Hanes

Mae hanes Parc Bute yn ymestyn cannoedd o flynyddoedd yn ôl, a thros y canrifoedd mae’r tir wedi newid sawl gwaith.

1100s

Yn ystod y 1100au prif nodweddion y tir a adwaenir heddiw fel Parc Bute oedd y castell ac Afon Taf ac roedd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion diwydiannau bach, crefydd ac amaethyddiaeth.

Roedd y gweithgareddau hyn yn adlewyrchu prif fasnachau Caerdydd ar y pryd a’i phwysigrwydd fel canolfan grefyddol.

An engraving of Cardiff Castle in the 15th century

1700s

Erbyn 1766, etifeddwyd y castell gan y teulu Bute cyfoethog ac erbyn diwedd y 1800au roedden nhw wedi dechrau datblygu’r tiroedd. Cyfunwyd y tir o amgylch y castell a chrëwyd gerddi pleser.

Bu Andrew Pettigrew yn gweithio’n agos gyda’r pensaer William Burgess i greu tirwedd a oedd yn cydweddu â’r gwaith addurnedig ar y castell.

An old postcard of Cardiff Castle in the 1700's

1800s

Yn 1855 fe wnaeth y Teulu Bute gau Caeau Cooper i’r cyhoedd.  Ond yn 1857, cafodd Gerddi Sophia eu hagor i’r cyhoedd gan y teulu Bute i wneud iawn am wahardd mynediad cyhoeddus o dir ar ochr ddwyreiniol yr afon - Parc Bute nawr.

Dechreuodd Andrew Pettigrew weithio yn Ystâd Bute yn Nhŷ Dumfries, Swydd Aeron.  Cafodd ei benodi fel y prif arddwr i'r trydydd Ardalydd Bute yn 1873 gan weithio'n agos â'r Ardalydd a’i bensaer William Burges i osod tir y castell, Parc Bute nawr.

Ar ddiwedd yr 1800au cafodd y Bont Swisaidd a’r Wal Anifeiliaid a ddyluniwyd gan William Burges eu hadeiladu.

Black and white photo of the now dismantled swiss bridge

1900s

Ym 1947 rhoddwyd y castell a’r tiroedd gan Bumed Ardalydd Bute i bobl Caerdydd a chafodd y tir ei droi’n barc cyhoeddus a agorwyd ar 15 Ebrill 1949.

Old blak and white photo of the West Lodge and Gate

Heddiw

Erbyn hyn mae’r tir yn ‘galon werdd’ y ddinas ac mae’n cynnig cynefin ar gyfer bywyd gwyllt a gardd goed hardd a helaeth, yn ogystal â lleoliad ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr.

Ar ôl diddordeb gan y cyhoedd, cafodd y parc ei adfer rhwng 2010 a 2014. Cefnogwyd y project gan grant gwerth £3.1 miliwn trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac roedd yn canolbwyntio ar:

Hanes angof

Yn y 1870au, adeiladodd Burgess Bont y Swistir, ffordd newydd o adael y castell i’r tiroedd preifat dros hen nant y felin. Pan gafodd Porth y Gorllewin ei ailadeiladu yn y 1920au yn ôl cyfarwyddiadau’r 4ydd Ardalydd Bute, symudwyd Pont y Swistir i groesi camlas gyflenwi'r dociau islaw Stablau'r Castell.

Yn anffodus cafodd Pont y Swistir ei dadosod ar ôl cael ei fandaleiddio yn y 1960au.

Atyniadau Hanesyddol

Caffi’r Tŷ Haf

Caffi’r Tŷ Haf

Mae Caffi’r Tŷ Haf yn cynnig detholiad eang o ddiodydd a byrbrydau o ffynonellau lleol. Learn more.

Ystafelloedd Te Pettigrew

Ystafelloedd Te Pettigrew

Mae’r ystafell de hon yn null yr oes a fu i’w chael ym mhen deheuol y parc yn adeilad hardd Porth y Gorllewin ar Stryd y Castell. Learn more.

Drws y Bobl

Drws y Bobl

Drws y Bobl - a work of art. Learn more.

Castell Caerdydd

Castell Caerdydd

Mae tyrau tylwyth teg a muriau’r castell yn celu hanes 2,000 o flynyddoedd Learn more.

Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd

Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd

Mae sawl llwybr, gweithgaredd a nodwedd chwarae ledled Parc Bute i chi eu mwynhau. Bydd llawer yn eich helpu i ddysgu mwy am y parc a'r hyn sy'n byw ynddo. Learn more.

Gardd Stuttgart

Gardd Stuttgart

Y ddinas rhwng y coed a’r gwinwydd. Learn more.

Camlas Gyflenwi’r Dociau

Camlas Gyflenwi’r Dociau

Mae Camlas Gyflenwi’r Dociau yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol Parc Bute o’r Gored Ddu ar y pen gogleddol, i’r de at y Castell, lle mae'n troi i'r dwyrain, ac yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol y Castell i adael y Parc. Learn more.

Coedwigoedd Y Goredd Ddu

Coedwigoedd Y Goredd Ddu

Mae’r coetir prydferth hwn wedi’i ddyrannu fel Safle o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur (SoDdCN) oherwydd ei bwysigrwydd i fywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Learn more.

Gorsaf Dywydd

Gorsaf Dywydd

Mae’r orsaf bresennol yn rhan o rwydwaith y Swyddfa Dywydd o fwy na 270 o orsafoedd tywydd awtomatig sy’n adrodd cyfuniad o arsylwadau tywydd fesul awr (arsylwadau synoptig) yn ogystal â chrynodebau dyddiol o’r tywydd (arsylwadau hinsawdd). Learn more.

Polyn Siarter Coed

Polyn Siarter Coed

Mae’r Siarter Coed, Coedwigoedd a Phobl yn nodi’r egwyddorion ar gyfer cymdeithas lle gall pobl a choed gyd-fyw yn gadarn. Learn more.

Cylch yr Orsedd

Cylch yr Orsedd

Cafodd y cylch cerrig eu gosod ym 1978 i ddynodi ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd. Learn more.

Brodordy y Brodyr Duon

Brodordy y Brodyr Duon

Mae Brodordy y Brodyr Duon yn heneb gofrestredig ac yn adeilad rhestredig sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif. Learn more.

Cafn y Felin

Cafn y Felin

Yr enw am y corff dŵr ar hyd ymyl orllewinol Castell Caerdydd yw Cafn y Felin. Learn more.

Wal yr Anifeiliaid

Wal yr Anifeiliaid

Mae’r anifeiliaid yn sbecian dros y wal o’r parc i Stryd y Castell gan beri diddanwch i genedlaethau o drigolion ac ymwelwyr. Learn more.

Afon Taf

Afon Taf

Mae Afon Taf yn 64 km o hyd ac yn cael ei ffurfio yng Nghefn-coed-y-cymer ym Merthyr Tudful lle mae afonydd Taf Fechan a Thaf Fawr yn ymuno. Learn more.