Taith Antur Bywyd Gwyllt

Mae gan Gaerdydd amrywiaeth helaeth o blanhigion ac anifeiliaid y gallwch eu gweld ledled y ddinas a’r cefn gwlad o’i hamgylch, sy’n cynnwys ystod eang o gynefinoedd.  Defnyddiwch y Teithiau Antur Bywyd Gwyllt i ddysgu am y bywyd gwyllt sydd wrth garreg eich drws!

Mae Teithiau Antur Bywyd Gwyllt Parc Bute ar gael i’w casglu yn y Ganolfan Addysg neu i’w lawrlwytho yma.

Gallwch hefyd lawrlwytho teithiau ar gyfer parciau eraill Caerdydd ar wefan Awyr Agored Caerdydd.

Wedi cwblhau un o’r teithiau?


Dywedwch wrthon ni sut hwyl gawsoch chi arni neu anfonwch eich lluniau atom #parcbute