Gardd Stuttgart

Y ddinas rhwng y coed a’r gwinwydd.

Mae cysylltiadau o gyfeillgarwch wedi bod rhwng Caerdydd a Stuttgart ers 1955.

Cafodd “Delwedd o Ardd Stuttgart” ei chynnig i Gaerdydd gan ei gefeilldref ac fe’i cynlluniwyd ar y cyd ym mis Hydref 2005 i nodi hanner cant o flynyddoedd ers y gefeillio.

Thema’r ardd yw lleoliad unigryw dinas Stuttgart.

Mae’r llethrau o dywodfaen melyn yn bennaf, rhwng y coed a’r gwinwydd, yn ymestyn i waelod dyffryn siâp powlen gyda chanol y ddinas wrth ei galon.

Mae priffordd y ddinas, Konigstrasse (Stryd y Brenin), yn mynd heibio Schlossplatz (Stryd y Castell).