Cefnogi Parc Bute

Mae gofalu am gasgliadau o goed a phlanhigion arbennig mewn gardd hanesyddol yn gyfrifoldeb mawr.

Mae’r arian a godwn yn hanfodol i gynnal Parc Bute ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Os hoffech chi ein helpu i ofalu am Barc Bute trwy roi rhodd, bydd eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr a’i ddefnyddio mewn modd call.

I gael gwybodaeth am roi mainc neu goeden yn rhodd mewn parciau eraill yng Nghaerdydd ewch i Awyr Agored Caerdydd.

A ydych yn frwdfrydig am Barc Bute?

Ymunwch a Gyfeillion Parc Bute

Mainc Goffa

Mae rhoi sedd yn ffordd berffaith o ddathlu anwylyd neu goffáu carreg filltir a byddai hyd yn oed yn anrheg wych i briodas. Gallai hyn gynnwys plac i gofnodi eich hoff adegau. 

Gyda meinciau a seddi wedi’u gosod ym mhob rhan o’r parc, mae gennym lawer o leoliadau i ddewis o’u plith.

Mae’r cynllun yn rhoi mainc, plac a 3 thriniaeth o’r fainc i’r cwsmer am gyfnod o 10 mlynedd. Mae’r costau’n amrywio yn dibynnu ar arddull y fainc, deunydd plac ac a oes angen bae newydd. 

Mae Cynllun Seddi Rhodd ar agor ar hyn o bryd.  

Mae'r dogfennau canlynol yn cynnwys yr holl wybodaeth a ffurflen gais:

Pecyn Meinciau Rhodd Parc Bute

Cynllun Seddi Rhodd Parc Bute  T+A

Cynllun Seddi Rhodd Parc Bute - Cais  

 Neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. 

Coed

Mae rhoi coeden yn ffordd hyfryd o gadw'ch atgofion yn fyw neu i gofio digwyddiad mewn lleoliad naturiol syfrdanol. Gall teulu a ffrindiau fwynhau'r goeden yn rheolaidd a'i gwerthfawrogi gan y miloedd o ymwelwyr parc bob blwyddyn.

Coffáu rhywun annwyl neu ddigwyddiad arbennig trwy gysegru coeden yn yr arboretwm.


Nid yw cynllun 2023 wedi agor eto, am ffurflen archebu a phrisiau, cysylltwch â ni.

Treftadaeth fyw

Bu cyfraniadau gan ddau unigolyn a oedd yn dwlu ar Barc Bute yn helpu i sefydlu cychod gwenyn a chynorthwyo gwenwynwyr lleol, Nature’s Little Helpers, i fentora cyflogeion brwd y parc.

Gellir prynu mêl Parc Bute yn uniongyrchol o Ganolfan Addysg Parc Bute ac Ystafelloedd Te Pettigrew.

Rhagor am wenyn Parc Bute.

Some of Bute Parks Honey on Sale