Cafn y Felin

Yr enw am y corff dŵr ar hyd ymyl orllewinol Castell Caerdydd yw Cafn y Felin. Cafn felin yw’r enw am nant o waith llaw dyn sy’n cael ei chreu er mwyn cyfeirio cyflenwad dŵr i felin.

Am sawl canrif roedd melinau yn yr ardal i’r de o Borth y Gorllewin yng Nghaerdydd ond bob hyn a hyn dros y blynyddoedd roeddent yn mynd yn adfeilion.

Yng nghanol y 19eg ganrif, adeiladwyd Camlas Fwydo’r Doc a chodwyd argae i ddargyfeirio cwrs y dŵr i’r gogledd o Gastell Caerdydd.

Roedd hyn yn torri’r cyswllt rhwng y cafn a’i darddiad gan droi’r nodwedd yn bwll addurnol ac yn ffos ar hyd wal orllewinol y castell.

Yn ystod y Project Adfer, adeiladwyd dau argae newydd a chafodd Cafn y Felin ei lenwi â dŵr eto, gan ddal a chylchredeg y dŵr ar ei ben ei hun gyda phwll uchaf a rhaeadr gwymp-borthedig.

Mae Cafn y Felin yn cynnig cynefin amrywiol ac mae bellach yn uchafbwynt o ran bywyd gwyllt yn y parc wrth ddwysáu harddwch y castell a’r parcdir o’i amgylch.