Wal yr Anifeiliaid

Ceir yr olygfa orau o Wal yr Anifeiliaid wrth ffin ddeheuol y parc o Stryd y Castell.

Dechreuwyd cerfio’r anifeiliaid ddiwedd y 1880au. Rhoddodd y pensaer William Frame fywyd i’r wal ar sail brasluniau gan y pensaer William Burges a gyflogwyd gan y 3ydd Ardalydd Bute.

Adeiladwyd y wal wreiddiol yn y 1890au yn uniongyrchol y tu allan i’r castell. Roedd yr anifeiliaid gwreiddiol yn cynnwys pâr o lewod yn dal tarianau, llewes, lyncs, arth, morlew, pâr o epaod ac udfil. Gallwch chi wahaniaethu’r rhain rhag eu cefndryd diweddarach oherwydd bod ganddynt lygaid gwydr.

Symud wyd y wal i orllewin y castell ym 1923 er mwyn ehangu Heol y Dug, ac ychwanegwyd chwe anifail arall. Y chwe anifail ychwanegol oedd y fwltur, yr afanc, y llewpart, y pâr o racwniaid, y pelican a’r morgrugysor.

Gwnaethpwyd modeli o bob anifail i’w cymeradwyo gan yr Arglwydd Bute a chafodd dau ohonynt, gan gynnwys morfarch, eu gwrthod.

Yn 2010, fel rhan o Broject Adfer y parc, cafodd y wal ei glanhau’n gynhwysfawr ac atgyweiriwyd gwaith carreg lle roedd difrod gwael.
Yn ystod y gwaith hwn, cafodd rhan o’r wal ger Pont Caerdydd ei gostwng i wella golygfeydd i’r parc o Stryd y Castell. Mae’r wal nodedig wedi cael ei chadw er mwynhad cenedlaethau’r dyfodol.