Y Ganolfan Ymwelwyr

Mae sawl defnydd i Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute:

  • Mae’n gyfleuster hyfforddi staff mewnol, er enghraifft i gefnogi cynllun prentisiaeth garddwriaethol Gwasanaeth y Parciau
  • Mae’n cynnig lleoliad i gefnogi rhaglen Addysg ac Allgymorth y Parc
  • Mae’n cynnig lleoliad i Gyfeillion Parc Bute ei ddefnyddio i gefnogi eu gweithgareddau
  • Mae’n cynnig lleoliad i gefnogi rhaglen wirfoddoli’r Parc
  • Mae’n gartref i archif o wybodaeth am y parc ac   amrywiaeth o lenyddiaeth ac arddangosfeydd cyhoeddus, sy’n helpu i adrodd straeon am hanes a bywyd gwyllt y parc
  • Mae’n cynnig gofod swyddfa ar gyfer tîm rheoli Parc Bute

Prif genhadaeth yr adeilad yw bod yn ganolbwynt gwybodaeth, dysgu a hamdden mewn parciau.

Mae’r adeilad hefyd ar gael i’w logi gan y cyhoedd ac at ddefnydd preifat.

Mae gan yr adeilad ei gyfleusterau toiledau cyhoeddus ei hun, WiFi am ddim, dŵr yfed a chegin fach. Mae yna dderbynfa, prif ystafell ddosbarth ac ystafell gyfarfod/trafod lai. Mae gan y ddwy ystafell gyfleusterau cyflwyno aml-gyfrwng, a gafodd eu huwchraddio yn 2022. 

Mae’r adeilad hefyd yn gartref i gaffi annibynnol yr Ardd Gudd.

Mae’r adeilad wedi cyflawni a chynnal Safon Amgylcheddol Lefel 4 y Ddraig Werdd ers 2013, sy’n golygu bod Cyngor Caerdydd yn dangos rheolaeth amgylcheddol effeithiol sy’n gwella’n barhaus.

Agorodd y Ganolfan Ymwelwyr yn gyntaf ym mis Tachwedd 2011 ac fe’i hadeiladwyd fel rhan o Brosiect Adfer Parc Bute a ariannwyd trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri.  Mae’n ymgorffori nifer o nodweddion dylunio sy’n ymwybodol o’r amgylchedd gan gynnwys:

  • Paneli solar
  • To Gwyrdd
  • Gwres dan y lloriau
  • Goleuadau rhad-ar-ynni a reolir gan synwyryddion 

Mae’r Ganolfan ymwelwyr yn rhannu safle Planhigfa Parc Bute a Siop Blanhigion

Peidiwch â cholli unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus sy’n cael eu cynnal yn y Ganolfan Ymwelwyr drwy fynd i’n tudalennau “beth sy’ mlaen“.