o’r coed ar ôl 1947 i gydweddu â’r casgliad a oedd eisoes ar gael ar ystâd breifat y teulu Bute o’r 19eg ganrif.

I gael mwy o wybodaeth, darllenwch arweinlyfr planhigion darluniadol Cyngor Caerdydd neu dewch i’n gweld ni yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute.

Coed Nodedig

Mae llawer o goed yn flaenllaw yn nhirwedd Parc Bute ac yn rhoi i’r ardd goed ei chymeriad unigryw. Gall hyn fod oherwydd maint y coed, y nifer ohonynt, pa mor brin maen nhw, eu siâp a’u ffurf, eu lliw tymhorol, eu lleoliad neu eu natur drawiadol.  

Mae’r rhywogaethau nodedig yn cynnwys rhai brodorol ac egsotig, gydag amrywiaeth o wahanol ffurfiau a meintiau.

Mae ein rhodfa coed Ginkgo biloba nodedig yn Stablau'r Castell yn drawiadol trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r llwyfen Siberia Brin (Ulmus pumila ‘Aurescens’) yn un o ddim ond dau sbesimen aeddfed y gwyddys amdanynt yn y DU.

Hefyd yn gofiadwy i lawer o’n hymwelwyr mae coed bysedd y cŵn (Paulownia tomentosa) a choed cnau adeiniog hybrid (Pterocarya rehderiana). .

Mae ein casgliadau diddorol o’r ddraenen wen, coed cerddin, gwern a phrennau afalau surion, ymhlith rhai eraill, yn amlygu’r amrywiaeth helaeth o sbesimenau yn ein casgliadau

Ginko avenue
Golden Larch Tree
Pink flowers on the Malus shrub
A couple holding hands walking down Ginko avenue

Coed Campus

Mae Parc Bute yn falch iawn o gynnwys y nifer uchaf o Goed Campus mewn parc cyhoeddus yn y DU. 

Cydnabyddir mai Coed Campus yw’r talaf neu’r mwyaf llydan o’u math yn Ynysoedd Prydain, ac ar hyn o bryd mae gan Barc Bute 41 o’r coed hyn.

A Juglans cinerea tree, commonly know as butternut tree.

Polyn Siarter Coed

Mae Parc Bute yn cynnwys un o’r deg Polyn Egwyddorion y Siarter Coed sydd wedi’u gosod ledled y wlad. Gellir ei weld ger Ystafelloedd Te Pettigrew a’r safle Tacsis Dŵr.

Gwnaed y Polion Egwyddorion Siarter Coed i gynrychioli 10 egwyddor y Siarter Coed, sef:

  • Cynnal tirweddau sy’n doreithiog o fywyd gwyllt.
  • Plannu ar gyfer y dyfodol.
  • Dathlu pŵer coed i ysbrydoli.
  • Adfer iechyd, gobaith a lles gyda chymorth coed.
  • Diogelu coed a choetiroedd anhepgor.
  • Tyfu coedwigoedd llawn cyfle ac arloesedd.
  • Cynllunio tirweddau lleol gwyrddach
  • Atgyfnerthu ein tirweddau trwy blannu coed.
  • Gwneud coed yn hygyrch i bawb.
  • Mynd i’r afael â’r hyn sy’n bygwth ein cynefinoedd.

Ceir mwy o wybodaeth am y Siarter Coed ar eu gwefan.

A view of the Tree Charter pole

Llwybrau Coed

Archwiliwch ein dewis helaeth o Goed Campus ar ein Llwybr Coed Campus, neu gallech chi ddilyn y Llwybr Coed i Deuluoedd o amgylch y parc i weld ein 14 Coeden Nodedig – perffaith i deuluoedd sydd â phlant.