Diogelu’r Tir

Cyhoeddwyd 16th Ebr, 2020

Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i gyflwyno dirwyon i Drefnwyr Digwyddiadau am unrhyw ddifrod a achosir i’r tir a’r coed o ganlyniad i’w digwyddiad.

Gall y dirwyon hyn fod yn sylweddol ac ni ellir eu negodi, dylech eu hosgoi drwy baratoi.

Dylid defnyddio deunydd diogelu tir i ddiogelu ardaloedd glaswellt rhag difrod posibl a achosir gan gerddwyr a cherbydau, i atal traul y glaswellt, tyllu a difrod.

Trefnydd y Digwyddiad sy’n gyfrifol am gynllunio a rheoli eich digwyddiad mewn modd sy’n lleihau difrod i’r safle, ac am gytuno ar gynllun diogelu’r ddaear  gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parc.

Gweler Bond
Gweler Gofalu am Dir ym Mharciau Caerdydd
Gweler Gofalu am Goed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Matiau Trac
Gweler Tywydd

Canllawiau ar bob digwyddiad