Taith Gweithgareddau Natur

Mae ein Taith Gweithgareddau Natur newydd yn dilyn llwybr hygyrch o amgylch Canolfan Ymwelwyr (Addysg) Parc Bute, gan gadw at lwybrau caled ar ei hyd.

Wedi’i anelu at ein hymwelwyr iau – mae’r llwybr hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai rhwng 4 a 10 oed.

Mae 8 gorsaf ar y llwybr gyda gweithgaredd i roi cynnig arno ar bob un ohonyn nhw.  Ewch yn nes at natur a mwynhewch yr awyr agored.

Gwiriwch yn gyson, gan y bydd y gweithgareddau’n newid fesul tymor.

Dywedwch wrthon ni sut hwyl gawsoch chi arni neu anfonwch eich lluniau atom #parcbute