Matiau Trac

Cyhoeddwyd 16th Ebr, 2020

Mae gan Barc Bute tua 25 o fatiau trac a 2 rolyn o rwyll atgyfnerthu glaswellt.

  • Mae matiau trac yn 2.44m x 1.22m (8 troedfedd x 4 troedfedd)
  • Caiff y matiau a’r rholiau eu storio yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute mewn ardal gaeedig ddiogel.
  • Mae’r matiau a’r rholiau yn ddigon ysgafn i ddau berson eu ‘cludo â llaw’ i mewn i lori neu wely gwastad a’u cludo i’r safle.
  • Mae’r matiau ar gael i’w llogi gan Drefnwyr Digwyddiadau am £10 y mat, yr wythnos + TAW [Pris cost dros £80 + TAW]
  • Gall Goruchwyliwr eich Safle eich helpu i gasglu a dosbarthu os oes angen.

Os ydych yn dymuno llogi’r matiau trafodwch mewn da bryd gyda Swyddog Digwyddiadau Parc Bute. Cânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Gweler Gofalu am Dir ym Mharciau Caerdydd
Gweler Gwarchod y Tir

Canllawiau ar bob digwyddiad