Afon Taf

Mae Afon Taf yn 64 km o hyd ac yn cael ei ffurfio yng Nghefn-coed-y-cymer ym Merthyr Tudful lle mae afonydd Taf Fechan a Thaf Fawr yn ymuno.

Mae’r afon yn llifo o ogledd y ddinas i’r de, gan gyrraedd Caerdydd yn Ffynnon Taf ac ymlwybro i’r de trwy Fferm y Fforest, Parc Hailey a Pharc Bute, yna trwy’r ddinas i Fae Caerdydd.  

Yng nghanol y 1800au, dyfeisiodd Isambard Kingdom Brunel gynlluniau i ddargyfeirio Afon Taf i’r gorllewin, draw o’i hen gwrs o amgylch Castell Caerdydd. Mae’r afon bellach yn llifo wrth ymyl Parc yr Arfau Caerdydd a Stadiwm Principality.  Roedd hefyd yn galluogi adeiladu Gorsaf Caerdydd Canolog mewn ardal lle roedd llifogydd wedi bod yn gyffredin.

Roedd Afon Taf yn arfer bod yn llygredig iawn oherwydd y diwydiant ar hyd ei glannau. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ansawdd y ddŵr wedi gwella ac mae’n dod yn un o’r afonydd gorau yng Nghymru o ran eogiaid a brithyllod.

Mae’r afon yn bwysig ar gyfer pysgod ymfudol, dyfrgwn, adar dŵr a llystyfiant glan afon ac mae’n goridor bywyd gwyllt o bwys mawr.  Mae ystlumod, dyfrgwn, eogiaid yr Iwerydd, brithyllod, nadroedd y glaswellt a gleision y dorlan ymhlith y rhywogaethau amrywiol sydd wedi’u nodi yn SoBCN (Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur) Afon Tawe a’i chyffiniau.