Cŵn

Cyhoeddwyd 28th Mai, 2020

Mae croeso i gŵn ym Mharc Bute ond mae rhai mannau lle dylid eu cadw ar dennyn.

  • Safleoedd ecolegol sensitif, caffis ac ardaloedd chwaraeon yw’r rhain sy’n cael eu nodi’n glir.
  • Dylai eich ci bob amser fod dan eich rheolaeth chi a dylech chi gadw eich ci o fewn golwg ar bob adeg. Diben hyn yw diogelu bywyd gwyllt, cŵn eraill a defnyddwyr eraill y parc.
  • Cadwch y tennyn wrth law trwy’r amser – gallai fod ei angen arnoch.
  • Codwch faw eich ci. Dylid rhoi baw ci mewn bag wedi’i selio’n dynn a’i daflu yn un o’r biniau sbwriel cyffredinol. Yn ogystal â bod yn wrthgymdeithasol, mae baw cŵn yn newid lefelau maetholion y pridd ac yn gallu peryglu blodau a chreaduriaid prin.
  • Byddwch gystal â chydymffurfio ag arwyddion rhybudd sydd o bosib yn cael eu harddangos yn ystod tymor nythu’r adar.