Am wybodaeth am ddiwrnodau gwaith: https://www.instagram.com/buteparkcommunityorchard/
Mae dau leoliad perllan: y brif un i’r gogledd o gaeau chwarae’r Gored Ddu, ac un llai gerllaw lawnt hanesyddol y berllan.
Caiff y berllan ei hysbrydoli gan amrywiaethau treftadaeth Cymru a bydd â choed sydd o fudd i’r gymuned ac i fywyd gwyllt.
Bellach yn fan poblogaidd ar gyfer picnics a digwyddiadau cymunedol, roedd unwaith yn safle perllan a oedd yn cyflenwi cynnyrch ffres i deulu Bute a’u gwesteion yng Nghastell Caerdydd.
Y bwriad yw y bydd y safle llai hwn, y tu allan i’r ‘Ardd Furiog’ sy’n gartref i Gaffi’r Ardd Gudd, Canolfan Ymwelwyr Parc Bute, Siop Planhigion a Phlanhigfeydd, yn lleoliad delfrydol i gyflwyno ymwelwyr â’r parc i fanteision perllannau a’u cyfeirio i’r safle mwy.
Mae coed ffrwythau brodorol yn yr berllan, gan ddychwelyd perllan i Barc Bute am y tro cyntaf ers iddo gael ei drosglwyddo i bobl Caerdydd gan deulu Bute yn 1947.

Plannwyd y coed cyntaf yma ar y 30ain o Dachwedd 2022. Mae’r gwahanol goed a ddewisir yn cynnwys:
- Coed afalau Malus domestica ‘afalau rhesog Ribston’ (yn lle ‘Hawthornden’)
- Coed gellyg ‘Pitmaston Duchess’
- Coed eirin gwyrdd ‘Hen eirin gwyrdd’
- Coed afalau ‘Beauty of Boskoop’ (yn lle ‘Beauty of Hants’)
- Coed ceirios ‘Ceirios duon’
- Coed eirin Eirin cochion
- Coed gellyg Beurre Hardy
- Coed ceirios Rivers Early (yn lle Bottler)



Plannwyd coed ar brif safle’r berllan ar 26 Chwefror 2024 ac 1 Mawrth 2025. Roedd y coed cyntaf a blannwyd yn cynnwys:
- Coeden Afalau Surion Gŵyr + Uchelwydd Malus sylvestris + Viscum album
- Coeden afalau Malus domestica amr. Afalau rhytgoch Egremont
- Coeden afalau Malus domestica amr. Peasgood Nonsuch
- Coeden afalau Malus domestica amr. Golden Spire
- Coeden afalau Malus domestica amr. Eginblanhigyn Bramley Gwreiddiol
- Coeden ellyg Pyrus communis amr. Williams Bon Chretien
- Coeden ellyg Pyrus communis amr. Doyenne Du Commice
- Coeden ellyg Pyrus communis amr. Pitmaston Duchess
- Coeden geirios du Prunus avium amr. Bottler
- Coeden geirios coch Prunus cerasus amr. Ceirios Duon
- Coeden geirios du Prunus avium amr. Mawr Duon
- Coeden eirin Prunus domestica amr. Pershore Yellow Egg
- Coeden eirin gwyrdd Prunus domestica is-rh. italica amr. Hen goeden eirin gwyrdd
- Coeden eirin bwlas Prunus domestica is-rh. insitia amr. Shropshire Prune
- Coeden eirin gwyrdd Prunus domestica is-rh. italica amr. Count Althans
- Coeden eirin Prunus domestica amr. Eirin cochion



Manylion
Cyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau Parc ButeAtyniadau
- Camlas Gyflenwi’r Dociau
- Coedwigoedd Y Goredd Ddu
- Taith Antur Bywyd Gwyllt
- Border Blodau
- Dôl yr Ystlumod


