Tywydd

Cyhoeddwyd 17th Hyd, 2022

Mae’r tywydd yn ffactor sy’n berthnasol i ddigwyddiadau a gynhelir mewn parciau a mannau agored.

Mae monitro’r tywydd yn allweddol i unrhyw ddigwyddiad awyr agored gan y gall amodau’r tywydd effeithio ar lwyddiant y digwyddiad, a hefyd fod yn beryglus a rhoi mynychwyr mewn perygl posib.  Gall effeithio ar ffigurau presenoldeb, sefydlogrwydd eich strwythurau, amodau’r ddaear, yn ogystal ag iechyd a diogelwch eich staff a’ch gwesteion.

Dylai Trefnwyr Digwyddiadau ei gwneud yn gyfrifoldeb arnynt i wirio rhagolygon y tywydd yn aml ar gyfer lleoliad eu digwyddiad yn y cyfnod yn arwain lan at y digwyddiad (wrth greu strwythurau’r digwyddiad ac ar ddiwrnod(au) y digwyddiad) a gwneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer tywydd garw ac amodau eithafol. 

Ffactorau tywydd eithafol y dylech eu hystyried wrth gynllunio:

  • Tymheredd Uchaf
  • Tymheredd Isaf
  • Cyflymder y Gwynt (gwynt amgylchynol a chyflymder uchaf hyrddiadau gwynt a ragwelir)
  • Glaw

Monitro’r tywydd yw’r amddiffyniad gorau rhag tywydd garw gan ei fod yn eich galluogi i weithredu cyn i’r amodau gydio ac felly osgoi sefyllfaoedd peryglus. Gellir defnyddio safleoedd y Swyddfa Dywydd a Thywydd y BBC i fonitro rhagolygon tywydd hirdymor a thymor byr.

Byddem yn disgwyl gweld cynlluniau wrth gefn ar gyfer y tywydd yn cael eu cynnwys yn eich asesiad risg a’ch cynlluniau gweithredol.  Nodwch y canlynol yn benodol:

  • Enw(au) y bobl yn eich tîm digwyddiadau sydd â chyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau’n gysylltiedig â’r tywydd bob dydd y byddwch ar y safle yn ein lleoliad.
  • Pryd byddan nhw’n gwneud penderfyniadau ac ar sail pa ddata? E.e. Oes gennych adeg penderfynu “Bwrw ymlaen/Peidio â bwrw ymlaen” yn ystod pob diwrnod y digwyddiad? Pa ffactorau sy’n effeithio ar ganlyniad y penderfyniad?
  • Pa gamau gweithredu sydd yn eich Cynllun Rheoli Diogelwch Digwyddiad ar gyfer tywydd eithafol o fathau gwahanol?

Cyfrifoldeb trefnydd y digwyddiad yw cynllun rhag tywydd gwlyb ac mae Rheolwr Digwyddiadau’r Parc yn cadw’r hawl i gau’r cyfan neu ran o’r safle os nad oes cynllun effeithiol yn achos tywydd gwlyb ar waith pan fo angen. Bydd Rheolwr y Parc yn gwneud penderfyniad ar sail y peryglon i ddiogelwch y cyhoedd a’r peryglon ariannol i’r Cyngor a fyddai’n deillio o ddifrod tebygol i’r lleoliad.

Gweler Bond  
Gweler Gofalu am Dir ym Mharciau Caerdydd
Gweler Gofalu am Goed ym Mharciau Caerdydd
Gweler Cynlluniau Argyfwng
Gweler Diogelu’r Tir
Gweler Matiau Trac

Canllawiau ar bob digwyddiad