Cylch yr Orsedd

Mae Cylch yr Orsedd yn agos i Ystafelloedd Te Pettigrew. Er ei fod yn ymddangos fel heneb, gosodwyd y cylch ym 1978 i ddathlu bod Caerdydd wedi cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Cafodd carreg yr allor yn y canol ei symud o gylch y cerrig yn Heol Gerddi’r Orsedd (y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd) gan roi ei enw i’r nodwedd hon.

Mae’r cerrig a’r ardal laswelltog o’u hamgylch yn boblogaidd yn yr haf gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.