Dysgu i bawb

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd er mwyn i chi allu cymryd rhan mewn bob math o brojectau.

Diddordeb?  Cysylltwch â’n Swyddog Addysg ar 029 2078 8403 neu e-bostiwch parcbute@caerdydd.gov.uk

Efallai bydd costau ynghlwm.

Ôl-16

Mae amrywiaeth o sesiynau a gweithdai dysgu awyr agored ar gael ar gyfer myfyrwyr ôl-16 sy’n astudio:

  • Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Bagloriaeth Cymru

Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.

Brownis, Geidiau, Cenau a Sgowtiaid

Rydym yn cynnig detholiad o sesiynau dysgu awyr agored cyffrous ar gyfer Brownis, Geidiau, Cenau a Sgowtiaid.  Mae amrywiaeth o sesiynau a gweithdai dysgu i ennill y bathodynnau canlynol:

  • Naturiaethwr
  • Fforiwr Bywyd Gwyllt
  • Yn yr Awyr Agored
  • Materion y Byd

Teithiau cerdded, areithiau a theithiau tywys

Rydym yn cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded ac areithiau ym Mharc Bute gan gynnwys taith o bwyntiau o ddiddordeb hanesyddol neu daith gerdded dywys o gasgliad coed arbenigol yr ardd goed.  

Os ydych yn glwb garddio, Sefydliad y Menywod, Grŵp Hanes Lleol neu gymdeithas a hoffech drefnu taith, dosbarth neu araith cysylltwch.

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ddechrau gyrfa yn y maes garddwriaeth.  Gallwch ennill arian wrth ddysgu a chyfuno astudio academaidd gyda hyfforddiant yn y swydd a phrofiad gwaith.

Gellir gweld prentisiaethau Cyngor Caerdydd ar wefan swyddi'r Cyngor.