Border Blodau

Mae ein Border Blodau mawr ei glod yn arddangosfa drawiadol o blanhigion lluosflwydd a blodau sy’n gyfochrog ag Afon Taf, o Gaffi’r Tŷ Haf i safle Brodordy y Brodyr Duon. Fe’i sefydlwyd yn y 1950au gan uwch-arolygydd y parc, William Nelmes, ac yn wreiddiol roedd yn ymestyn ar bob ochr y llwybr ond cafodd ei leihau a’i droi’n gyfres o welyau ynys yn y 1990au.

Mae’n blodeuo trwy gydol y rhan fwyaf o’r flwyddyn ac mae ein garddwyr a’n prentisiaid garddwriaethol yn gweithio’n ddiflino i dynnu chwyn a gofalu am y gwelyau sy’n arwain at yr arddangosfa odidog o’r gwanwyn tan yr hydref bob blwyddyn.