Dôl yr Ystlumod

Crëwyd dôl y blodau gwyllt yn 2017 i gynnig cynefin amrywiol a deniadol i bryfed a pheillwyr ac i fod yn ffynhonnell fwyd i annog cynnydd ym mhoblogaeth yr ystlumod. Mae hefyd yn cynnal mamaliaid ac amffibiaid bach gyda chuddfannau, bwyd a deunydd nythu.

Wedi’i hariannu gan gynllun ‘Bagiau Cymorth’ Tesco ac yn cynnig amrywiaeth eang o flodau gwyllt a gweiriau Prydeinig brodorol megis bysedd y cŵn, y pabi Cymreig a byddon chwerw, mae dôl y blodau gwyllt yn adnodd arbennig ac yn darparu toreth o baill, neithdar a bwyd ar ffurf larfau ar gyfer amrywiaeth o bryfed.

Mae 18 rhywogaeth o ystlumod yn y DU. Ceir o leiaf 9 ym Mharc Bute ac ar lan Afon Taf.

Sef:

  • Yr ystlum lleiaf.
  • Yr ystlum lleiaf soprano
  • Ystlum lleiaf Nathwsiws
  • Ystlumod blewog
  • Ystlumod Brandt
  • Ystlumod y dŵr
  • Y serotin
  • Ystlumod
  • Ystlumod hirglust brown.

Creaduriaid y nos yw ystlumod felly yr amser gorau i’w gweld nhw yw adeg y cyfnos. Cadwch lygad am ddigwyddiadau a theithiau cerdded arbennig ynglŷn ag ystlumod a gynhelir ym Mharc Bute trwy gydol y flwyddyn.