Brodies on the Wall

Mae Brodies yn gwmni coffi annibynnol teuluol sydd wedi’i wreiddio ym mharciau Caerdydd; gan weini coffi gwych a bwyd da syml o fannau croesawgar sy’n teimlo fel rhan o rythm eich bywyd pob dydd.

Fel y drydedd ran a’r rhan olaf o daith Brodies Coffee Co., roedd The Wall ym Mhorth y Gorllewin bob amser yn mynd i fod yn rhywbeth arbennig. Ar ôl cyfnod o adnewyddu, gwnaethom agor y drysau i’r cyhoedd ym mis Gorffennaf 2025. 

Mae wedi bod yn daith a hanner, ond gyda phob mis sy’n mynd heibio rydyn ni’n teimlo’n fwy cartrefol.  

Diolch i’w leoliad canolog, mae The Wall yn siop goffi ar gyfer coffi gwyn fflat wedi’i fragu’n ffres, neu frecwast mewn bap, wedi’i archebu’n arbennig, ar y ffordd i’r gwaith neu’r dosbarth. Oes gennych chi amser i eistedd am ychydig? Yna gwnewch eich hun yn gyfforddus, a gwyliwch y byd yn mynd heibio – gallwch ddewis o’n seddi i lawr y grisiau gyda bwrlwm y bar, gofod tawel i fyny’r grisiau sy’n edrych dros Barc Bute, neu ein seddi awyr agored niferus – perffaith ar gyfer diwrnodau heulog yn y ddinas.

Coffi gwych – Bwyd da – Wynebau cyfarwydd – Bob dydd.

Beth sydd ar y fwydlen?

Diodydd a Phaneidiau: 

  • Bwydlen espresso lawn gan ddefnyddio ein coffi arbenigol wedi’i rostio’n lleol ein hunain.
  • Opsiynau diodydd iâ.
  • Coffi tymhorol wedi’i hidlo.
  • Ystod o goffi arbennig sy’n amrywio ac sy’n newid gyda’r tymhorau.
  • Mae diodydd meddal, cartonau plant a smwddis wedi’u cymysgu’n ffres ar gael trwy gydol y flwyddyn. 
  • Mae ein lemonêd cartref unigryw ar gael yn ystod y misoedd cynhesach.

Teisennau a Danteithion wedi’u Pobi:

Mae ein pobydd mewnol yn unigryw i The Wall – Annie, mae ganddi reolaeth greadigol lwyr dros y cownteri ac mae’n amrywio’r dewis yn rheolaidd. Gallwch ddisgwyl unrhyw beth o frownis unigryw a theisennau torth trawiadol, i sgons ffres a Bara Brith – perffaith ar gyfer y te hufen blasus hwnnw.

Opsiynau sawrus:

Mae ein tîm cegin yn gweini ein bwydlen boblogaidd brecwast mewn bap, gyda digon o opsiynau i gynyddu “eich pentwr”. Rydym hefyd yn gweini ystod o frechdanau wedi’u tostio syml, ochr yn ochr â brechdanau mwy anturus ac arbennig y cogydd, a chawl cartref tymhorol.

Mae popeth ar gael bwyta i’w fwyta y tu mewn neu fel tecawê – perffaith ar gyfer y picnics hynny ym Mharc Bute.

Pam ei alw’n “Brodies on the Wall”?

Un o bethau mwyaf poblogaidd Caerdydd yw Wal yr Anifeiliaid sy’n rhedeg ar hyd Stryd y Castell rhwng Castell Caerdydd a Phorth y Gorllewin. Yn cynnwys 15 o gerfluniau anifeiliaid unigryw, pob un â’i bersonoliaeth ei hun, mae’n atyniad y mae’n rhaid i ymwelwyr, a phobl leol fel ei gilydd, ei weld. I anrhydeddu’r tirnod eiconig hwn, gwnaethom gomisiynu murlun pwrpasol gan yr artist lleol o Gaerdydd, Matt Joyce, sy’n dathlu’r cydweithrediad annhebygol rhwng y Pensaer William Burges a Brodies Coffee Co. 

Os oes gennych ddiddordeb yn hanes yr ardal, mae gennym fwrdd gwybodaeth i fyny’r grisiau sy’n manylu ar nifer o nodweddion hanesyddol y Wal:

  • Adeilad Porth y Gorllewin
  • Y Teils Llawr Fictoraidd Addurniadol
  • Y Seiliau
  • Wal yr Anifeiliaid

Sut bynnag, a phryd bynnag y byddwch chi’n ymweld, byddwch bob amser yn derbyn croeso cynnes gennym ni yn Brodies.

Oriau agor 

Llun – Gwener: 8:30 – 5pm Penwythnosau: 9am – 5pm

Darganfyddwch fwy

  • www.brodiescoffee.co.uk
  • Ymholiadau Cyffredinol: hello@brodiescoffee.co.uk
  • Ymholiadau am ddigwyddiadau: events@brodiescoffee.co.uk

Hanes adeilad Porth y Gorllewin 

Adeiladwyd mynedfa fawreddog yr ystâd – Porth y Gorllewin – rhywbryd ar ôl 1860 ac fe’i defnyddiwyd yn wreiddiol fel llety i gyflogeion y Castell. Ar ôl i’r parc gael ei roi i bobl Caerdydd ym 1947, roedd yn cael ei defnyddio ar gyfer cyflogeion y parc a’r castell ac fel ystafell fwyta i geidwaid y parc.  

Ar ôl adfer yr adeilad rhestredig, agorwyd Ystafelloedd Te Pettigrew yn 2012, cyn newid i Brodies on the Wall yn 2025. 

Mae’r teils Fictoraidd hardd a oedd wedi’u hadfer o safle hanesyddol Brodordy’r Brodyr Duon wedi’u gosod ar lawr yr ystafelloedd te.