Prosiectau

Ychwanegiadau i’r y Berllan Gymunedol

Helpwch ni i wella perllannau cymunedol newydd Parc Bute

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd i blannu perllannau cymunedol newydd ym Mharc Bute. Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu a’i arwain gan grŵp cymunedol gyda chymorth Cyfeillion Parc Bute.

Mae’r plannu’n dilyn ymgyrch dan arweiniad y gymuned a sefydlwyd yn sgil y fandaliaeth, a achosodd werth miloedd o bunnoedd o ddifrod.

Mae’r plannu’n dilyn ymgyrch dan arweiniad y gymuned a sefydlwyd yn sgil y fandaliaeth a ddigwyddodd ym Medi 2021, a achosodd werth miloedd o bunnoedd o ddifrod.

Y bwriad yw y bydd y safle llai yn darparu’r lleoliad delfrydol i gyflwyno ymwelwyr â’r parciau i fanteision perllannau a’u cyfeirio at y safle mwy.

Eich rhodd

Mae’r prosiect yn y cyfnod datblygu a chytunir ar yr union fanylion drwy ymgynghori.  Fodd bynnag, mae’r cynlluniau cychwynnol yn cynnig y dylai’r berllan gynnwys nifer o welliannau y bydd angen cyllid ychwanegol arnynt.

Bydd rhoddion cyhoeddus a wneir tuag at yr agwedd hon ar y prosiect yn debygol o ariannu un neu fwy o’r canlynol:

  • Cerflun deongliadol
  • Nodweddion chwarae
  • Gwaith celf deongliadol

Lleoliad

Bydd dwy berllan:

  • y brif un i’r gogledd o gaeau chwarae’r Gored Ddu

  • un lai gerllaw’r ‘Lawnt y Berllan’ hanesyddol