Rheoli Parciau

Enillodd Parc Bute y statws Baner Werdd am y tro cyntaf yn 2008 ac mae wedi ei chynnal bob blwyddyn ers hynny.

Lleolir y tîm yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute ac mae’n darparu swyddogaethau a gwasanaethau i gefnogi’r canlynol:

Cwrdd â Thîm Safle Parc Bute

 

Julia Sas

Rheolwr Parc Bute

Meriel Jones

Swyddog Addysg

Jenny Bradley

Rheolwr Dros Dro Parc Bute

Bethan Owens Jones

Prentis Marchnata Corfforaethol

Keelan Powell

Ceidwad Parc Bute

Calum Daniels

Ceidwad Parc Bute

Mae Adran y Parciau yn rheoli swyddogaethau eraill fel y blanhigfa, coedyddiaeth, cynnal a chadw’r tiroedd, cynnal a chadw’r caeau chwaraeon a'r gwasanaeth ceidwaid parciau trefol ar sail dinas gyfan. Y Gwasanaethau Cymdogaeth sy’n rheoli sbwriel a chasglu gwastraff.

Gwobr y Faner Werdd a Chynllun Rheoli Parc Bute

Swyddogaeth bwysig arall sydd gan dîm y safle yw cynhyrchu Cynllun Rheoli Parc Bute, sy'n un o ofynion cynllun y Faner Werdd.

Enillodd Parc Bute y statws Baner Werdd am y tro cyntaf yn 2008 ac mae wedi ei chynnal bob blwyddyn ers hynny.

Cymerwch olwg ar y fersiwn gyfredol o gynllun rheoli'r parc

Dyfarniadau rheoli a dderbyniwyd gan Barc Bute

Mae Parc Bute yn falch o fod wedi cael ei gydnabod am ei safonau rheoli uchel ar draws nifer o feysydd.

 

EnwDyddiad derbynNodiadauDolen at ragor o wybodaeth
Gwobr y Faner Werdd2008 – cyfredolTrwy’r safleGwobr y Faner Werdd
Lefel 4 y Ddraig Werdd2013 – cyfredolCanolfan Ymwelwyr Parc ButeGwobr y Ddraig Werdd
Achrediad Safle Treftadaeth Werdd2014 – cyfredolTrwy’r safleAchrediad Safle Treftadaeth Werdd
Y Goriad Gwyrdd2019 – cyfredolCanolfan Ymwelwyr Parc ButeY Goriad Gwyrdd
Green Flag

Os hoffech gysylltu â'r tîm rheoli ar y safle, e-bostiwch parcbute@caerdydd.gov.uk