Gorsaf Dywydd

Tan 1977 bu gorsaf dywydd swyddogol Caerdydd ym Mhen-y-lan ac roedd gorsaf dywydd syml ym mhlanhigfa Parc Bute.  Yn 1976, penderfynwyd y byddai Parc Bute yn lleoliad gwell ar gyfer prif orsaf Caerdydd.

Mae gwybodaeth feteorolegol gan Barc Bute wedi bod yn cael ei hanfon yn ôl i’r Swyddfa Dywydd ers Medi 1977.   Yn wreiddiol, roedd data yn cael ei roi ar ffurflenni a argraffwyd ymlaen llaw a’u dychwelyd drwy’r post unwaith yr wythnos. 

Mae’r orsaf feteorolegol yn ardal y blanhigfa ac nid yw’n hygyrch i’r cyhoedd.  Mae’r orsaf bresennol yn rhan o rwydwaith y Swyddfa Dywydd o fwy na 270 o orsafoedd tywydd awtomatig sy’n adrodd cyfuniad o arsylwadau tywydd fesul awr (arsylwadau synoptig) yn ogystal â chrynodebau dyddiol o’r tywydd (arsylwadau hinsawdd).