Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd 2024 20th Mehefin, 2024

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

20 Mehefin – 27 Gorffennaf

Gerddi Sophia Caerdydd

Swyddfa Docynnau: 0333 666 3366

www.cardiffopenairtheatrefestival.co.uk

Croeso i Ŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd:  Everyman 24.  Rydym yn falch iawn o gynnig digwyddiad theatrig sy’n addas at chwaeth pawb, o Shakespeare, i Shrek

Tocynnau ar werth nawr!

The Tempest

Dydd Iau 20 Mehefin – dydd Gwener 28 Mehefin

Gan bylu’r llinellau rhwng realiti a rhith, mae criw o bobl sydd wedi’u llongddryllio yn llywio stori am hudoliaeth, dial a maddeuant.

Abba Revival

Dydd Sul 23 Mehefin

Sioe ganu a dawnsio band teyrnged ABBA arobryn – dathliad o bopeth ABBA! – teyrnged â choreograffi llawn i un o’r bandiau gorau erioed.

Frankie’s Guys

Dydd Sadwrn 29 Mehefin

Profwch sain fythgofiadwy Frankie Valli and the Four Seasons sy’n cael ei hadfywio gan fand teyrnged gorau’r DU. 

Stand-Yp yn y Parc

Dydd Sul 30 Mehefin

Yn ôl am y chweched flwyddyn, bydd un o uchafbwyntiau’r ŵyl ‘Stand-Yp yn y Parc’ yn gwneud i chi chwerthin nerth eich pennau! Wedi’i gyflwyno gan feistr hwyl a sbri, Clint Edwards, byddwch yn barod ar gyfer rhestr gyffrous o sêr comedi fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y gwanwyn hwn.

One Man Two Guvnors

Dydd Iau 4 Gorffennaf – Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf

Yn gyflym, gwyllt a doniol iawn, dyma sioe hynod lwyddiannus yn y West End a ddechreuodd yn y Theatr Genedlaethol gyda’r comedïwr James Corden yn chwarae’r brif ran!

Romeo & Juliet – Theatr Ieuenctid Everyman

Dydd Sul 7 Gorffennaf – Dydd Sul 21 Gorffennaf

Romeo and Juliet yw’r stori glasurol o fachgen sy’n cwrdd â merch, ond mae eu teuluoedd wedi ymwreiddio mewn casineb ac atgasedd tuag at ei gilydd, a phan fydd eu byd yn gwrthdaro mae popeth yn mynd ar chwâl.

Sesiwn Holi’r Garddwyr gyda Terry Walton

Dydd Gwener 12 Gorffennaf

Prynhawn gydag un o hoff broffwydi garddio’r genedl – Terry Walton o BBC Radio 2, sy’n enwog am ei ddarllediadau rheolaidd o’i randir yng Nghwm Rhondda. Dysgwch fwy am ei fywyd, ei ddiddordebau a’i yrfa radio, gan gynnwys rhai o uchafbwyntiau gweithio gyda Syr Terry Wogan a Jeremy Vine.

Guys and Dolls

Dydd Iau 18 Gorffennaf – Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf

A fydd Adelaide o’r diwedd yn cael ei dyn i’w phriodi? A fydd y Chwaer Sarah yn gweld y tu hwnt i werth enwol gamblwr? A fydd y Cadfridog Cartwright yn caniatáu i’w hun greu helynt?

Shrek Jr

Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf – Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf

Mae hoff fwgan pawb yn ôl! Mae SHREK, The Musical Jr. yn sioe lwyfan ddoniol a fydd yn swyno’r teulu cyfan, yn seiliedig ar y ffilm lwyddiannus a enillodd Oscar a’r sioe Broadway anhygoel.

Cyfeiriad Gwe: www.cardiffopenairtheatrefestival.co.uk

Gŵyl – pob digwyddiad https://www.ticketsource.co.uk/cardiffopenairtheatrefestival


Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein

Manylion

20th Mehefin, 2024 - 27th Gorffennaf , 2024 12:00 pm - 11:00 pm

Lleoliad

Gerddi Sophia

what3words: deny.round.safety
Cyfarwyddiadau parc Bute