Heddiw, mae Meithrinfeydd Parc Bute yn feithrinfa gynhyrchu weithredol ac yn dyfwr arbenigol. Rydym yn magu miloedd o blanhigion bob blwyddyn o hadau, planhigion plwg a thoriadau ar gyfer parciau Caerdydd, canol y ddinas a basgedi crog.
Masnach a chyfanwerthu
Rydym yn cyflenwi canolfannau garddio, manwerthwyr, tirlunwyr, cynghorau a busnesau. Mae ein hamrywiaeth yn cynnwys planhigion pot tymhorol a Nadoligaidd, planhigion gwely ar gyfer y gaeaf, y gwanwyn a’r haf, basgedi crog, llwyni a phlanhigion lluosflwydd. Rydym yn tyfu i’ch manyleb, eich niferoedd a’ch dyddiad.
Adeiladwyd gardd furiog yn lle planhigfa wreiddiol yr ystâd ddechrau’r 1900au. Roedd yr Ardd Furiog yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ffrwythau a llysiau ar gyfer y teulu Bute pan oeddent yn aros yn y castell.
Crëwyd border newydd hefyd sy’n ymestyn ar hyd y wal frics coch brydferth. Mae’r border yn cynnwys rhosod, planhigion border cymysg â diddordeb tymhorol ar gyfer peillwyr a rhai rhywogaethau a oedd wedi plannu gan Pettigrew o fewn y parc.
Mae Planhigfa Parc Bute wastad wedi bod yn brysur ac yn llawn stoc planhigion – dyma rai Parciau Caerdydd yn y 1960au:
Mae’r blanhigfa’n cael ei defnyddio o hyd, gan dyfu miloedd o blanhigion gwely a chyflenwi planhigion a choed ar draws parciau Caerdydd a chanol y ddinas.
Ceir mwy o wybodaeth yma am blanhigion sydd ar werth yn y blanhigfa.
Mae dail salad ffres blasus yn cael eu tyfu a’u gwerthu trwy gydol y flwyddyn gan Ardd Salad Caerdydd, menter gymdeithasol nid er elw o fewn Planhigfeydd Parc Bute.
Nod y project yw datblygu sgiliau garddwriaethol, gwella sgiliau cymdeithasol a magu hyder ac mae’n gweithio gyda cheiswyr lloches, ffoaduriaid ac unigolion â salwch meddwl.







