Rheolau’r parc

Caiff Parc Bute ei ddefnyddio gan lawer o grwpiau gwahanol o bobl. Byddwch yn ystyriol o’r parc ac ymwelwyr eraill a dangoswch barch tuag atynt.

Mae’r parc yn rhoi llwybr deniadol i ymwelwyr a chymudwyr gyrraedd a gadael canol dinas Caerdydd.

I helpu i wneud y parc yn lle hamdden diogel a dymunol i bawb, dilynwch ein Cod Ymddygiad.

B

Rydym yn eich cynghori i beidio â defnyddio barbeciws (tafladwy neu fel arall) ym mhob parc yng Nghaerdydd. Mae barbeciw yn peri risg iechyd a diogelwch i bobl, bywyd gwyllt a chŵn, yn enwedig pan gânt eu gadael heb oruchwyliaeth wrth iddynt ddal yn boeth. Gall cael gwared ar farbeciw yn un o'n biniau tra'u bod yn dal yn boeth achosi tân.

Pan ddefnyddiwyd llawer o farbeciw, mae hyn yn gadael y safle i edrych yn hynod o dameidiog, gan ddifetha'r parc i eraill.

Peidiwch â difrodi ein glaswellt, ein meinciau na'n coed trwy roi barbeciw tafladwy arnynt. Mae'r marciau crasbo sy'n deillio o hyn yn weithred o fandaliaeth yn erbyn y parc yr ydym yn gobeithio eich bod chi ac eraill wrth ei fodd yn treulio amser ynddo.

https://bute-park.com/cy/park_rule/bbqs/

Gwaherddir gyrru beiciau oddi ar y ffordd neu feiciau cwad ar dir y Cyngor. Gellir ond defnyddio’r beiciau hyn ar dir preifat â chaniatâd y tirfeddiannwr neu ar unrhyw drac cofrestredig.

Mater i'r heddlu yw'r defnydd o gerbydau modur ar dir y Cyngor. Mae’r Ddeddf Traffig Ffyrdd yn caniatáu i’r heddlu atafael cerbydau nas yswirir a’r rheiny sy’n cael eu gyrru heb drwydded. Hefyd, mae Adran 59 o’r Ddeddf Traffig Ffyrdd yn caniatáu i’r heddlu roi rhybudd i yrwyr os caiff ei hadrodd eu bod yn gyrru cerbyd mewn modd sy’n peri “gofid, trallod neu niwsans”.

Os gwelwch gerbydau o'r fath yn cael eu defnyddio ym Mharc Bute, cofnodwch yr amser, y dyddiad, yr union leoliad a nodi'r wybodaeth ac e-bostiwch yr adroddiad i publicservicecentre@wales.pnn.police.uk gan atodi unrhyw luniau. Gallwch hefyd gopïo  parcbute@caerdydd.gov.uk er gwybodaeth i’r adran Rheoli Parciau.

https://bute-park.com/cy/park_rule/feiciau-cwad/

Mae gan gerddwyr flaenoriaeth dros bob defnyddiwr arall ym Mharc Bute, hyd yn oed mewn mannau sydd wedi’u dynodi at ddibenion eraill a lle mae arwyddion yn nodi hyn. Byddwch yn ystyriol o gerddwyr wrth ddefnyddio ein llwybrau, yn benodol wrth basio pobl.

  • Parth 5 mya yw Parc Bute ar gyfer pob dull o drafnidiaeth.
  • Rhaid i feicwyr ddefnyddio’r llwybr beicio a rennir dynodedig lle mae ar gael a bod yn wyliadwrus o ran cerddwyr ar lwybrau beicio heb ddynodiad. Cadwch at y llwybrau, oherwydd y gall beicio ‘oddi ar y ffordd’ ddifrodi planhigion pwysig ar y llawr. Byddwch yn ymwybodol y cyfyngir yn benodol ar feicio mewn rhai mannau yn y parc.
  • Cadwch i’r chwith gan oddiweddyd ar y dde.
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchedd gan weithredu’n briodol. Oherwydd gwaith pob dydd megis casglu sbwriel, cynnal a chadw’r tiroedd a dosbarthu nwyddau, gallech chi ddod ar draws rhai cerbydau yn ystod eich amser yn y parc. Bydd lefelau’r traffig yn cynyddu yn ystod digwyddiadau a gwaith gwella, felly cymerwch fwy o ofal ar yr adegau hyn. Dylai cerbydau ildio i chi ond ystyriwch y posibilrwydd nad ydynt wedi’ch gweld chi. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell peidio â defnyddio clustffonau wrth feicio trwy‘r parc.
  • Bydd defnyddio cloch a/neu wisgo dillad llachar yn helpu rhoi rhybudd i bobl eraill o’ch presenoldeb.
https://bute-park.com/cy/park_rule/cycling/

C

Caniateir hyn ar yr amod bod y person yn aelod o Glwb Sganio Caerdydd. Gofynnir i aelodau gario eu cerdyn aelodaeth gyda nhw wrth ganfod metel fel y gallwch ei ddangos os bydd staff y parc yn gofyn i’w weld.

https://bute-park.com/cy/park_rule/canfod-metel/

Peidiwch â chwilota am fwyd gwyllt ym Mharc Bute gan fod hyn yn amharu ar fioamrywiaeth y planhigion a’r anifeiliaid.

Rydym yn gweithio gyda chwmnïau a sefydliadau i drefnu digwyddiadau a chyrsiau chwilota am fwyd gwyllt.

https://bute-park.com/cy/park_rule/chwilota/

Mae croeso i gŵn ym Mharc Bute ond mae rhai mannau lle dylid eu cadw ar dennyn.

  • Safleoedd ecolegol sensitif, caffis ac ardaloedd chwaraeon yw’r rhain sy’n cael eu nodi’n glir.
  • Dylai eich ci bob amser fod dan eich rheolaeth chi a dylech chi gadw eich ci o fewn golwg ar bob adeg. Diben hyn yw diogelu bywyd gwyllt, cŵn eraill a defnyddwyr eraill y parc.
  • Cadwch y tennyn wrth law trwy’r amser – gallai fod ei angen arnoch.
  • Codwch faw eich ci. Dylid rhoi baw ci mewn bag wedi’i selio’n dynn a’i daflu yn un o’r biniau sbwriel cyffredinol. Yn ogystal â bod yn wrthgymdeithasol, mae baw cŵn yn newid lefelau maetholion y pridd ac yn gallu peryglu blodau a chreaduriaid prin.
  • Byddwch gystal â chydymffurfio ag arwyddion rhybudd sydd o bosib yn cael eu harddangos yn ystod tymor nythu’r adar.
https://bute-park.com/cy/park_rule/cwn/

D

Rhaid i unrhyw weithgarwch masnachol unigol a wneir ar dir y Cyngor gael trwydded i weithredu ac mae ffi flynyddol yn daladwy. Bydd angen dogfennau penodol arnom gennych er mwyn rhoi’r drwydded.

Os yw hwn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud cysylltwch â ni gyda manylion y gweithgarwch yr hoffech ei wneud er mwyn trafod.

https://bute-park.com/cy/park_rule/ymarfer-corff/

Ni chaniateir hedfan drôn ym Mharc Bute.

Ni ddylid defnyddio tir Awdurdod Lleol ar gyfer hedfan drôn gan fod hyn yn effeithio ar ein cyfrifoldeb i gynnig diogelwch i’r cyhoedd.

Ar gyfer ceisiadau ffilmio gweler trwyddedau dronau.

https://bute-park.com/cy/park_rule/dronau/

E

Mae’n anghyfreithlon defnyddio e-sgwter ym Mharc Bute.

Mae e-sgwteri wedi eu categoreiddio fel ‘cludwyr modur’ ac wedi eu diffinio’n gyfreithiol fel cerbydau modur. Mae’n anghyfreithlon i fynd arnynt mewn ardaloedd sy’n cael eu defnyddio gan gerddwyr, beicwyr a marchogion ceffylau. Mae hyn yn cynnwys parciau. Cyngor Caerdydd yw’r tirfeddiannwr ac nid yw’n rhoi ei ganiatâd iddynt gael eu defnyddio. Os gwelwch ddefnydd anghyfreithlon ar e-sgwteri ym Mharc Bute gallwch adrodd am hyn drwy gyfrwng ein ffurflen adrodd am ddigwyddiad neu wrth Heddlu De Cymru un ai drwy ffonio 101 neu drwy e-bostio publicservicecentre@south-wales.pnn.police.uk

https://bute-park.com/cy/park_rule/e-scooters/

Dylid rhoi eiddo coll i aelod o staff Canolfan Ymwelwyr Parc Bute. Ffoniwch 029 2089 3720.

Caiff ffonau symudol, allweddi a waledi/pyrsiau eu cadw am ychydig ddyddiau cyn eu rhoi i’r heddlu.

https://bute-park.com/cy/park_rule/eiddo-coll/

F

Os gwelwch dân ym Mharc Bute, ffoniwch 029 2089 3720 yn ystod oriau gwaith arferol neu 101 ar unrhyw adeg arall.

https://bute-park.com/cy/park_rule/fandaliaeth/

Adroddwch am unrhyw ddigwyddiadau ym Mharc Bute trwy’r ffurflen ar-lein.

Llwythwch i fyny ddelweddau o'r broblem / digwyddiad oherwydd bydd hyn yn ein helpu i gymryd camau priodol. Rhaid i dystion uniongyrchol lenwi ffurflenni adroddiadau digwyddiadau.

https://bute-park.com/cy/park_rule/digwyddiadau/

G

Ni chaniateir pebyll nac aros dros nos ar unrhyw adeg.

Dim ond hanner milltir / 10 munud i ffwrdd yw Parc Carafannau a Gwersylla Caerdydd.

Logo

https://bute-park.com/cy/park_rule/gwersylla/

Mae rhaid i sawl math o gerbydau gael mynediad i Barc Bute er mwyn galluogi gwaith rheoli a gweithredu’r parc o ddydd i ddydd. Caiff mynediad i bob cerbyd ei reoli trwy ddefnyddio system rheoli bolardiau yn y fynedfa gerbydau i sicrhau diogelwch ymwelwyr, anifeiliaid a phlanhigion. Sylwer bod cyfyngiad cyflymder 5 mya ar waith yn y parc.

https://bute-park.com/cy/park_rule/gyrru/

L

Gwaherddir llaclinellau a chrogwelyau yn y parc am resymau iechyd a diogelwch ac oherwydd y gallent achosi difrod i’r coed yn yr ardd goed.

https://bute-park.com/cy/park_rule/llaclinellau-a-chrogwelyau/

N

Mae bedd-faenio neu ‘tombstoning’ a nofio wedi eu gwahardd ym Mhont y Gored Ddu. Mae gwrthrychau cudd yn beryglus iawn a gall y sioc a geir o nofio mewn dŵr oer eich LLADD. Mae dim ond hanner peint o ddŵr yn eich ysgyfaint yn ddigon ichi ddechrau boddi. Arhoswch ar y lan yn ddiogel.

https://bute-park.com/cy/park_rule/nofio/

P

Mae croeso i chi gael picnic ym Mharc Bute ar yr amod eich bod yn parchu’r amgylchedd ac ymwelwyr eraill.

  • Rhowch eich sbwriel mewn bin - byddwch yn cael dirwy am daflu sbwriel gan fod hyn yn erbyn y gyfraith.
  • Peidiwch â difrodi ein glaswellt, ein meinciau neu ein coed trwy roi barbeciwiau tafladwy arnynt. Ystyrir y marciau llosgi mae hyn yn eu gadael yn weithred fandaliaeth.
  • Peidiwch â chynnau tanau agored ym Mharc Bute.
  • Gwnewch yn siŵr bod barbeciwiau wedi’u diffodd yn llwyr cyn eu rhoi yn ein biniau, er mwyn atal tanau.

https://bute-park.com/cy/park_rule/picniciau/

Mae angen trwydded bysgota arnoch i bysgota mewn unrhyw afon neu ddyfrffordd.

Rhaid i chi fod yn aelod o Gymdeithas Bysgota Caerdydd.

https://bute-park.com/cy/park_rule/pysgota/

Fel perchnogion y tir, nid yw Tîm Rheoli Parc Bute yn rhoi caniatâd i bobl fagnet-bysgota ym Mharc Bute.

Mae'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf ar gael yma: https://www.anchormagnets.com/blogs/news/magnet-fishing-guide-2022

O ystyried y peryglon posibl dan sylw, nid ydym yn cytuno i fagnet-bysgota ar ein dyfrffyrdd. Mae rhai pysgotwyr magnet wedi adfer gwrthrychau peryglus gan gynnwys darnau miniog o fetel, ordnans heb ffrwydro, ac ati, felly nid yw'r gweithgaredd hwn yn un yr ydym yn ei annog yma.

https://bute-park.com/cy/park_rule/pysgota-magnet/

S

Rhowch bob darn o sbwriel mewn bin. Byddwch yn cael dirwy am daflu sbwriel gan fod hyn yn erbyn y gyfraith.

https://bute-park.com/cy/park_rule/sbwriel/

T

Gwaherddir cynnau tân ym Mharc Bute.

Os gwelwch chi dân ym Mharc Bute ffoniwch 101 a’i adrodd ar y pryd. 999 os yw’n achos brys.

https://bute-park.com/cy/park_rule/tan/

Y

Os ydych yn gweld unrhyw un yn ymddwyn mewn ffordd amheus neu os ydych yn teimlo dan fygythiad gan ddefnyddwyr eraill y parc, ffoniwch 101 ac ewch i leoliad diogel.

https://bute-park.com/cy/park_rule/antisocial-behaviour/

Diolch am eich cydweithrediad a gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad.