Llwybr Hanes – History Points (codau QR)

Gallwch ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth, hen ffotograffau, darluniau a mapiau o Barc Bute trwy gyrchu ein tudalennau ar wefan HistoryPoints.org neu, os ydych yn y parc, trwy ddefnyddio darllenydd codau QR ar eich teclyn symudol.

Mae placiau bach wedi’u gosod ar hyd a lled y parc gyda dolenni codau QR i gynnwys ar y we.

Gellir lawrlwytho darllenyddion QR am ddim o’ch ‘app store’. I ddefnyddio’r codau, rydych yn dangos/sganio’r cod â chamera eich teclyn a bydd yn mynd â chi ar unwaith i’r we-dudalen berthnasol.

Os bydd yn well gennych, gallwch wrando ar recordiad sain o bob tudalen, ac mae cyfieithiadau hefyd ar gael mewn ieithoedd eraill.

Mae’r llwybr yn aros yn y mannau canlynol:

  • Wal yr Anifeiliaid (sticer ar y bwrdd dehongli)
  • Porth y Gorllewin (plac ar y ramp)
  • Afon Taf (plac ar y safle bysus dŵr)
  • Hen Ffordd Ddynesu’r Gorllewin (plac ar bostyn pren yng ngwaelod y border blodau)
  • Safle Brodordy y Brodyr Duon (sticer ar y bwrdd dehongli)
  • Caffi’r Tŷ Haf (sticer ar gornel y caffi)
  • Planhigfa’r Castell a’r Hen Ardd Furiog (plac ar bostyn pren ger Gardd Stuttgart)
  • Drws y Bobl (plac ar wal yng nghwrt y caffi)
  • Pont y Pysgotwr (plac ar y bont)
  • Pont yr Arglwyddes Bute (plac ar y bont)
  • Cafn y Felin (sticer ar y postyn ffens)
  • Rhodfa Ginco a Stablau’r Castell (sticer ar y bin)
  • Porth Gogleddol Castell Caerdydd (plac ar y postyn gât metel)
  • Porth Deheuol Castell Caerdydd (plac ar y balwstrad pren)
  • Safle traphont a loc y gamlas, Heol y Gogledd, Caerdydd
  • Hen bont y gamlas, Heol y Gogledd, Caerdydd

Mae fersiwn o’r Llwybr Codau QR ar gael i blant hefyd y gellir ei lawrlwytho.  Yna gallwch ddilyn fersiwn fer o’r llwybr a chasglu llythrennau cudd i ddatgelu gair cudd.