Ystafelloedd Te Pettigrew

Mae’r ystafell de hon yn null yr oes a fu i’w chael ym mhen deheuol y parc yn adeilad hardd Porth y Gorllewin ar Stryd y Castell. Y tu mewn gallwch chi ymlacio a mwynhau yfed te mewn amgylchedd cain neu, os bydd yn well gennych, gallwch chi eistedd y tu allan ar y teras gyda golygfeydd hyfryd dros Afon Taf.

Mae Ystafelloedd Te Pettigrew yn cynnig bwydlen ginio gynhwysfawr sy’n cynnwys ‘te’r prynhawn’. Mae teisennau bendigedig sy’n cael eu pobi’n ddyddiol ar y safle, dewis gwych o de dail rhydd a choffi amheuthun sy’n cael ei rostio’n lleol.

Oriau agor:

  • 10am – 5.30pm Yn ystod yr wythnos
  • 10am – 6pm Penwythnosau

Mae toiledau (gan gynnwys i bobl anabl a chyfleusterau newid cewynnau) ar gael yma.

Adfer Porth y Gorllewin (gan gynnwys Ystafelloedd Te Pettigrew)

Adeiladwyd mynedfa fawreddog yr ystâd – Porth y Gorllewin – rhywbryd ar ôl 1860 ac fe’i defnyddid yn wreiddiol fel llety i gyflogeion y Castell. Ar ôl i’r parc gael ei roi i bobl Caerdydd ym 1947, roedd yn cael ei defnyddio ar gyfer cyflogeion y parc a’r castell ac fel ystafell fwyta i geidwaid y parc.

Ar ôl adfer yr adeilad rhestredig, agorwyd Ystafelloedd Te Pettigrew yn 2012.

Mae’r teils Fictoraidd hardd wedi’u hadfer o safle hanesyddol Brodordy y Brodyr Duon wedi’u gosod ar lawr yr ystafelloedd te.