Bywyd Gwyllt
O adar, gwenyn a phili-palod i bryfed a phlanhigion ar lawr y coetir, mae Parc Bute yn llawn bywyd gwyllt i chi ei ddarganfod.
Os byddwch yn lwcus, gallwch hyd yn oed weld dyfrgi. Gwyddys bod y rhain yn ymddangos bob hyn a hyn ar hyd yr afon ond maen nhw’n arbennig o swil, felly prin yw’r tebygrwydd o’u gweld.
Taith Gweithgareddau Natur
Taith Gweithgareddau Natur
Wedi'i anelu at ein hymwelwyr iau - mae'r llwybr hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai rhwng 4 a 10 oed. Learn more.
Camlas Gyflenwi’r Dociau
Camlas Gyflenwi’r Dociau
Mae Camlas Gyflenwi’r Dociau yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol Parc Bute o’r Gored Ddu ar y pen gogleddol, i’r de at y Castell, lle mae'n troi i'r dwyrain, ac yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol y Castell i adael y Parc. Learn more.
Coedwigoedd Y Goredd Ddu
Coedwigoedd Y Goredd Ddu
Mae’r coetir prydferth hwn wedi’i ddyrannu fel Safle o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur (SoDdCN) oherwydd ei bwysigrwydd i fywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Learn more.
Taith Antur Bywyd Gwyllt
Taith Antur Bywyd Gwyllt
Mae Teithiau Antur Bywyd Gwyllt Parc Bute ar gael i’w casglu yn y Ganolfan Addysg. Learn more.
Cychod Gwenyn
Cychod Gwenyn
Ar un adeg roedd y cychod gwenyn ym Mharc Bute yn darparu mêl ar gyfer y teulu Bute cyfoethog a’u gwesteion yng Nghastell Caerdydd Learn more.
Border Blodau
Border Blodau
Mae ein Border Blodau mawr ei glod yn arddangosfa drawiadol o blanhigion lluosflwydd a blodau sy’n gyfochrog ag Afon Taf. Learn more.
Dôl yr Ystlumod
Dôl yr Ystlumod
Crëwyd dôl y blodau gwyllt yn 2017 i gynnig cynefin amrywiol a deniadol i bryfed a pheillwyr ac i fod yn ffynhonnell fwyd i annog cynnydd ym mhoblogaeth yr ystlumod. Learn more.
Afon Taf
Afon Taf
Mae Afon Taf yn 64 km o hyd ac yn cael ei ffurfio yng Nghefn-coed-y-cymer ym Merthyr Tudful lle mae afonydd Taf Fechan a Thaf Fawr yn ymuno. Learn more.
Camerâu Bywyd Gwyllt
Yn 2018 gwnaethom osod camerâu bywyd gwyllt i recordio fideo o’r llu o anifeiliaid sy’n ymweld â’r parc. O flychau bwyd adar a byrddau adar i’n cychod gwenyn ein hunain, mae llawer o fywyd gwyllt i’w weld.
Mae ein camerâu’n dilyn:
- Cychod gwenyn yn waliau’r blanhigfa.
- Ffau cadnoid yn y sied agored yn iard y blanhigfa.
- Polyn y blwch bwyd adar a’r bwrdd adar ar y gwelyau blodau uchel y tu ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr.
- Dau safle bwydo draenogiaid – un dan do ac un awyr agored – yng nghefn y siop blanhigion.
- Nifer o gamerâu mewn blychau nythu ar y coed ar hyd terfyn y blanhigfa ac un ym mhrif adeilad y blanhigfa.
Mae’r camerâu bywyd gwyllt wedi rhoi cyfle newydd a chyffrous i wirfoddolwyr gefnogi’r parc. Gall gwirfoddolwyr helpu trwy edrych ar y fideo a gwneud recordiadau o ddigwyddiadau penodol o ddiddordeb (anifeiliaid yn bwyta, wyau’n deor, bwydo’r ifanc ac ati)
Mae’r recordiadau eisoes wedi gwella ein gweithgareddau addysg i blant ysgol gyda fideo o ddraenogiaid yn cael ei ddangos fel rhan o sesiwn draenogiaid a gaeafgysgu ym mis Tachwedd y llynedd.
Bu teuluoedd a oedd yn ymweld yn mwynhau’r fideo o’r adar niferus a ymwelodd â ni fel rhan o ddigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB ddiwedd mis Ionawr.
Gall ymwelwyr â’n Canolfan ymwelwyr wylio ein bywyd gwyllt a gweld yr anifeiliaid sy’n ymweld â ni yn agos ar y sgrin.
Hefyd gallwch fwynhau fideo byw ar-lein neu gallwch wylio ein diweddariadau bywyd gwyllt ar ein sianel YouTube. .
Ar camera
Dyma rai o’r anifeiliaid rydym wedi’u gweld hyd yn hyn:
- Cadno.
- Draenogiaid.
- Gwenci.
- Llygod.
- Llawer o wiwerod.
Dyma rai o’r adar sy’n ymweld yn aml:
- Llwyd y gwrych.
- Robin.
- Titw penddu.
- Titw mawr.
- Delor y cnau.
- Ysguthan.