Gwirfoddoli gyda’r Ceidwaid 14th Rhagfyr , 2024

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Helpwch ni i gynnal a gwella cynefinoedd Parc Bute. Ymunwch â’r Ceidwaid ac Aelodau eraill o’r Cyfeillion ar raglen waith Hydref/Gaeaf Parc Bute.

Manylion:

–  Rhaid i rai dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
– Cwrdd am 10.30 wrth y bwrdd ping pong o flaen Canolfan Ymwelwyr Parc Bute.
– Yn gorffen oddeutu 12:30.
– Bydd Ceidwaid y Parc yn darparu unrhyw offer sydd ei angen.
– Gwisgwch ddillad priodol (cot gwrth-ddŵr, trowsus hir a llewys hir, het haul a sgrin haul) ac esgidiau (bŵts cerdded neu welîs)


Dyddiadau:

  • Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr.

Cofrestrwch heddiw trwy e-bostio admin@newfriendsofbutepark.co.uk neu trwy Eventbrite


Prynu tocynnau ar-lein

Manylion

14th Rhagfyr , 2024 - 14th Rhagfyr , 2024 10:30 am - 12:30 pm

Lleoliad

Y ganolfan ymwelwyr

what3words: racing.wants.having
Cyfarwyddiadau parc Bute