Mae’r drws derw sy’n arwain at iard Canolfan Addysg y parc a Chaffi’r Ardd Gudd yn gampwaith celf. Neu, i fod yn fanwl, nifer o ddarnau o gelf. Ar ddechrau 2011, gwahoddwyd cerfwyr pren amatur a phroffesiynol i gyflwyno eu dyluniadau i baneli’r drws, a fyddai’n adlewyrchu treftadaeth gyfoethog y parc.
Dyluniwyd prif strwythur y drws, gan gynnwys y bachau haearn trymion, gan y pensaer o Gaerdydd, Michael Davies. Neilltuwyd naw panel sgwâr i enillwyr y gystadleuaeth gerfio. Ym mis Chwefror 2011, casglodd pawb ar y rhestr fer ddarn o dderw 23cm x 28cm a rhoddwyd mis iddynt gwblhau eu darn.

Yna dangoswyd y darnau mewn arddangosfa dros dro wrth i aelodau’r cyhoedd bleidleisio dros eu ffefrynnau. Yna cafodd y darnau buddugol eu hymgorffori i’r drws gan of a saer lleol. Gadewir i’r drws dreulio’n naturiol, ac mae bellach marciau adwaith cemegol rhwng tanin y derw a haearn y bachau. Mae’n cyflwyno nifer o dirnodau a straeon coll.
Fe’i gosodwyd yn ofalus ym mis Awst 2011, gan fod yn rhan bwysig o seremoni agor y ganolfan hamdden ym mis Hydref 2011.


Manylion
Ewch i'r wefanCyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau Parc ButeAtyniadau
- Drws y Bobl
- Castell Caerdydd
- Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
- Llwybrau Stori
- Taith Gweithgareddau Natur
- Gardd Salad Caerdydd
- Gorsaf Dywydd
- Polyn Siarter Coed
- Taith Antur Bywyd Gwyllt
- Y ganolfan ymwelwyr
- Llwybr Hanes – History Points (codau QR)
- Brodordy y Brodyr Duon