Polyn Siarter Coed

Mae’r Siarter Coed, Coedwigoedd a Phobl yn nodi’r egwyddorion ar gyfer cymdeithas lle gall pobl a choed gyd-fyw yn gadarn. Lansiwyd y Siarter Coed yng Nghastell Lincoln ar 6 Tachwedd 2017, 800 mlwyddiant Siarter y Fforest a ddaeth i fod yn 1217. Mae’r Siarter Coed wedi’i gwreiddio mewn mwy na 60,000 o ‘straeon coed’ a gasglwyd gan bobl o bob cefndir ledled y DU.

A view of the Tree Charter pole

Crëwyd 11 polyn y Siarter Coed gan Ystâd y Goron o dderw wedi ei dyfu ym Mhrydain, a cherfiwyd gan yr artist Simon Clements yng Nghanolfan Sylva Wood yn Abingdon.

Lleoliadau Polion Egwyddorion y Siarter Coed:

  • Castell Lincoln (Polyn Hyrwyddwyr y Siarter Coed)
  • Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl – Iechyd a Lles
  • Parc Bute, Caerdydd – y Celfyddydau a Threftadaeth
  • Coedwig Belvoir, Belfast – Cynllunio
  • Lang Craigs, Dumbarton – Ymdopi â Bygythiadau
  • Fforest Grizedale, Ardal y Llynnoedd – Yr Amgylchedd / cryfhau tirweddau
  • Fforest Sherwood, Nottingham – Amddiffyn
  • Parc Fforest Dinas Manceinion – Pobl a Mynediad i Goed
  • Fferm Pound, Suffolk – Natur
  • Canolfan Sylva Wood, Abingdon – Defnyddioldeb a Bywoliaethau
  • Low Burnhall, Durham – Plannu

Diwrnod Cenedlaethol y Siarter Coed

Bydd Diwrnod y Siarter Coed yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed yn flynyddol. Mae hwn yn ddathliad blynyddol o goed i nodi dechrau tymor plannu coed y gaeaf, wedi ei drefnu gan Gyngor y Coed.  Mae cymunedau, ysgolion, sefydliadau ac unigolion yn dathlu gyda gweithgareddau a digwyddiadau sy’n nodi ac yn adfywio’r berthynas rhwng pobl a choed.