Llwybrau Stori

Dewch i chwarae, joio a dilyn llwybr stori’r plant drwy Barc Bute.  Mae 5 stop ar hyd y daith…

Swyn y Wrach

Beth sydd yn digwydd ym Mharc Bute gyda’r nos, pan mae’r pobl feidrol wedi mynd i’r gwely?

Pan fydd merch yn mynd ar goll ymysg y coed, mae hi’n cwrdd â chreaduriaid y parc, ac yn ei chael ei hun o dan swyn y wrach. A fydd hi’n bosib iddi hi dorri’r swyn cyn i’r haul godi, neu a fydd hi o dan hud y parc am byth?

Cydweithrediad gyda Caerdydd sy’n Dda i Blant