Gwaith Cynnal a Chadw Tir Arfaethedig

Cyhoeddwyd 17th Ion, 2024

Mae tîm y Parciau yn gweithio yn yr ardal hon i wneud gwaith rheoli llystyfiant arferol i adfer Parc Bute i’w gyflwr cyn y pandemig.

Mae’r gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r holl weithdrefnau statudol a’i gwblhau fesul cam (dros sawl blwyddyn) i leihau unrhyw effaith bosibl ar fywyd gwyllt.

Yn flaenorol, roedd banciau camlas gyflenwi’r dociau yn glir o goed hunan-hau ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf nid yw wedi bod yn bosibl gwneud y gwaith cynnal a chadw blynyddol hwn.  Roedd llai o gapasiti staff yn ystod pandemig Covid 19 yn golygu na ellid cwblhau’r gwaith hwn, ac mae wedi arwain at ordyfiant yn yr ardal.

Mae gwasanaethau’r parc yn dymuno dychwelyd yr ardal i’w chyflwr blaenorol ac wedi rhoi cynllun ar waith ar gyfer rhywfaint o waith cynnal a chadw wedi’i dargedu. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar goed hunan-hau a rhywfaint o lystyfiant sydd wedi tyfu ar hyd Camlas Gyflenwi’r Dociau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Bydd y gwaith hwn yn helpu i gynnal cyflwr a llif camlas gyflenwi’r dociau.

Mae llystyfiant gormodol yn effeithio ar lif camlas gyflenwi’r dociau sy’n bwydwr hanfodol i ddociau Caerdydd trwy gyflenwi dŵr ffres yn gyson. Am fwy o wybodaeth am bwrpas a hanes camlas gyflenwi’r dociau dilynwch y ddolen hon i’n gwefan – Camlas Gyflenwi’r Dociau – Parc Bute (bute-park.com)

Fel arfer, byddai’r gwaith hwn wedi’i gwblhau cyn i’r llystyfiant gael cyfle i dyfu i’w lefel bresennol, fodd bynnag, gohiriwyd rhai tasgau yn ystod y pandemig ac mae’r tîm arobryn ymroddedig ym Mharc Bute yn parhau i weithio’n galed i ddychwelyd y parc i’w gyflwr cyn y pandemig, cynnal ei statws Baner Werdd, a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn galon werdd y ddinas.

Mae’r gwaith wedi’i drefnu gan y cyngor a bydd yn cael ei wneud gan y ceidwaid a’n tîm cynnal a chadw parciau.

Rydym yn dechrau’r prosiect hwn ym mis Ionawr 2024 i sicrhau nad yw’n ymyrryd â’r tymor nythu adar sy’n dechrau ar ddechrau mis Mawrth ac yn dod i ben ddechrau mis Awst.