Gardd Salad Caerdydd

Mae Gardd Salad Caerdydd yn fenter gymdeithasol ddielw sy’n gweithio gyda grwpiau ac unigolion difreintiedig o Gaerdydd i dyfu a gwerthu dail salad wedi’u torri’n ffres.  Mae’r tîm yn defnyddio tŷ gwydr ym Mhlanhigfa Parc Bute i dyfu’r cynnyrch.

Mae amrywiaeth o ddail salad yn cael eu tyfu drwy gydol y flwyddyn i’w cynaeafu’n gyson. Mae’r saladau dail bach cymysg hyn yn cael eu casglu yn ôl y gofyn, ac maent o ansawdd uchel ac yn unigryw. Maent ar gael i fwytai Caerdydd.

Mae hwn yn fusnes sy’n wirioneddol gynaliadwy; mae’r lleoliad canolog yn golygu y gall pobl fanteisio ar y project heb fod angen defnyddio car a dosberthir y saladau i fwytai Cardiff ar feic.

Mae’r Ardd Salad yn cael ei defnyddio i gynnal sesiynau garddio yn addysgu pobl am fwyd a datblygu sgiliau garddwriaethol, yn gweithio’n anuniongyrchol ar fagu hyder, gwella sgiliau cymdeithasol, iaith a hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol. Mae’r tîm yn gweithio gyda cheiswyr lloches, ffoaduriaid ac unigolion â phroblemau iechyd meddwl, ond hefyd gyda grwpiau difreintiedig o’r ddinas ei hun.