Brodordy y Brodyr Duon

Mae Brodordy y Brodyr Duon yn heneb gofrestredig ac yn adeilad rhestredig sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif. Mae’n un o’r safleoedd mynachlogydd prin lle mae cynllun llawn yr adeilad yn hysbys.

Ym 1536, trefnodd y Senedd i gau mynachlogydd, abatai ac addoldai eraill yng Nghymru a Lloegr. Roedd y brodordy’n cael ei feddiannu am 288 o flynyddoedd cyn cael ei ddiddymu ym 1536 pan orchmynnodd y Senedd i’r mynachlogydd, yr abatai a’r addoldai eraill yng Nghymru a Lloegr gael eu cau.

Dymchwelwyd yr adeiladau ym 1538 a diflannodd y sylfeini o dan bridd a llystyfiant.

Cloddiwyd y safle ym 1887 ac fe’i troswyd yn nodwedd mewn gardd addurnol. Roedd llawr y brodordy wedi’i orchuddio gan deils wedi’u hatgynhyrchu ar sail y dyluniadau gwreiddiol.

Rhoddwyd y safle i bobl Caerdydd ym 1947 a dirywio’n raddol oedd ei hanes wedi hynny – yr unig eithriad oedd pan wnaed gwaith ym 1977 gan y Gymdeithas Fictoraidd i dynnu’r teils llawr Fictoraidd er mwyn eu cadw’n ddiogel.

Cafodd y cynllun Fictoraidd ei adfer yn rhannol ym 2013 gan ddefnyddio brics wedi’u hadfer i gydweddu â’r rhai gwreiddiol. Mae cerrig y trothwyon wedi’u harysgrifio gydag enwau’r ystafelloedd y byddent wedi arwain iddynt yn yr hen frodordy. Mae gorchudd tywyrch yn helpu i gael gwared ar ddŵr a diogelu’r gwaith brics rhag difrod gan y rhew.

Cafodd y teils llawr (Fictoraidd) addurnol a oedd i’w gweld ar draws y safle Fictoraidd eu gosod yn Ystafelloedd Te Pettigrew yn ystod gwaith i adfer Porth y Gorllewin.