Cyfeillion Parc Bute

 

Pwy yw’r Cyfeillion a beth maen nhw'n ei wneud?

Mae Cyfeillion Parc Bute yn grŵp o drigolion sy'n dwlu ar Barc Bute ac yn ei fwynhau. Maent wedi ymrwymo i gadwraeth, defnydd hamdden i bawb a datblygiad anfasnachol y Parc.

Ewch i'w gwefan

Beth yw Amcanion y Cyfeillion?

Mae Cyfeillion Parc Bute yn gweithredu o dan gyfansoddiad yn unol â grwpiau "Cyfeillion" parciau tebyg eraill yng Nghaerdydd.

Nod y grŵp yw:

  • Codi proffil Parc Bute trwy hyrwyddo yn y gymuned leol ac ehangach.
  • Cynyddu bioamrywiaeth y Parc.
  • Hyrwyddo'r defnydd o'r Parc at ddibenion addysgol er budd y gymuned leol ehangach.
  • Gwneud y Parc mor hygyrch â phosib i bob grŵp ac unigolyn.
  • Amddiffyn y parc rhag ecsbloetio a dylanwad diangen sefydliadau corfforaethol.

Rhai o'n prosiectau a'n gweithgareddau

  • Arwyddbyst coed a byrddau gwybodaeth.
  • Staffio'r Ganolfan Ymwelwyr ar ddydd Sadwrn, gan ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr o Gaerdydd ac o bob cwr o'r byd.
  • Llwybrau Ceirw Nadolig am ddim i blant.
  • Ffeiriau Crefftau’r Gwanwyn, yr Haf a’r Nadolig o ansawdd uchel.
  • Cynhyrchu llyfr ar hanes y Parc i godi arian ar gyfer y Parc.
  • Sgyrsiau ac arddangosiadau yn yr ystafell gyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr.
  • Ymgyrchu ar faterion sy'n effeithio ar y parc.
  • Cadwraeth gyda Ceidwad y Parc.

Aelodaeth

Mae aelodaeth yn costio £10 y flwyddyn ac mae wedi'i hanelu at unrhyw un sy'n credu y dylid gofalu am Barc Bute a'i gefnogi fel lle diogel i’w fwynhau a gwneud gweithgareddau ynddo i bobl Caerdydd.

Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost i contact@buteparkfriends.org